Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Darllen rhwng y llinellau (Bournewatch)

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Iau, 15 Ionawr 2009

Diddorol.

Mae 'na ddau ddatganiad newyddion gan y Ceidwadwyr wedi ein cyrraedd y bore 'ma. Does 'na ddim cysylltiad rhyngddyn nhw. Nac oes. Dim o gwbwl.

Mae'r cyntaf yn datgan bod aelodau cabinet yr wrthblaid wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid cynnig o hyder yn arweinyddiaeth Nick Bourne. Cyn i chi ofyn mae "cabinet yr wrthblaid" yn cynnwys pob un aelod o'r grŵp. Does 'na'r un Tori yn gorfod slymio ar y meinciau cefn.

Mae'r ail ddatganiad yn cyhoeddi bod y blaid yn sefydlu pwyllgor i lunio canllawiau newydd i'r aelodau ynghylch hawlio treuliau. Fel dwedais i, dim cysylltiad.

Lle mae hynny'n gadael pethau? Fel hyn dw i'n darllen y sefyllfa. Rwy'n meddwl bod aelodau'r grwp wedi dod at eu iawn bwyll ynghylch y niwed y mae'r ffrwgwd wedi achosi i'r blaid a'u bod yn credu hefyd y gallai orfodi i Nick Bourne sefyll lawr wneud pethau'n waeth. Mae 'na ffactor arall hefyd. Er bod 'na wrthwynebiad i Nick o fewn y grwp dyw hynny ddim yn gyfystyr a chefnogaeth i Jonathan Morgan fel ei olynydd. Does dim dwywaith yn fy meddwl i y byddai Jonathan wedi hogi ei gyllell pe bai ganddo'r pleidleisiau yn ei boced.

Ydy Nick yn saff felly? Ydy, am y tro, o gymryd bod 'na ddim rhagor o faw gan ei wrthwynebwyr i daflu. A fydd Nick yn arwain y blaid i mewn i etholiad 2011? Byswn yn mentro swllt na fydd e....ond mae gobeithion aelod Gogledd Caerdydd o wneud hynny hefyd yn ansicr. Darren Miller sydd ar ei ennill.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:04 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Vaughan,

    Ychydig iawn ydw i'n ei wybod am Mr Millar - ydi o'n ddarpar arweinydd i'r Toriaid go iawn? Pa ddoniau sydd ganddo felly?


    (Gyda llaw, mae'n anodd deall/adnabod y llythrennau a'r rhifau yn y 'blwch isod' ambell waith)

  • 2. Am 13:39 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dw i wedi gofyn i'r bois technegol gael golwg ar y llythrenau 'na!
    Mae Darren yn boblogaidd ymhlith yr aelodau Ceidwadol newydd. Mae ganddo ei gefnogwyr fel darpar arweinydd oherwydd ei fod yn bellach i'r dde na Jonathan Morgan, yn dod o'r Gogledd ( lle mae canran sylweddol o aelodau'r blaid yn byw) ac oherwydd ei fod yn gymharol rhugl yn y Gymraeg (ac yn gwella'n gyflym).

  • 3. Am 13:58 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Idris:

    Cytno am Darren Millar. Ond a oes yna un broblem yn ei wynebu?. Hyd yn hyn ychydig sydd wedi ei wneud o'i ddaliadau crefyddol, ond allai hynny newid ychydig os fydd am esgyn i'r arweinyddiaeth ysgwnni?

  • 4. Am 18:05 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Dwi meddwl fod y wasg yn rhoi reid hawdd i Millar, does yna neb yn cofio be ddoth o allan hefo yn yr hustings yn Rhuthun cyn yr etholiad, hwyrach fasa ti'n ein hatgoffa Vaughan!

  • 5. Am 19:05 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Off top fy mhen roedd 'na gyhuddidau o homoffobia yn sgil y cyfarfod hwnnw. Os cofiai'n iawn Llafur oedd yn gyrfifol am y cyhuddiadau hynny -ac fe wnaeth Darren Millar ymateb ar y pryd. Fe fyddai'n rhaid i mi dyrrio yn yr archif i gael y manylion i gyd. Fe fyddai pethau fel 'na wrth gwrs yn cael eu codi mewn etholiad i ddewis arweinydd.

  • 6. Am 19:43 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Dai :

    Vaughan......a fues ti yn y cyfarfod ym Mhort Talbot ddoe? Unrhyw newyddion?

  • 7. Am 10:28 ar 16 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Naddo...tipyn o siambols yn ol Betsan!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.