Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwaed ar ei ddwylo

Vaughan Roderick | 12:13, Dydd Mawrth, 9 Medi 2008

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio apel i adfer cerflun o HM Stanley yn Kinshasa yn y Congo. Maen nhw hefyd yn gobeithio codi copi o'r cerflun yn Ninbych. Mae'r cyngor wedi clustnodi pum mil o bunnau i dalu am ymgyrch i godi arian.

Maddeuwch i mi am beidio cyfrannu.

Ydy cynghorwyr Sir Ddinbych wedi oedi am eiliad i ystyried pam fod trigolion y Congo wedi gadael i'r cerflun bydru? Tybed oes a wnelo hynny a'r ffaith bod Stanley yn gyfrifol am ddarganfod ffordd heibio i raeadrau Afon Congo ar ran Brenin Leopold y Belgiaid? Ydy hi'n bosib nad yw trigolion y Congo yn ddiolchgar i Stanley am alluogi sefydliad y drefedigaeth fwyaf gwaedlyd o holl drefedigaethau gwaedlyd Ewrop yn Africa? Ydyn nhw'n cofio efallai mai Stanley wnaeth lunio'r cytundebau a alluogodd Leopold i osod cenedl gyfan mewn caethwasiaeth? Ydyn nhw'n teimlo nad yw hi'n briodol anrhydeddu dyn a ddywedodd hyn wrth gyfiawnhau ei gyrchoedd gwaedlyd "the savage only respects force, power, boldness, and decision"?

Gadewch i ni fod yn gwbwl blaen yn fan hyn. Fe hanerwyd poblogaeth y Congo yn y deugain mlynedd ar ôl i Stanley ddarbwyllo penaethiaid llwythau'r wlad i gyrraedd cytundebau a'r Belgiaid. Amcangyfrifir bod deg miliwn o bobol wedi eu lladd neu wedi marw o newyn. Llosgwyd pentrefi. Cadwyd cannoedd o filoedd o fenywod a phlant yn gaeth mewn pentrefi er mwyn gorfodi ei gwyr i gasglu rwber i gyfoethogi Brenin trachwantus y Belgiaid a'i was cyflog, Henry Morton Stanley. Mae 'na derm am yr hyn wnaeth Leopold a Stanley- hil-laddiad.

Rydym yn gwybod hyn oll oherwydd ymdrechion rhyfeddol dyngarwr o'r enw Edmond Morrel- clerc llongau o gefndir tlawd wnaeth treulio'i fywyd ac aberthu ei iechyd yn ymgyrchu i geisio dadwneud yr erchyllterau yr oedd Stanley yn rhannol gyfrifol amdanynt.

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd dyw cartref Edmond Morrell ddim yn bell o Ddinbych. Roedd e'n byw ym Mhenarlâg. Os ydy Cyngor Sir Fflint yn dymuno codi cofeb iddo mi ddanfonai siec yn syth.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:51 ar 9 Medi 2008, ysgrifennodd D. Enw:

    Clywch, Clywch. enghraifft arall o Victoria-addoliaeth.

    Boi arall wnaeth lawer i danseilio a dod ag holl erchyllterau'r Congo i'r amlwg oedd Roger Casement - cenedlaetholwr o Wyddel, dyn hoyw a dyn o egwyddor ... a dyn a ddioddefodd (ac a ddienwyddwyd) oherwydd y tri peth hynny. Gwell gen i weld cofeb i Casement na Stanley.

    Mae llyfr 'A Throne in Europe' gan Paul Belien yn rhoi llawer o hanes llwgwr teulu brenhinol Gwlad Belg a'u trachwant ar gefn y Congo.

  • 2. Am 09:30 ar 10 Medi 2008, ysgrifennodd Marc:

    Gwych, Vaughan. Hen bryd i ni gydnabod rhan cywilyddus rhai Gymry yn yr ymerodraethau Ewropeaidd. Mae gormod o duedd i ni glodfori enwau unrhyw Gymro sydd wedi dod yn enwog dim ond am ei fod yn enwog. Wyddwn i ddim am Edmond Morrell. Edrycha'i mlaen at ddysgu mwy amdano. Pwy a wyr, efallai wna i gyfrannu hefyd.

  • 3. Am 14:56 ar 10 Medi 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Diddorol iawn a hanes gwbwl newydd i mi. Fuaswn innau rhoi arian i Morrell hefyd.

  • 4. Am 17:06 ar 10 Medi 2008, ysgrifennodd Linda:

    Gwybodaeth gwbwl newydd am H M Stanley i un gafodd ei geni yn Ninbych. Ah wel...dwi ddim adref i gyfrannu beth bynnag !

  • 5. Am 23:23 ar 10 Medi 2008, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Fe wnaethom ddanfon cenhadwyr i bob rhan o'r byd, a gwelir y rhain fel arwyr. Faint o'r rhain a lwyddodd yng nghysgod gwn , tybed ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.