Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Snogio

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009

Doeddwn i ddim yn y Bae heddiw. Dydw i ddim felly wedi cael llawer o amser i ystyried ond o gael cip olwg sydyn mae'n ymddangos yn ddarn trylwyr iawn o waith.

Rwy'n arbennig o falch bod Syr Roger a'i dîm wedi rhoi sylw i'r ffordd y mae rhai aelodau'n rhenti swyddfeydd gan eu pleidiau, stori gafodd gryn sylw gan y Â鶹ԼÅÄ wythnos ddiwethaf. Mae eu hargymhellion yn gwneud synnwyr. Fe fyddai'n hurt i wahardd aelodau rhag defnyddio swyddfeydd canolog a chyfleus sy'n adnabyddus i'w hetholwyr. Ar y llaw arall mae angen sicrhau nad yw'r rhent yn rhyw fath o gymhorthdal cudd i'r blaid. Mae ateb Syr Roger yn un syml. Fe ddylai rhent teg gael ei bennu gan syrfewr annibynnol wedi ei benodi gan y cynulliad. Call iawn.

Lle'r oeddwn i heddiw? Yn snogio gyda Elin Jones! Nid yn llythrennol, wrth gwrs. Roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Sefydliad Bevan i drafod dwy flynedd o lywodraeth Cymru'n Un lle wnaeth Elin y sylw yma "os ydych chi eisiau clymblaid lwyddiannus mae'n rhaid i chi snogio pob partner posib".

Brinle hyd yn oed, Elin? Fe wna i brynu tocyn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:13 ar 6 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd lombardpuncture:

    Mae'n swnio o Twitter fod dy araith yn ddiddorol a da - oes gobaith am gael ei gweld yma?

  • 2. Am 19:38 ar 6 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae hi yn Saesneg ac yn llawn o "typos" a cham sillafiadau. Fi wedi'r cyfan oedd yn gorfod darllen y peth! Fe fydd Sefydliad Bevan yn cyhoeddi'r papurau ar ôl eu caboli ond os oes unrhyw un eisiau gweld y fersiwn amrwd e-bostiwch fi "vaughan.roderick@bbc.co.uk" ac fe wna i ddanfon copi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.