Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Academia

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2008

Doeddwn i erioed wedi dod ar draws y gair "valedictocracy" nes i fi ddarllen y golofn yn New York Times. A dweud y gwir dw i'n amau bod y colofnydd, David Brooks, wedi ei fathu i ddisgrifio llywodraeth nesaf yr UDA- llywodraeth sy'n debyg o fod yn llawn o raddedigion prifysgolion gorau'r wlad.

Yr arlywydd diwethaf i ffurfio llywodraeth o'r fath oedd Kennedy ac mae'r ymdrech wedi ei groniclo yn llyfr David Halberstam "The best and the brightest"- clasur o lyfr gwleidyddol sy'n croniclo'r camgymeriadau a cham syniadaeth wnaeth arwain at brofiad arteithiol Fietnam. Yn y cartŵn fe awgrymwyd y byddai "The worst and the stupidest" yn well ddisgrifiad o lywodraeth Kennedy.

Serch hynny fe ddylai'n academyddion a'n sefydliadau prifysgol chware rôl bwysig ym mywyd sifil a llywodraethol Cymru. Fe ddylai ffrwyth eu hymchwil fod yn sylfaen i ddatblygiad polisi ac yn fewnbwn allweddol i ddadleuon ynglŷn â chyfeiriad a dyfodol y wlad. Y gwir plaen amdani yw bod ein Prifysgolion ar y cyfan ym methu yn y cyswllt hwn.

Mae 'na eithriadau wrth gwrs fel yr ysgol fusnes yng Nghaerdydd a'r Sefydliad Gwleidyddiaeth yn Aber ond eithriadau ydyn nhw.

Pam mae hynny? Wel yn rhannol mae'n deillio o'r eironi bod ein sefydliad cenedlaethol hynaf- Prifysgol Cymru wedi bod a thueddiadau pur snoblyd, elitaidd, wrth Gymreig hyd yn oed, ar adegau. Roedd cyfran sylweddol o'n hacademyddion, mae'n ymddangos, yn meddwl bod consyrns ddydd i ddydd y gymdeithas o'u cwmpas yn rhy bitw, yn rhy dila i'w hastudio. Meddwl meddyliau mawr oedd eu gwaith nhw nid cynnig atebion i broblemau. Roedd croeso i'r werin cyfrannu eu ceiniogau prin- cyn belled ac nad oeddynt yn disgwyl unrhyw beth yn ôl. Mae hynny'n newid, gobeithio.

Ond mae 'na broblem arall sy'n deillio o strwythur ariannu ymchwil yn ein prifysgolion. Tra bod rhannau helaeth o gyfundrefn ariannu addysg uwch wedi eu datganoli mae'r Cynghorau Ymchwil o hyd yn gyrff sydd wedi eu trefnu ar lefel Prydain gyfan. Mae 'na ddadleuon cryf dros y gyfundrefn honno ac mae'n anodd gweld pa fantais y byddai 'na mewn cael pedwar cyngor i ofalu am ymchwil feddygol, er enghraifft. Ond mewn meysydd eraill, maes y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol er enghraifft, teg yw gofyn a ydy'r drefn bresennol yn rhoi digon o ystyriaeth i'r angen am ymchwil pwysig a pherthnasol yn y gwledydd datganoledig.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:34 ar 26 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Dylan Jones-Evans:

    Darn gwych ac yn llygad dy le, Vaughan. Mae rhai ohonom wedi ceisio gwneud gwahaniaeth dros y blynyddoedd (e.e. www.neo-wales.com) ond heb llawer o gefnogaeth gan y brifysgolion ac y gwasanaeth sifil.
    OND dwi'n gobeithio fydd pethau yn newid yn araf bach dros y misoedd nesaf. Fel mae'r gogs yn dweud - watch this space!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.