Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dime dime dime, hen blant bach

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2009

Yn yr hen ddyddiau roedd gwylio'r gyllideb yn dipyn o hwyl. Roedd hi'n braf gweld aelodau seneddol fel Leo Abse yn gwisgo i fyny ar gyfer yr achlysur ac roedd hi'n hilariws ddarganfod o ba le rhyfedd yr oedd Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi penderfynu darlledu ei rhaglenni arbennig. Fe ddaeth y sbort arbennig yna i ben ar ôl i Dewi Llwyd fynnu mai digon oedd digon ar ôl cyflwyno rhaglen o adran dillad isaf merched Marks & Spencer yng Nghaerfyrddin.

Go brin fod unrhyw un yn y cynulliad yn gwenu heddiw. Yn ôl Swyddfa Cymru fe fydd y gyllideb yn golygu y bydd gan lywodraeth y cynulliad £150 miliwn yn llai i wario dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae tablau'r trysorlys yn awgrymu y gallai'r ffigwr fod yn uwch. Dyw gweithio'r union ffigwr allan ddim yn hawdd. Oherwydd maint enfawr y symiau yn nogfennau'r gyllideb mae'r trysorlys yn rowndio i fynnu neu i lawr i'r can miliwn agosaf. Gallai toriad o 0.1 biliwn felly olygu unrhyw beth rhwng £51 miliwn a £149 miliwn.

Roedd cyllideb 2008 yn proffwydo y byddai gan lywodraeth y Bae £14.2 biliwn ar gyfer gwariant cyfredol ac £1.8 biliwn ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2010-2011. Mae'r gyllideb heddiw yn rhagweld £14.0 biliwn (cyfredol) ac £1.7 biliwn (cyfalaf). Ydy hynny'n golygu toriadau o £300 miliwn? Efallai. O bosib. Efallai ddim.

Fe gawn ni ragor o oleuni yn y man.

Diweddariad;

A goleuni a fu. Yn ol llywodraeth y cynulliad mae'r gyllideb yn golygu torridau o £216 miliwn (cyfredol) a £200 miliwn (cyfalaf). Poenus.


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.