Βι¶ΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Ffeithiau

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

cardiffbus2032.jpgDyma ddwy ffaith i chi.

1. Mae grΕµp swyddogol sy'n rhoi cyngor arbenigol i lywodraeth y cynulliad ar drafnidiaeth wedi arghymell cael gwared ar y polisi o roi pasys bysiau am ddim i bob bensiynwr. Mae hynny'n ffaith.

2. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb trwy ddweud hyn "Rydyn ni wedi nodi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael gwared ar gynllun llwyddiannus a phoblogaidd ... Does dim cynllun i newid y rheolau sy'n pennu pwy yw'r bobl sy'n elwa ar y cynllun". Mae hynny hefyd yn ffaith.

Mae Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi cyhoeddi ar sail y ffeithiau uchod.

Argwefan y Llywodraeth ceir ymateb swyddogol i'r stori. Mae'r datganiad ond wedi ei gyhoeddi yn Saesneg. Mae'n ymddangos ar y wefan Gymraeg yn yr iaith fain sy'n arwydd o frys, efallai. Ta beth, dyma fe.

Putting the record straight

Βι¶ΉΤΌΕΔ Wales has been running a story this morning [Wednesday] about plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme. We also informed the Βι¶ΉΤΌΕΔ that there were no plans to change the entitlement

Iawn. Gadewch i ni drafod y ffeithiau er mwyn sicrhau bod y record yn gwbwl gywir.

Efallai y gall rhywun o Lywodraeth y Cynulliad esbonio lle yn union y mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi honnu bod yna "plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme" ?

Oes 'na unrhyw beth sy'n ffeithiol anghywir neu sy'n rhoi cam-argraff yn stori'r Βι¶ΉΤΌΕΔ? Hyd y gwela i, nac oes.

Ydy datganiad y Llywodraeth ar y llaw arall yn ffeithiol gywir ynghylch stori'r Βι¶ΉΤΌΕΔ? Nac ydy, yn fy marn bersonol i.

Diweddariad;

Mae'r datganiad wedi ei newid. Dyma mae'n ei ddweud erbyn hyn.

Βι¶ΉΤΌΕΔ Wales has been running a story this morning [Wednesday] which may have raised concerns about the future of the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme.

Dydw i ddim yn un i glochdar ond...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:22 ar 5 Awst 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Dw i ddim yn siwr beth i'w wneud o'r polisi, ar un llaw, mae'n un holl wyrdd gan annog defnydd o'r bysiau, a thra roeddwn yn gweithio yn y cymoedd, roeddwn yn siarad a rhai pobl oed pensiwn a oedd yn mynd i rhywle gwahanol pob dydd am dro bach - ac yn siwr o fod yn gwario ar fwyd, siopa ayyb.

    Ond mae fy rhieni a pherthnasau yn byw yng nghefn gwlad, a byddai rhaid i ambell un ohonynt gerdded sawl milltir i'r arhosfan bws agosaf, a hyd yn oed wedi cyrraedd arhosfan bws tydy'r gwasaneth ddim yn un cyflawn iawn wedyn.

    Mae'n ymddangos nad ydy'r manteision yr un fath i bawb. Sut yn union mae'n cael ei ariannu yng Nghymru?

    Mae'n ymddangos bod y sutem ariannu yn Lloegr yn cosbi'r mannau sydd a'r cysylltiadau bysiau gorau (mannau 'hub') ond sydd ddim efallai'n gweld y manteision o gael pobl gwario'n lleol. Roedd erthygl yn y Guardian dydd Sadwrn yn sΓ΄n sut roedd Cyngor Tref Preston yn gorfod dod o hyd i arbedion o Β£1m+ gan bod pobl yn newid bysiau yn y dref i gyrraedd llefydd fel Blackpool.

    Ble bynnag mae person yn dechrau pob siwrnai sy'n gorfod talu. Ydy o'n wahanol yng Nghymru?

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²µ΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.