Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

I'r pant y rhed...

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2009

Banc.jpg
Bob tro rwy'n cwrdd â phobol Plaid Cymru'r dyddiau 'ma rwy'n clywed am ryw swydd newydd neu'i gilydd sydd wedi ei chreu o fewn y blaid. Mae hwn neu'r llall yn mynd i ofalu am y "brand" neu mae hwnco mwnco (neu i bobol Rhos ene nene) yn mynd i weithio yn yr uned datblygu.

I unrhyw un sydd wedi arfer â Phlaid Cymru fel plaid llaw i geg yn byw o un apêl Gŵyl Ddewi i'r nesaf mae maint ei pheirianwaith canolog bellach yn rhyfeddol.

Y cwestiwn naturiol sy'n codi yw pwy sy'n talu- neu o ble mae'r arian yn dod?

Bant a fi felly i siop anoracs y lle mae cyfrifon y pleidiau'n cael eu cyhoeddi.

Heddiw cyhoeddwyd y wybodaeth bod incwm Plaid Cymru yn ganolog yn £998,571 yn 2008- rhyw dri chan mil yn fwy na'i gwariant. Roedd incwm y blaid yn sylweddol uwch nac incwm y Blaid Werdd (£546,406) ac UKIP (£602,003) trwy Brydain gyfan.

Yr hyn sy'n drawiadol yw faint o arian y mae'r blaid yn derbyn o ewyllysiau- dros £600,000 o dair ewyllys mewn cyfnod o bedwar mis y llynedd, er enghraifft. Efallai bod y blaid yn elwa o'r ffaith bod nifer o'r rheiny oedd yng nghanol berw gwleidyddol y chwedegau bellach yn tynnu at derfyn oes!

Yr hyn sy'n anoddach mesur o safle'r comisiwn yw faint o "arian meddal" y mae'r blaid yn ei dderbyn oherwydd ei bod bellach yn blaid fawr, lywodraethol.

Rwyf am ddewis fy ngeiriau yn ofalus iawn yn fan hyn. Dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod Plaid Cymru nac unrhyw blaid arall yn gwerthu dylanwad na mynediad i'w harweinwyr a'i gweinidogion. Serch hynny mae'n ffaith syml bod plaid sydd mewn grym yn ei chael yn haws i werthu byrddau mewn ciniawau, stondinau mewn cynadleddau ayb na phleidiau llai a gwrthbleidiau.

Mae digwyddiadau fel cynhadledd wanwyn y blaid, oedd arfer bod yn dipyn o boen tin i'w trefnwyr, bellach yn fychod godro ariannol. Dyna un rheswm dros y cynadleddau ychwanegol a chiniawau di-ri sy'n cael ei hychwanegu ar galendr y blaid y dyddiau hyn.

Er cymaint yr arian dyw e byth yn ddigon, wrth gwrs! Mae 'na gwestiwn strategol diddorol yn wynebu'r blaid hefyd, sef p'un ai i wario peth o'r gwarged yn yr etholiad cyffredinol neu gadw'r arian yn ôl tan etholiad cynulliad 2011. Cofiwch, mae ambell i broblem yn ddymunol ei chael!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:03 ar 2 Awst 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    Byse pobol Rhos yn deud 'nene ene' nid 'ene nene'. ;-)

  • 2. Am 22:42 ar 2 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Blydi hel! Fe wnes i ofyn Arwyn Jones os oedd y sillafiad yn gywir. Hwyrach bod Wrecsam yn rhy bell o Rhos!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.