Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri Ceiniogau

Vaughan Roderick | 12:45, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi cyfrifon ariannol y pleidiau ar gyfer 2007 ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wynebu dirwy am fethu cyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd. Fe fydd union faint y ddirwy yn dibynnu ar faint rhagor o amser sy'n mynd heibio cyn i'r cyfrifon gyrraedd y comisiwn ond son am gannoedd nid miloedd o bunnau ydan ni yn fan hyn.

Yn eironig ddigon y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gyfrifol am y ffaith eu bod yn gorfod cyflwyno cyfrifon Cymreig o gwbwl. Fe fyddai'n gwbwl gyfreithlon a phosib i'r blaid Gymreig guddio ei gwariant ac incwm y tu fewn i'r cyfansymiau Prydeinig. Dyna'n union y mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn gwneud. Trwy ddewis trin y blaid Gymreig fel uned ariannol ar wahân i'r blaid ffederal mae'n ymddangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi creu gwialen i'w cefnau eu hun.

Plaid Cymru yw'r unig blaid felly lle mae 'na gyfrifon Cymreig ar gael. Yn 2007 fe wnaeth y blaid golled o £276,341. £527,729 oedd cyfanswm incwm y blaid ac fe wariwyd £878,593. Dyw hynny ddim yn broblem i Blaid Cymru mewn gwirionedd gan fod 2007 yn flwyddyn etholiad a'i bod yn gwario gwaddol arian a ewyllysiwyd i'r Blaid yn 2006.

Mae'r manylion ar gael yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:42 ar 30 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd dewi:

    Gwerth edrych ar adroddiad Sinn Féin (y tro cyntaf iddynt orfod cyhoeddi incwm a gwariant) - Rhoddion o aelodau etholiedig o bron i hanner miliwn o bunnau.

  • 2. Am 15:32 ar 31 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Seimon:

    Dirwy Sinn Fein am fod yn hwyr oedd £500, felly po fwya mae'r Libs yn oedi, y mwya fydd y gosb!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.