Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

HHH

Vaughan Roderick | 13:33, Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2009

Roedd hi'n anorfod bron y byddai rhywun yn rhywle yn darganfod bod gan Barrack Obama gysylltiadau Cymreig. Does neb wedi awgrymu, hyd y gwn i, mai Ab Ama yw'r sillafiad cywir ond mae archifydd Cyngor Môn wedi darganfod bod gan yr Arlywydd wreiddiau yng Nghaergybi.

Er bod Carwyn Jones wedi dweud heddiw ei fod yn gobeithio y byddai'r Arlywydd yn ymweld â'r cynulliad (do, fe ddywedodd e hynny, onest!) dydw i ddim yn dal fy anadl. Er bod y Cymry, fel cenhedloedd eraill Ewrop, yn hoffi "hawlio" gwleidyddion America ychydig iawn o'r gwleidyddion hynny sy ad-dalu'r ddyled- os nad oes 'na fantais etholiadol! Mae gan Obama wreiddiau Gwyddelig hefyd. Os oedd e'n dewis ymweld â Moneygall neu Gaergybi does dim dwywaith gen i mai i Swydd Offaly y byddai fe'n mynd!

Yr unig wleidydd Americanaidd dw i'n ei gofio'n arddel ei wreiddiau Cymreig oedd Hubert Horatio Humphrey a hynny er bod ei deulu wedi croesi Môr Iwerydd yn 1648. Erbyn heddiw mae Humphrey yn cael ei gofio'n bennaf fel dirprwy Lyndon Johnson a'r gŵr wnaeth golli i Richard Nixon yn 1968.

Mae digwyddiadau gwaedlyd y flwyddyn honno gan gynnwys saethu Martin Luther King a Robert Kennedy a'r terfysgoedd y tu allan i Gonfensiwn y Democratiaid yn Chicago wedi taflu cysgod dros yrfa Humphrey. Dyma flas o'r confensiwn.

Mae'r gân yma gan Tom Lehrer yn cyfleu maint dirmyg y chwith tuag at Humphrey.

Ond ar ddiwrnod hanesyddol mae'n werth oedi am eiliad ac ystyried cyfraniad Humphrey. Y rheswm am hynny yw mai'r achos oedd yn nodweddu ei yrfa yn fwy na dim oedd hawliau sifil.

Cyn dyddiau Rosa Parkes a King roedd Humphrey yn fodlon peryglu ei yrfa trwy ddadlau yn erbyn y ffordd yr oedd pobol ddu'n cael eu hamddifadu o'u hawliau. Yn 1948 Humphrey oedd yn bennaf gyfrifol am gynnwys ymroddiad i hawliau cyfartal yn rhaglen etholiadol Truman. Am dros bymtheg mlynedd ef oedd prif lefarydd Y Democratiaid ar hawliau sifil ac ef oedd yn rheoli'r llawr yn y senedd yn 1964 pan gafodd y "Civil Rights Act" ei gymeradwyo. Fel dirprwy Johnson roedd ganddo ran allweddol wrth sicrhâi bod y "Voting Rights Act" hefyd yn cyrraedd y llyfr statud. Mae'n anodd dychmygu y byddai Barack Obama yn Arlywydd heb y mesurau hynny.

Dydw i ddim yn gweld llawer o bwynt mewn hawlio Obama ond gan fod Humphrey yn ymfalchïo yn ei wreiddiau Cymreig hwyrach y dylwn ni ymfalchïo ynddo ef.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:38 ar 20 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Onid yw Joe Biden yn dod o Scranton ? .
    A oes ryw gyswllt Cymraeg ganddo yntau ?

  • 2. Am 21:32 ar 20 Ionawr 2009, ysgrifennodd Dai :

    Er fyd mod i'n falch i'w weld e'n cymeryd lle Bush......gwell i ni aros hyd nes i ni weld sut hwyl fydd e'n cael wrthi cyn ei wahodd i unrhyw le.

  • 3. Am 22:04 ar 20 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ydy, mae Joe Biden o Scranton oedd yn ganolfan i ymfudwyr o Gymru, ond gan ei fod yn aelod o'r Eglwys Gatholig dw i'n cymryd mae cysylltiad Gwyddelig sy'n cyfri!
    Mae/roedd 'na gysylltiadau Cymreig gan sawl gwleidydd Americanaidd, Jefferson yw'r mwyaf amlwg ond yn y dyddiau modern Humphrey yw'r unig un dw i'n cofio yn eu harddel. Fe wnaeth Carter dreulio gwyliau yng Nghymru od dydw i ddim yn meddwl ei fod yn hawlio cysylltiad teuluol.

  • 4. Am 23:10 ar 20 Ionawr 2009, ysgrifennodd Clebryn:

    Dwi ar ddeall fod gan Jimmy Carter ffarm yn Tregaron, a'i fod wedi treulio amser maeth yn pysgota ar yr afon teifi. Bun bwyta yng ngwesty'r Harbwrfeistr yn Aberaeron y llynedd, wedi iddo draddodi darlith bwysig yng Ngwyl y Gelli.

  • 5. Am 08:17 ar 21 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Daeth Jummy Carter yn drydedd yn y snorclio mewn corsydd peth yn llanwrtyd llynedd.

  • 6. Am 09:42 ar 21 Ionawr 2009, ysgrifennodd Mochyn:

    Vaughan, onid oedd taid Hilary Clinton yn Gymro? Dw i bron yn sicr fy mod i wedi darllen rhywbeth am hyn pan oedd Gordon Brown yn yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod dewis ymgeisyddion ar gyfer yr etholiad.

  • 7. Am 10:10 ar 21 Ionawr 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Roedd ddoe yn fendigedig - ac i mi roedd yr araith yn fendigedig: dwrdio, addo a herio. Roedd o wedi dweud y cyfan yr oeddwn i am iddo fo ei ddweud o fewn ychydig baragraffau.

    Ie, iawn fe gawn ni weld sut aiff hi o hyn ymlaen ... Ond, diawl, am y tro, beth am i ni ei hawlio fo?

    Dychmygwch Hywel Teifi fel Americanwr AC yn Arlywydd ac yn cael y cyfle i annerch miliynau o bobl!!

  • 8. Am 18:30 ar 21 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Credaf i mi glywedv hanes am ddarpar ymgeisydd am yr arlywyddiaeth un tro oedd o dras Cymreig, neu hyd yn oed Cymraeg. Yr hanes a glywais oedd ei fod ar fin gael ei gyhoeddi'n arlywydd pryd y sylwyd ar sach o bleidleisiau yng nghornel rhyw ystafell oedd heb eu cyfri. Etholwyd ei wrthwynebydd ar sail y rhain. Credaf fod hyn rhyw 100 mlynedd neu fwy yn ol ( Tydi hanging chards ddim byd newydd ! ).

  • 9. Am 00:44 ar 22 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cywir... ond "Kylie syndrome" yw hynny! Mae 'na wahaniaeth rhwng gwreiddiau ac arddel gwreiddiau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.