Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ebill Deudwll

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 26 Mehefin 2008

Doedd gen i ddim clem beth oedd ystyr "ebill deudwll". Os oeddwn yn gorfod mentro byswn wedi tybio ei fod naill ai'n gymeriad o'r Mabinogi neu'n ddisgrifiad o weithred aflednais yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Yn anffodus mae'r ystyr yn llai diddorol na hynny. Mae'n debyg mai "ebill deudwll" yw enw'r teclyn bach hwnnw sy'n gwneud dau dwll ar ochor tudalen. Wrth gwrs taw e ...ebill ...deudwll. Mae'n amlwg wrth feddwl am y peth!

Ebillion deudwllaidd y byd yma sy'n rhannol gyfrifol am ffenomena y mae bron pob un ohonom yn gyfarwydd â hi. O bryd i gilydd mae'r rhan fwyaf ohonom yn gweld yr angen i fwrw golwg ar fersiwn Saesneg rhyw ffurflen neu daflen i ddarganfod beth ar y ddaear yw ystyr rhyw air neu derm yn y fersiwn Gymraeg. Dyna yw'r rheswm mae'n debyg bod cymaint ohonom yn dewis darllen a defnyddio dogfennau Saesneg hyd yn oed os ydy'r Gymraeg yn iaith gyntaf i ni.

Mae'r arfer hynny wedi darbwyllo ambell i wleidydd bod yr holl gyfieithu yma'n wastraff arian. Oni fyddai'n well gwario'r arian ar fesurau eraill i gryfhau'r Gymraeg- papur dyddiol, dyweder, neu grantiau i ysgolion meithrin a dosbarthiadau dysgwyr?

Mae awgrymiadau o'r fath ychydig yn naïf gan awgrymu bod ariannu'r iaith yn rhyw fath o "zero sum game" hynny yw bod 'na swm penodol digyfnewid i wario ar yr iaith a'r hyn sy'n bwysig yw gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon posib.

Mewn un ystyr mae'n debyg i'r ddadl yn erbyn datganoli yn ôl yn y saithdegau. Dro ar ôl tro clwyd arweinwyr yr ymgyrch Na yn taranu am faint o beiriannau arennau y byddai'n bosib eu prynu am gost y cynulliad arfaethedig. Wel, fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979 a hyd y gwn derbyniodd yr un ysbyty'r un peiriant arennau o ganlyniad i'r bleidlais honno. Yn yr un modd dw i'n ei chael hi'n anodd credu y byddai caniatáu i'r adran drwyddedi ceir neu'r adran drethi gynhyrchu ffurflenni uniaith Saesneg yn golygu y byddai aur yn llifo i goffrau Cylch Meithrin Cwmsgwt.

Efallai fy mod yn benstiff ynghylch y pwnc yma ond pa hawl sy gan unrhyw gorff cyhoeddus i benderfynu ym mha un o ieithoedd cynhenid Prydain y dylwn i, fel trethdalwr, ddelio â nhw?

O fy mlaen, yr eiliad hon, mae copi o gytundeb Lisbon yn yr Iaith Wyddeleg. Oes 'na un unrhyw naill yn Nulyn neu ym Mrwsel a fyddai'n awgrymu am eiliad bod cynhyrchu'r ddogfen honno yn anghywir neu'n wastraffus? Go brin.

Y gwir amdani yw hyn. Gellir trin y Gymraeg fel iaith swyddogol neu fel rhyw fath o achos da i dderbyn cardod ar fympwy cyrff cyhoeddus. Ydy, mae'r llwybr cyntaf yn golygu cyhoeddi llawer o ddogfennau a thaflenni does bron neb yn eu darllen. Gydag unrhyw lwc, wrth i ni arfer ac ystyr termau fel ebill deudwll, fe fydd hynny'n newid. Fe fyddai cymryd y llwybr arall yn gam peryglus yn ôl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:50 ar 27 Mehefin 2008, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Clywch clywch!

  • 2. Am 10:07 ar 27 Mehefin 2008, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand, Norwy:

    Campus Vaughan! Clywch, clywch!

    Dwi hefyd yn edrych ymlaen i weld sut uffern y bydd Ordovicius yn ei gyfieithu!

    Gyda llaw, a son am ebillion deudwll, Ordovicius a ballu, dwi'n dechrau dod i'r casgliad fod na nifer o ACau Cymraeg eu hiaith sydd dim ond yn darllen erthyglau Cymraeg - boed yn Barn neu ar y blog anrhydeddus yma - ar ol iddynt gael eu cyfieithu gan yr ardderchog Ordovicius. Dwn i ddim beth mae hyn yn gwneud i dy ddadl, ond mae'n ffenomen ryfedd ar y naw!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.