Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bournewatch (1)

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008


Tic...toc...tic...toc...

Dyma nhw. Treuliau'r aelodau ar gyfer 2006-2007. Nawr mae hyn braidd yn gymhleth. Roeddwn eisoes wedi gweld y ffigyrau ar gyfer 2007-2008. Nawr oherwydd cais rhyddid gwybodaeth gan y Â鶹ԼÅÄ a'r Western Mail yr ydym yn gweld ffigyrau'r flwyddyn gynt.

Ar bwy edrychwn ni gyntaf. Beth am Laura Jones? Etholwyd Laura yn 2003. Yn Ionawr 2007 hawliodd £1109 am set deledu i'w fflat. Collodd ei sedd ym Mis Mai. Ble mae'r bocs tybed?

Nawr y prif gwrs. Nick Bourne.

Ipod- £229. Pam? I beth?, Trouser Press (!!!) £119.99, Camera Digidol £306.95

Mae 'na 'fwy. Yn Rhagfyr 2006 hawliodd Nick £3,573 am "essential work to bathroom". Yn Ebrill 2007 hawliodd £1,430 am yr un peth. Nid hon oedd y fathrwm lle syrthiodd a chleisio ei lygad gyda llaw.

Dros y ddwy flynedd gwariodd Nick 1983.94 ar lyfrau cyfeiriadol. Mae wedi bod yn talu £150 y tro i Geidwadwyr Preseli Penfro am heirio ystafell i gynnal cymorthfeydd. Beth sy'n bod ar neuadd bentref neu ysgol tybed?

Mae angen pwysleisio yn fan hyn bod y taliadau yma i gyd wedi eu cymeradwyo gan swyddogion y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn golygu y bydd y cyhoedd yr un mor hael.

Y pwynt gwleidyddol a'r rheswm am ganolbwyntio ar Nick Bourne yw hyn. Ers dyddiau mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi bod yn sibrwd yn ein clustiau yn ein cynghori i graffu'n ofalus ar dreuliau eu harweinydd. Pam? Wel, doedden nhw ddim yn ceisio eu helpu. Y gwir plaen yw bod 'na ymdrech difrifol ar droed i'w wthio allan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.