Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw mewn bocs

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

tycon.jpgMae'n brofiad y mae bron pob un ohonom wedi ei gael- ymweld â thŷ neu fflat wedi ei adeiladu'n ddiweddar a rhyfeddu bod y lle mor gythreulig o fach. Mae sawl fflat yn ddim byd mwy nag un ystafell a bathrwm gyda rhyw fath o "gegin micro" wedi ei chynnwys yn rhywle. I'r rheiny ohonom sy'n byw ynghanol llanast o lyfrau ac annibendod cyffredinol mae ceisio dychmygu'r ddisgyblaeth, filwrol bron, y byddai angen i fyw yn y fath le yn dipyn o dasg.

Mae yn rhoi dipyn o gnawd gwrthrychol ar esgyrn goddrychol profiadau o'r fath. Ar gyfartaledd mae cartrefi Prydain yn mesur 76 medr sgwâr y maint lleiaf yn Ewrop. Yn y rhan fwyaf o wledydd mae'r cyfartaledd dros 100 medr sgwâr.

Am wn i yng Nghymru ym Mae Caerdydd y mae'r nifer fwyaf o'r cytiau cwningod sy'n cael eu galw yn gartrefi'r dyddiau hyn. Mae 'na gannoedd os nad miloedd ohonyn nhw yn wag a bron yn amhosib eu gwerthu yn sgil y wasgfa ariannol. Flwyddyn yn ôl roedd y llefydd yma'n gwerthu am £120,000 a mwy.

Fe fyddai synnwyr cyffredin yn awgrymu y gallai cymdeithasau tai brynu rhai o'r fflatiau yma i ddatrys y broblem tai fforddiadwy. Yr hyn sy'n rhwystro hynny rhag digwydd yw eu bod yn rhy fach i i gwrdd â throthwy ""- y safonau y mae darparwyr tai cymdeithasol yn gorfod ufuddhau iddyn nhw.

Hynny yw dyw'r llefydd yma ddim yn ddigon mawr i bobol allu byw bywyd normal ynddyn nhw. Nid fi sy'n dweud hynny. Cyfraith gwlad sy'n dweud hynny. Efallai eu bod nhw'n newydd ac yn sgleiniog ond mae 'na hen, hen air am y llefydd 'ma. Slymiau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:36 ar 12 Awst 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Cywir Vaughan. Rhan o'r broblem hefyd yw fod prynwyr ac arwerthwr tai ym Mhrydain yn hysbysebu tai yn ol faint o ystafelloedd sydd ynddynt yn hytrach na'r fetr sgwar. Yn y cyfandir mae pobl yn edrych am fflat sy'n 75m sgwar dweder, fan hyn 2 stafell wely ... wrth gwrs, gall yr ystafelloedd gwely hynny fod dim mwy na chwpwrdd - ac yn amlach na heb, dyna ydyn nhw.

    Sylwch y tro nesa fyddwch chi dramor fel mae'r hysbysebion i gyd yn son am faint y fflatiau a'r tai.

    Yr ateb yn rannol felly yw i bobl ddechrau holi ac hysbysebu llefydd yn ol eu maint nid nifer yr ystafelloedd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.