Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dim Croeso

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Gwener, 5 Medi 2008

Ydy "" wedi rhoi i fyny? Mae'n anodd peidio dod i'r casgliad hwnnw wrth ymweld â'i gwefan Cymraeg. Er bod yr hafan yn ddigon prydferth yr olwg does dim un o'r dolenni i adrannau eraill y gwefan yn gweithio

Cofiwch efallai bod hynny'n dda o beth o ystyried peth o'r nonsens sydd ar y safleoedd Saesneg.

Cymerwch, fel enghraifft, yr hyn y mae yn cael gwybod am hanes "the friendly, green, hilly bit on the western side of Britain".

Wel. yn 1066-77 fe sefydlodd y Normaniaid arglwyddiaethau ar ororau Cymru.

Yn ôl y gwefan ddigwyddodd ddim byd wedyn nes i Owain Glyndŵr wrthryfela yn 1400.

Nawr mae 'na rai degawdau ers fy nyddiau ysgol ond oni ddigwyddodd rhywbeth bach yn y 1280au- rhywbeth ynglŷn â choncwest a chestyll?

Roedd Glyndŵr, gyda llaw, yn ôl Croeso Cymru yn "charismatic but tyrannical". Nawr efallai fy mod yn dipyn o ramantydd J.E Lloydaidd ond ai lle swyddogion marchnata Llywodraeth y Cynulliad yw barnu bod arwr cenedlaethol Cymru yn deyrn?

Pwy ar y ddaear sy'n sgwennu'r stwff yma?

Efallai bod swyddogion Croeso Cymru yn teimlo nad oes 'na lawer o bwynt ceisio denu ymwelwyr gyda mis o law yn syrthio mewn diwrnod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:36 ar 5 Medi 2008, ysgrifennodd Hen Ferchetan:

    Yn waeth byth mae'r wefan yn credu fod y Cynulliad wedi ei greu yn 2000

    "2000 – First Welsh Assembly is formed."

  • 2. Am 14:17 ar 5 Medi 2008, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Fel dwi'n sôn ar , ers i'r cynulliad lyncu'r Bwrdd Croeso, mae'r gwefannau wedi eu newid yn raddol i system newydd, a'r un Cymraeg yw'r ola ar yr hen system (a'r lleia pwysig yn eu tyb nhw falle).

  • 3. Am 16:43 ar 5 Medi 2008, ysgrifennodd Rhys:

    Darllenais ar flaen y Cymro tua pythefnos yn ôl am ddatganiad a waned gan bennaeth yr adran dwrisitiaeth (nawr dan adain y Cynulilad), tra'n areithio yn y Eisteddfod gyda'r Gweinidog Treftadaeth newydd.

    Soniodd am gynlluniau i beidio a gwobrwy graddau (neu sêr?) mor uchel i fusnesau o hyn ymlaen os nad ydynt yn Cymreigio - hynny yw yn gwneud defnydd o'r Gymraeg.

    Cefais fy synnu gan hyn a dweud y gwir. Er fy mod i'n un sy'n credu'n gryf mewn defnyddio'r Gymraeg a chyflwyno'r iaith, hanes a diwylliant y wlad i ymwelwyr (yn wahanol i rai staff Croeso Cymru efallai), dw i ddim cweit yn siwr sut allai'r adran weithredu ar hyn.
    Heb sôn am yr ymeteb y byddai hyn yn ei gael dan y diwydiant.

    Ond dwi ddim wedi clywed dim am hyn yn unrhyw le arall. Sgŵp i'r Cymro mae'n rhaid!

    Hefyd, oes rhywun yn gwybod pam mai arwyddion graddio Bwrdd Croeos Lloegr (rhosod coch) y sydd gan Westry'r , Caerdydd?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.