Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 00:06, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.

Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!

Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.

Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.

Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.

Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.

Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig gannoedd neu filoedd o bobol sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?

Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:34 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd blogmenaio:

    Fyddwn i ddim yn poeni'n ormodol.

    'Dwi'n blogio'n rheolaidd a 'dwi'n defnyddio dull 'sgwennu sy'n gyfaddawd rhwng fy iaith lafar a fy iaith ysgrifenedig.

    Dyna ti'n ei wneud - ac yn fy marn bach i, dyna'r ffordd briodol i flogio.

  • 2. Am 00:50 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Iesgob Annwl:

    Cytuno'n llwyr bod angen i'r Gymraeg fod yn hyblyg - mewn gwirionedd mae'n fy mhoeni i yn fwy i weld gwallau gramadegol syml fel diffyg atalnod llawn a ballu, na ffurfiau tafodieithol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae angen rheolau - ac er ei bod yn wir i ddweud mai ychydig gannoedd ohonom ni sy'n cyrraedd unrhyw safon ac yn gwbl hyderus gyda'r iaith ysgrifenedig, y peth pwysica' ydy ein bod ni'n trafod ac yn dadlau am y pethau 'ma yn agored. Neu fel arall sut ydyn ni i fod i ddysgu?

  • 3. Am 01:35 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Posib dweud mwy am yr ystadegau Vaughan? Ffigyrau?

  • 4. Am 04:12 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Pedant Iaith:

    Am eich bod chi wedi dewis codi'r pwynt yn gyhoeddus, buasai'n well gen i pe tasech chi wedi trafod yr union bwyntiau a godais innau. Dan yr amgylchiadau hyn, fyddai dim ots gen i pe bai'r sylwad o'r blaen yn cael ei gyhoeddi. Eto, does dim ots gen i 'chwaith os penderfynwch y dylai'r drafodaeth ddod i ben fan hyn.

    Fyddwn i ddim yn dychwelyd at y pwynt, oni bai eich bod chi wedi cam-ddehongli fy neges gynt ryw ychydig.

    Nid "mas" vs "maes" (neu "ma's") oedd dan sylw o gwbl gen i. Sylwch na soniais i o gwbl am eich defnydd o "ochor", "pobol", "Dadlau... [y] mae Huw Lewis", "...yn weithred [ ]wleidyddol" a.y.b.. Nid y "tafodiaethol" vs y "clasurol" oedd gen i mewn golwg, ond *cywirdeb" (fel dw i'n ei weld).

    Tri phwynt gramadegol a godais innau yn fy neges, os cofiaf yn iawn (yn ogystal â rhai manion dibwys ynghylch atalnodi ac ati - manion na ddylwn fod wedi eu crybwyll mewn gwirionedd). Yr unig bwyntiau y soniais amdanynt oedd y rhai a wnaeth y gwaith o ddarllen yn anos imi, sef:

    i) y dryswch yn eich blog rhwng ffurfiau berfol unigol a lluosog. Mae hyn i'w weld eto yn y blog diweddaraf: "Ydy [sic] ni'n credu" yn lle "Ydyn ni'n credu" (sylwer, nid wy'n mynnu taw "ydym ni" gydag "-m" sydd i'w ddefnyddio yma).

    Mae'n wir taw gwall teipio yw hwn yn fwy na thebyg, ond mae'n anffodus iawn fod y gwall penodol hwn yn un sy'n lledu ar dudalennau Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd, a dylid gofalu rhag ofn i'r defnydd "swyddogol" yma ei droi yn ffurf 'dderbyniol'.

    ii) Diffyg treiglad meddal mewn berf ar flaen cymal negyddol: "Gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth" yn lle "Wnaeth..." (pwynt bach iawn, mae'n wir, sy'n hawdd ei anghofio wrth ysgrifennu ar frys, ond mae'r treigladau yn bwysig o hyd).

    iii) nid "mai" vs "taw" oedd fy mhwynt i (rydw i, fel un o Sir Gâr, yn hollol o blaid "taw"!), ond "mai" vs "mae" mewn cymalau perthynol.

    Rydym ni'n hollol gytûn y dylid defnyddio "Cymraeg ysgrifenedig ... dealladwy", a hefyd rwy'n cytuno fod hyblygrwydd y Saesneg yn beth da. Mae'r Â鶹ԼÅÄ Saesneg yn lle gwych i glywed - ac i ddarllen - trafodaethau am gywirdeb ac esblygiad ieithyddol. Eto, mae byd o wahaniaeth rhwng sefyllfaoedd y ddwy iaith.

    Efallai y dylwn ychwanegu fy mod i'n parchu'ch gwaith chi yn fawr iawn - a hefyd waith William Williams, er na fyddwn i'n mynd â'r gymhariaeth yn rhy bell (^^), ac - ie - roedd y neges i fod yn "garedig"! 'Mond dadlau er mwyn y ddadl, efallai - ond mae'n ddadl bwysig.

    Diolch ichi. Rwy'n gobeithio fod hyn wedi egluro fy marn ryw ychydig.

    (Gan ymddiheuro am unrhyw wallau teipio yn y neges frysiog yma!)

  • 5. Am 08:29 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Wil:

    Cytuno'n llwyr. Mae sawl cywair i iaith a does dim mor chwithig ag arddull lenyddol yn cael ei gwthio ar drafodaethau anffurfiol.

    Ac os nad yw'r bobl yr anelir atyn nhw'n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud neu'i ysgrifennu mewn unrhyw iaith mae'r awdur wedi methu. Byddai'n well iddo fo neu hi ganolbwyntio ar weu.

    Ond, i hollti blew ac i ddangos y gallaf innau fod yn bedant hefyd, mae 'sicrhâi' yn codi fy ngwrychyn. 'Sicrhau' yw'r sillafiad cywir.

  • 6. Am 11:50 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Chris Cope:

    Mae hwn yn gwestiwn sy'n codi ei ben yn aml yn y Gymraeg. Rydw i'n credu taw diffyg siaradwr "cyffredin" yw rhan o'r broblem. Mae yna lwyth o bobl sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-ffurfiol ac mae yna lwyth sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-dafodieithol. Ond does yna uffern o lawer ohonom sy'n bodoli yn y canol. Felly mae'n anodd dod o hyd iaith gyffredin, anodd dod o hyd diffiniad o beth yw'r fath beth.

    Ar fy rhan i, rydw i'n anelu at ddefnyddio iaith Wlpanaidd gyda sillafu cywir. Yn fy marn i, does pwynt i sillafu gair yn "anghywir" er mwyn gweddu ei ynganiad. Megis "falle" yn lle nag "efallai" -- gellir ynganu gair yn ôl pa bynnag awydd ond does angen ei sillafu'n wahanol. Oherwydd mae'n achosi drysu -- yn enwedig ymhlith ni dysgwyr annwyl. Allem ni ddim canfod y gair yn ein geiriaduron.

    A dyna ddylai fod yn amcan ryw iaith gyffredin -- bod yn ddealladwy i gynifer â phosib. Ar y cyfan rydw i'n credu eich bod yn llwyddo yma.

  • 7. Am 01:20 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fel ddwedais i fe wnes i gymryd y post fel un caredig. Efallai bod 'na werth i fi nodi un peth. Er bod y blog yma'n ymddangos ar wefan y Â鶹ԼÅÄ, fi, a fi'n unig, sy'n gyfrifol am y cynnwys. Mae 'na fanteision ac anfanteision yn hynny ond does na ddim "staff" enfawr yn gofalu am y cynnwys. Y gwir amdani yw fy mod yn tueddu bod yn weddol llipa o safbwynt cywirdeb ieithyddol wrth flogio yn fy amser hamdden.

  • 8. Am 01:31 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    O Chris, gwir pob gair. Pam ar y ddaear y mae pobol yn mynnu bod "Mae nhw" yn anghywir a "maen nhw" yn gywir ac eithrio bod Syr John Morris Jones wedi penderfynu hynny ar fympwy? Fe fydd rhyw un yn cynnig esboniad!

  • 9. Am 18:25 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Pedant Iaith:

    Mae "nhw" yn rhagenw personol, ac maen nhw (a ni) yn dilyn y rheol sillafu yma er mwyn i eraill fedru deall ein brawddegau.

    Yn hanesyddol, siwr iawn, y rheswm dros y gwahaniaeth yma yw bod "maen nhw" yn deillio o "maent (hwy)", a'r terfyniad berfol yn "-t" yno yn glir. Wrth golli'r "-t" ar lafar (ac mewn cyweiriau llai ffurfiol) mae angen cadw'r "-n" er mwyn gwahaniaethu.

    Arfer a chonfensiwn yw'r cyfan, wrth gwrs, megis pob rheol iaith. Ond mae rheolau o'r fath yn bwysig, a hebddi nw byzhe ny miwn tipun o bucyl ac yn ool yn y kanol oesoet nev rywbet! :)

  • 10. Am 21:17 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm.. Dyma gwestiwn caled. Rwyf i yn 'pedantic' eithradol yn y Saesneg, ond mae gramadeg fy Nghymraeg yn wael iawn.. ac yn mynd yn waeth.

    Trici iawn...

  • 11. Am 21:43 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diawl, mi wyt ti'n dda!

  • 12. Am 16:36 ar 6 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Mae datblygiad iaith yn ddeinamig. Buaswn wrth fy modd yn darllen blogs Vaughan yn iaith tects....P9n 'ma, neu dros y Pen8nos.....

  • 13. Am 21:13 ar 6 Ionawr 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Pedant - ti'n codi nifer o bwyntiau da a dwi mewn parchedig ofn o dy allu i ddeall gramadeg. Ond, gan gymryd fod gwahaniaeth rhwng 'Maen nhw' a 'Mae nhw' tydw i heb gam-ddeall beth sydd gan Vaughan neu eraill dal sylw. Mae'r un peth yn wir am 'Ydyn nhw' (yn hytrach na'r anghywir 'ydy nhw'). Mae'n rhaid cael safon ond onid y cwestiwn a yw'n amser i ni newid beth yw'r safonnau hynny. Os nad ydy pobl yn cael trafferth deall fod Mae nhw yn cyfleu mae'n nhw, yna oni ddweud mai 'mae nhw' / ydy nhw' sy'n yw'r ffurf safonnol bellach?

    Iesgob, os nad ydy Vaughan ac eraill methu sgwennu Cymraeg cywir, yna pwy ddiawl sydd? Efallai ei bod yn amser symleiddio pethau?

    Pwynt Chris Cope yn un da - doeddwn i hwb feddwl am beth o'r safbwynt honno o'r blaen.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.