Βι¶ΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

io-io

Vaughan Roderick | 22:34, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Fel 'na mae cynhyrchwyr teledu a radio. Mae pob un eisiau i bopeth bod yn berffaith. Roedd "Wales Today" eisiau fy nholi i heddiw ynghylch sylwadau Jonathan Morgan yn y stiwdio yn Llandaf. Roedd newyddion S4C ar y llaw arall yn dymuno holi am yr un pwnc ond y tro hwn yn y senedd. Yn Γ΄l ac ymlaen a fi felly fel io-io rhwng ystafelloedd newyddion y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn Llandaf a'r Bae a hynny i gyd trwy draffic yr Urdd.

Yn y ddwy ganolfan mae'r un cwestiwn yn cael ei ofyn. "Oni ddylwn ni wneud y straeon yma?"

Mae'r cwestiwn ynghylch dau bwnc. Yn gyntaf cyflwr Golwg360 a'r ynghylch y ffordd y cafodd y wefan ei chreu. Yn ail (a chofiwch mai pobol y Βι¶ΉΤΌΕΔ sy'n gofyn y cwestiwn) mae'n ymwneud a'r difrod honedig y gallai cynlluniau S4C i ymhel a darpariaeth newyddion Saesneg ITV achosi i wasanaethau Radio Cymru ac Arlein pe bai gwasanaeth newyddion teledu Cymraeg y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn dod i ben. Dydw i ddim yn credu ei fod yn annheg i ddweud bod nifer o'r "partneriaid" sydd yn cael eu sibrwd yn eu cylch ar gyfer gwasanaeth newyddion Saesneg S4C hefyd yn ymwneud a "Golwg360". Rwy'n gwrthsefyll y temtasiwn i ddweud "Duw a'n gwaredo"!

Mae'r broblem yn un syml. I'r Βι¶ΉΤΌΕΔ fel prif-ddarparwyr newyddion Cymraeg mae rhain yn straeon o bwys i'n defnyddwyr. Does neb arall yn debyg o roi sylw teilwng iddyn nhw. Ar y llaw arall ydy hi'n bosib i ni fod yn niwtral yn eu cylch? Hyd yn oed os oeddwn ni a fyddai pobol yn ein credu neu a fyddent yn ein gweld fe "bwlis mawr y Βι¶ΉΤΌΕΔ" yn ceisio llorio'r gystadleuaeth?

Does gen i ddim ateb.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:44 ar 28 Mai 2009, ysgrifennodd marc jones:

    Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi riportio digon am broblemau HTV yn y gorffennol, ac yn ddigon di-duedd. Be di'r gwahaniaeth efo'r rhain?

  • 2. Am 23:56 ar 28 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Y byd bach Cymraeg mae gen i ofn! Y gwir amdani yw bod yw bod sefyllfa'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn agos at fonopoli mewn newyddiaduraeth Gymraeg.

  • 3. Am 10:46 ar 29 Mai 2009, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    I fi mae hyn yn dangos gwir angen am blog/gwefan anibynnol newyddion a barn ar y cyfryngau Cymreig. Mae'r wybodaeth gyhoeddus am beth sy'n mynd mlaen yn y cyfryngau yn andros o isel, ac mae hyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad oes unrhywun o fewn y cyfryngau yn hoffi rhoi eu pen uwch y parapet rhag cael eu blacklistio.

    Mae gan yr Alban

    Pwy sy'n darparu gwybodaeth felly yma, ac yn bwysicach, pwy sy'n gofyn y cwestiynau caled?

    Neb, ymddengys.

  • 4. Am 10:46 ar 29 Mai 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Wyt ti ddim yn meddwl felly ma y rhithfro sydd wedi gwneud y job orau o adrodd y stori? Dyw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ddim wedi dweud llawer a dyw'r Western Mail ddim chwaith er fod un stori wedi ymddangos yn Dail y Post.

    Mae llawer o'r bobl sydd wedi trafod ffaeleddau y wefan ar flogiau a maes-e yn arbennigwyr yn y maes ac efallai yn edrych ar y peth yn rhy agos ond o leia mae'r peth wedi ei wyntyllu.

    Os oeddech chi'n gwylio'r cyfryngau torfol yn unig fyddech chi ddim callach fod unrhywbeth o'i le. (ond ddim am hir, dwi'n deall).

  • 5. Am 13:24 ar 29 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yr ateb syml i'r cwestiwn yw "ydw". Rwy'n meddwl bod na enghraifftau rhagorol o dyrchu a newyddidura ar wahanol safeloedd. Mae'r gwaith fforensig ynghylch y cylsyltiadau ac India yn arbennig o drawiadol.

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²µ΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.