Tristwch
Heno roedd bois HTV Cymru yn cynnal parti yn y bae. Nid parti Nadolig oedd hwn ond parti i nodi/dathlu/galaru diwedd uned wleidyddol Teledu Harlech. Rwy'n osgoi defnyddio'r llythrennau I,T, a V yn fwriadol.
Mae'r unigolion dw i'n siarad amdanyn nhw yn iawn o safbwynt eu dyfodol...ond heno mae'n prif gystadleuwyr yn nodi diwedd cyfnod.
Dydw i ddim yn beirniadu'r bois am eiliad ond roedd 'na stori fawr heddiw ac fe wnaethon nhw ddewis mynd i'r pyb. Byswn i wedi gwneud union yr un peth yn yr un amgylchiadau!
Fe fydd yr un neu ddau sydd ar Γ΄l yn gwneud eu gorau ond mae'r golled yn enfawr.
Mae'n golygu bod newyddiaduriaeth yn y Bae bellach yn golygu y Βι¶ΉΤΌΕΔ a chasgliad o unigolion a freelancers yn gweithio i *TV, y "Western Mail", y "Daily Post", Golwg a'r PA.
Ffarwel felly i Matt Dix, Nick Speed, Nick Powell a phawb arall fu'n newyddiadura'n ddiwyd ar yr "ochr arall". Pob lwc iddyn nhw a diolch i chi TWW, Teledu Cymru, Harlech a HTV am eich gwasnaeth i Gymru.
O leiaf fe fydd Gareth Hughes yma o hyd.
SylwadauAnfon sylw
Hmm.. Mae hwn yn galed i ddygymod, ond mae'r stori yn wir am bapurau lleol.
Mae'r ysgrifen ar y wal. Mae teledu digidol, a'r 'we' wedi newyd pobeth o'r 'cable' bach 'na..
Gallwch saethu Michael Grade - ond nid fe newidodd y ffaeth fod 'teledu i blant', a oedd arfer bod yn rhan o'r 'public service remit', nawr yn gorfod cystadlu a'r 'Disney Channel', 'Nick Jr' ac ati.
A nid fe oedd wedi gadael i 'Channel 5' gymeryd trwydded darlledu.
Dyma pam fi'n becso amdano 'WLA2'. Mae yna eisiau helpu darlledu yng Nghymru. Ond mae gormod o gwyno am biti beth oedd, nes cyn i ti bostio hwn, yn sefyllfa weddol, yn riscio gorffen lan gyda sefyllfa llawer iawn waeth.
'Divide and Rule' fydd diwedd y gan os oes gormod o gwyno am y sefyllfa nawr - achos mi fydd llawer o bobol yn rhoi'r gorau i dalu am 'Trwydded Teledu' os ydyw pobl ti allan i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cael ei gorfodu i llanw y gap.
"Why should I pay a TV Licence if the commercial sector have their public service remit to a 'minority' language re-instated?" fydd ateb llawer o Saeson. Heb son am 'top slicing'..
Wrth wrando/gwylio'r newyddion o dro i dro mi ddaw disgrifiad o wledydd comiwnyddol (y rhai hynny sy'n weddill) a gwledydd unbenaethol gyda'r sylwad "the state media".
Mi gredaf mai Βι¶ΉΤΌΕΔ yw un o'r ychydig bethau sydd yn gwneud i Brydain sefyll ar wahan i weddill y Gorllewin. Mae'n wych ar bob lefel ac ymhob ystyr ac ni feiddiwn am funud ystyried gwneud hebddo nac heb y drwydded.
Ond... yma yng Nghymru os ydyn ni eisiau gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn ein democratiaeth ni mae'n anodd gweld na chlywed dim yn yr unlle ar wahan i wylio'n "state media" (Βι¶ΉΤΌΕΔ), gwrando ar ein "state media" (Βι¶ΉΤΌΕΔ), a darllen gwefan ein "state media" (Βι¶ΉΤΌΕΔ).
Ac wrth gwrs cyfrwng y gorthrymwr yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ i ni fel Cymry. Lle gawn ni farn annibynnol ar ein sefyllfa? Cofiwch mai drwy arian y wladwriaeth y cynhelir Golwg hefyd - bydd eu gwefan hwythau yn ran o'r un "state media". A'r Daily Post i'r gogs o Lerpwl? A'r Western Mail?
Mae colli newyddion HTV yn golled enfawr.