Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bys ar fotwm...

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

O diar. Mae Rhodri Morgan newydd esbonio ei fod wedi gwthio'r botwm pleidleisio anghywir yn ystod ddadl yr wythnos ddiwethaf. Dadl ynghylch cynnig gan Peter Black oedd honno lle'r oedd y Democrat Rhyddfrydol am gyflwyno cais am yr hawl i ddeddfu i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol Cymru. Gwrthodwyd y cais hwnnw gyda'r mwyafrif llethol o aelodau Llafur yn pleidleisio yn erbyn. Roedd Rhodri yn un o ddau aelod Llafur wnaeth bleidleisio o blaid y cynnig. Nawr mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny ar ddamwain. "Mae'n rhaid derbyn y cyfrifoldeb am gamgymeriadau ac fe wnes i gamgymeriad" meddai. "Computer malfunction" oedd esboniad y Prif Weinidog- problem debyg i "wardrobe malfunction" Janet Jackson a Justin Timberlake o bosib!

Dyw hynny ddim yn ateb y cwestiwn a godwyd gan Mike German sef "pam gwrthod y cais?" Wedi'r cyfan doedd cynnig Peter Black ddim yn golygu y byddai 'na unrhyw newid yn y gyfundrefn bleidleisio. Rhoi'r hawl i'r cynulliad newid y system oedd y bwriad. Mae pwynt Mike German yn un digon teg. Os ydy Llafur o ddifri am drosglwyddo pwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad pam y mae'r blaid yn gwrthwynebu cais am drosglwyddo rhan fechan o'r pwerau hynny?

Ond nid aelodau Llafur yw'r unig rhai a allai fod a safonau dwbl yn y maes yma. Rydym yn clywed byth a hefyd am yr angen am bwerau deddfu llawn. Mae 'na drafod di-ben-draw am amseriad refferendwm. Ond mae'n bosib i'r cynulliad gwneud cais am yr hawl i ddeddfu ar unrhyw bwnc ar unrhyw bryd. Sawl aelod felly sydd wedi cynnig eu henwau yn balot i benderfynu pwy fydd yn cael cyflwyno cais i ddeddfu'r mis hwn? Dim un. Edrychwch ar ;

Mesurau Balot: 11 Mehefin 2008
Ni chyflwynwyd unrhyw gynigion

Dyna ni felly. Does dim un aelod o'r cynulliad yn gallu meddwl am unrhyw bwnc lle byddai'n ddefnyddiol i gael pwerau deddfu. Cofiwch hynny y tro nesaf i un ohonyn nhw frefu am ba mor rhwystredig yw'r pwerau presennol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:18 ar 17 Mehefin 2008, ysgrifennodd Idris:

    Diffyg cynigion am Fesurau oedd yna, nid diffyg cynigion am LCOs fel rydach chi i weld yn awgrymu. Roedd rhestr hir o gynigion ar gyfer ymestyn pwerau'r Cynulliad.

    Mae'r ffaith nad oedd cynigion am Fesurau yn awgrymu nad oes digon o bwerau i allu pasio Mesurau gwerth-chweil onid ddim?

  • 2. Am 17:34 ar 17 Mehefin 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Wps! Mae Idris yn gwbwl gywir! Mea Cwlpa.

  • 3. Am 17:53 ar 17 Mehefin 2008, ysgrifennodd Daran:

    Mae Idris yn iawn yn dechnegol ar y gwhaniaeth rhwng LCOs a Mesurau, ond ar y pwynt gwleidyddol ynglyn a dim "digon o bwerau i allu pasio Mesurau gwerth-chweil" mae'n bell mas yn fy nhyb i.

    Mae'r Cynulliad yn barod wedi ennill llwyth o Faterion yn Atodiad 5. Edrychwch ar y tudalen we priodol (https://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance/bus-legislation-guidance-documents/legislation_fields/schedule-5.htm) a gwelwch llu ohonynt yn enwedig ym maes addysg a llywodraeth leol.

    Ac fel lobiydd dwi'n derbyn rhan o'r bai am beidio gweithio gydag aelodau ar gyfer defnyddio'r pwerau sylweddol yma.

  • 4. Am 10:44 ar 18 Mehefin 2008, ysgrifennodd Peter Black:

    Roedd ein grwp wedi penderfynu ein bod wedi disbyddu y posibiliadau o bwerau presennol y Cynulliad a roeddym am gadw ein Mesurau ar gyfer GCDau yn y dyfodol.

    Rhaid i chi gofio fod tri A.C. Dem Rhydd wedi ennill y balot Mesurau yn barod a does dim ond tri A.C. Dem Rhydd ar ôl gyda thair mlynedd a llawer o falotiau i fynd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.