Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Owainbevan (5)

Vaughan Roderick | 13:46, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Mae Rhodri'n grac da fi.

"Least said, soonest mended" Dyna oedd geiriau'r Prif Weinidog ar ddechrau ei gynhadledd newyddion heddiw gan fynnu nad oedd yn dymuno trafod materion plaid (megis gwefan Aneurin Glyndŵr) yn ystod cynhadledd "lywodraethol" gyda'i ddirprwy (clown yn ôl AG) yn eistedd wrth ei ochor.

Fedrwch chi feio fi am drio?

"Oedd y Prif Weinidog wedi gofyn i AG ymddiheuro i Ieuan, tybed?" Cwestiwn digon teg yn fy marn i.

Os do fe. Roedd Rhodri'n gandryll. Doedd a wnelo a fe ddim byd a'r wefan. Roeddwn i'n ddrygionus trwy awgrymu bod e wedi cymeradwyo'r safle neu'n gwybod am ei gynnwys o flaen llaw. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod wedi awgrymu hynny ond roedd Rhodri am fod yn gwbwl eglur. Doedd e ddim wedi cymeradwyo'r wefan meddai a doedd Paul Murphy ddim wedi gwneud chwaith.

Os felly sut mae esbonio'r Post yma ar tybed?

Lots of encouraging feedback since we went live last night. Here are two special endorsements we'd like to share with you:

"This brand new political website is definitely one to watch!"
- Rt Hon Rhodri Morgan AM, First Minister for Wales

"I welcome this important new initiative. We must not surrender the internet to our opponents."
-Rt Hon Paul Murphy MP, Secretary of State for Wales and Minister for Digital Inclusion

Fe wnes i ofyn hynny hefyd ond ces i ddim ateb.

I ychwanegu at ddiwrnod swrrealaidd y tu fas i'r Senedd y bore 'ma roedd grŵp o wrthdystwyr o'r Rhondda yn protestio yn erbyn cau pwll nofio Treherbert. Roedd y criw wedi sgwennu cân brotest arbennig ar y dôn... Delilah! A phwy oedd yn ffilmio'r brotest? David Taylor!

Fe wnes i awgrymu wrth David efallai ein bod wedi cael hen ddigon o Delilahs yn ystod y dyddiau diwethaf. Cefais ateb digon swrth.

"Do" meddai.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:05 ar 31 Mawrth 2009, ysgrifennodd Sali Salw:

    Mae Rhodri Morgan yn gwneud lot o hyn, sef pwdu pan fod rhywun yn gofyn cwestiwn nad yw'n hapus ag ef. Yn anffodus mae newyddiadurwyr y Â鶹ԼÅÄ yn dueddol o fynd nol i'w cragen ac yn uffuddhau iddo, dro ar ol tro. Cymharer y galw ar Nick Bourne i ymddiswyddo/ymddiheuro gyda'r easy ride mae Rhodri Morgan wedi ei gael.

    Os mai fe yw bos Llafur Cymru unai does ganddo ddim awdurdod a dim rheolaeth dros ei blaid neu mae'n euog o sarhau ei gydweithiwr. Dyw e methu ei chael hi ddwy ffordd. Digwyddodd hwn ar ei 'watch' ef a neb arall.

    Sut mae Rhodri Morgan yn cael get-awe a Nick Bourne ddim? A gobeithio fod IWJ yn godro Llafur am gonsesiynnau ym maes yr LCOs yn sgil agwedd uwch-fonheddigaidd Ieuan i'r holl ffrae.

  • 2. Am 15:14 ar 31 Mawrth 2009, ysgrifennodd Owain :

    Diolch Vaughan.

    Diolch am ddangos pa mor hurt ma’r llywodraeth yma, a'i arweinyddion, yn gallu bod weithiau.

    Mae na gymaint o bethau sy'n digwydd yn y Cynulliad nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt. Dwi'n deall nad oes lle ar Wales Today na Newyddion am 7 i'r straeon yma a bod materion pwysicach yn dominyddu ond mewn democratiaeth, mae'n bwysig fod pobl yn gwybod am y pobl sy'n eu harwain a’u gweithredodd.

    Ieuan Wyn Jones yn gwrthod ymddangos o flaen pwyllgorau.....

    Rhodri Morgan ddim yn ymwybodol o Blaid Cymru yn gofyn am £3 biliwn gan y DU, er mai Ieuan Wyn Jones yw eu harweinydd, Gweinidog yr Economi a dirprwy Rhodri....

    I could go on and on and on........

  • 3. Am 16:42 ar 31 Mawrth 2009, ysgrifennodd Doris:

    Os yw Rhodri Morgan yn gwadu ei fod wedi cymeradwyo'r wefan yna pam yn y byd mae ei eiriau yn dal i ymddangos yno rai dyddiau ar ol i'r mater ddod i'w sylw?

    Pwy sy'n twyllo pwy? Peter, Eluned ac Alun wedi twyllo Rhodri neu Rhodri yn ein twyllo ni.

    Tybed a fydd geiriau Rhodri yno bore fory?

  • 4. Am 15:05 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Oes na footage o Rhodri yn colli ei dymer hefo chdi; mae cyfrannwyr fy mlog yn gofyn?

  • 5. Am 16:04 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd vaughan:

    Oes, fe wnai weld os oes modd ei gyhoeddi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.