Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pumed colofn?

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 20 Tachwedd 2008

Dyma stori fach ddiddorol. Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd cwmni ComRes ganlyniad arolwg barn a gynhaliwyd ymhlith aelodau cynulliad. Holodd ComRes union hanner yr aelodau- trideg aelod i gyd. Dyw'r arolwg ddim wedi cael rhyw lawer o sylw gan fod newyddiadurwyr yn amheus ynglŷn â maint y sampl. Serch hynny mae 'na un casgliad sy'n hynod ddiddorol sef hwn.

Mae mwyafrif o aelodau Plaid Cymru yn ffafrio annibyniaeth lwyr i Gymru ac mae 'na leiafrif o Aelodau Cynulliad Llafur yn rhannu'r un safbwynt.

Dyw e hi ddim yn syndod, efallai, nad yw holl aelodau Plaid Cymru yn ffafrio annibyniaeth. Mae'r gair ei hun yn rhwystr i rai tra bod eraill yn credu mewn ymladd un frwydr ar y tro. Ond Aelodau Cynulliad Llafur yn cefnogi annibyniaeth? Mae hynny yn dipyn o ryfeddod.

Yn fy holl amser fel newyddiadurwr gwleidyddol dydw i erioed wedi clywed Aelod Cynulliad nac Aelod Seneddol Llafur yn dweud ei fod o blaid annibyniaeth i Gymru hyd yn oed mewn sgyrsiau preifat.

Ond yn ôl ComRes (a does 'na ddim rheswm i amau cwmni mor flaenllaw) dyna yw barn rhai ohonyn nhw. Efallai mai dim ond mewn fforwm diogel a dienw fel pôl piniwn y maen nhw'n fodlon cyfaddef hynny.

Dau gwestiwn. Pwy ydyn nhw? A phwy sy'n mynd i ddweud wrth Don Touhig?

DIWEDDARIAD;Dw i wedi bod yn siarad â ComRes i gael rhagor o fanylion. Yr union gwestiwn a ofynnwyd oedd "Should Wales be totally independent of legislation enacted by Westminster?" Mae ComRes yn diffinio hynny fel "being in favour of total independence". I fi mae 'na elfen amwys. Hynny yw, mae'n bosib bod yr aelodau yn golygu eu bod yn dymuno gweld Cymru'n deddfu yn annibynnol o fewn y meysydd datganoledig. Holwyd deuddeg aelod Llafur. Roedd ymateb dau ohonyn nhw yn gadarnhaol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:52 ar 20 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Heb wybod y ffigyrau i gyd, a'r canradd o'r ddau yn y glymblaid, mae'n galed i mi weld os byddai mwyafrif o'r 'llywodraeth' [?] Llafur/Plaid Cymru o blaid annibyniaeth - 'moot point' ?...

    Ond heb fod y pobl yn pleidleisio am annibyniaeth [neu cam neu ddau lawr yr heol ni ] mae hwn braidd yn academig ?

  • 2. Am 15:18 ar 20 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Er bod hynny YN syndod, mae 'nhad i'n Llafurwr ond mae'n credu y dylai Cymru fod yn wlad annibynnol. Efallai bod yr aelodau Llafur (prin dwi'n cymryd!) hynny o'r un fath o feddwl, sef y DYLAI Cymru fod yn wladwriaeth, ond yn eu barn nhw nid yw'n syniad realistig/ymarferol?

  • 3. Am 16:52 ar 20 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Penderyn:

    Pam ar wyneb y ddaear wnaeth ComRes gofyn y cwestiwn mewn ffordd a all gael ei gam-ddehnogli. Mae digon o gwestiynnau cyfansoddiadol safonol a byddai'n ddifyr iawn clywed barn yr aelodau Llafur ac eraill bryd hynny. Cofier fod un arolwg (safonol) o aelodau'r cynulliad cyntaf wedi dangos fod un Ceidwadwr o blaid annibyniaeth!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.