Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar ôl y toriad

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008

Ydy, mae'r etholiad i ddewis arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn tynnu at ei derfyn. 62% o'r aelodau oedd wedi pleidleisio erbyn ddoe. Tra bod hynny'n ganran uchel o gymharu ac etholiadau undeb ayb byswn i wedi disgwyl gwell ymateb. Wedi'r cyfan rhyw ddwy fil a hanner o aelodau sydd gan y blaid ac mae cyfran helaeth o'r aelodaeth hynny'n weithgar. Mae'n bosib wrth gwrs y bydd y canran wedi cynyddu'n sylweddol cyn i'r bleidlais gau ddydd Llun. Mae 'na duedd mewn etholiadau trwy'r post i bobol bleidleisio yn syth ar ôl derbyn y papur neu ar y funud olaf. Gyda llaw, dw i newydd sylwi bod y blaid wedi dewis yr enw "Freedom Central" ar gyfer ei phencadlys newydd yn y bae. Wel, mae'n fwy gwreiddiol na "Tŷ Gwynfor" rownd y gornel!

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn derbyn hysbysebion ond dw i am wneud eithriad! Mae nhw'n disgwyl eich galwadau nawr!.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:14 ar 6 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Twm:

    "Rhyddid Canolog" yw'r cyfieithiad. Truly inspirational.

  • 2. Am 19:51 ar 6 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Welsh Ramblings:

    Ond ydych wedi sylwi enw Cymraeg pencadlys y Rhyddfrydwyr hefyd? Rhyddid Canolog neu "Centralised Freedom". Swn i wedi disgwyl i chi nodi y camgyfieithiad hynny yn eich post Mr Roderick.

  • 3. Am 16:45 ar 8 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Albert:

    Rhyddid Canolog?!
    Gobeithio nad ydi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu cynnal eu parti Nadolig mewn bragdy!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.