Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Alun druan

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Sadwrn, 14 Mehefin 2008

Dydw i ddim wedi blogio am helyntion Alun Cairns hyd yma am fy mod, mewn rhyw ystyr, yn rhan o'r stori. Wedi cyfan ar raglen Bathan Lewis a minnau y gwnaeth Alun y sylwadau anffodus sydd wedi arwain at ei ymddiswyddiad o fainc flaen y Ceidwadwyr. Mae'r manylion yn ar y brif safle.

Dw i'n gorfod gwneud yn hyn na wnaeth Alun sef dewis fy ngeiriau yn ofalus. Y peth cyntaf yr hoffwn i ddweud yw fy mod yn gwbwl sicr nad yw Alun mewn unrhyw ffordd nac yn unrhyw ystyr yn ddyn hiliol. Yr hyn ddigwyddodd, yn fy marn i, oedd ei fod mewn ymdrech i fod yn ddifyr ac yn ffraeth (ac mae darlledwyr yn ddiolchgar am wleidyddion sy'n gwneud yr ymdrech honno) wedi croesi'r llinell ynglyn a'r hyn sy'n dderbyniol hyd yn oed mewn sgwrs ysgafn.

Peidiwch camddeall. Dydw i ddim yn amddiffyn geiriau Alun. Does gen i ddim amheuaeth eu bod yn annerbyniol. Dyna yw'r rheswm y gwnes i roi'r cyfle iddo ymddiheuro yn syth a dyna yw'r rheswm iddo achub ar y cyfle hwnnw. Doedd hynny, mae'n amlwg ddim yn ddigon ond, er tegwch, dw i yn meddwl bod gwybod lle mae'r ffin rhwng yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn sy'n annerbyniol yn gallu bod yn anodd. Mae na eiriau a llysenwau sy'n gwbwl annerbyniol ym mhob cyd-destun, eraill sy'n dderbyniol, dyweder, ar raglen gomedi neu rhaglen chwaraeon ond dim, efallai, ar raglen newyddion.

Mae'n broblem sy'n wynebu ni'r darlledwyr yn gyson. Dw i wedi baglu fy hun fwy nac unwaith. Fe fydd hi'n drueni os ydy profiad Alun yn darbwyllo'n gwleidyddion i gadw draw o hiwmor a gwatwar yn y dyfodol. Mae 'na ormod o'n gwleidyddion yn barod sy'n siarad fel pe baent yn darllen yn robotig o rhyw sgript bleidiol. Dwi'n gobeithio nad yw Alun yn troi'n un ohonyn nhw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:39 ar 14 Mehefin 2008, ysgrifennodd Gary:

    'Mae na eiriau a llysenwau sy'n gwbwl annerbyniol ym mhob cyd-destun, eraill sy'n dderbyniol, dyweder, ar raglen gomedi neu rhaglen chwaraeon ond dim, efallai, ar raglen newyddion.'


    Gobeithio nad wyt ti'n awgrymu fod "greasy wops" yn ddrbyniol ar raglen gomedi neu chwaraeon?

  • 2. Am 20:58 ar 14 Mehefin 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Nac ydw. Dw i'n meddwl bod y geiriau hynny'n anaddas ym mron unrhyw gyd-destun ac eithrio efallai drama neu ddogefen lle roeddynt yn hanfodol i wneud pwynt neu cyfleu neges arbennig. Dwi'n meddwl bod hynny'n amlwg o'r hyn sgwennais i a'r ffaith fy mod wedi gofyn i Alun ymddiheirio am ei eiriau yn syth ar ol iddo eu defnyddio.
    Y pwynt oeddwn yn ceisio ei wneud yw bod 'na raddfeydd o bechod yn y maes yma (sydd, wrth gwrs yn gwbwl anghywir yn ddiwynyddol!).

    Mae'r defnydd o eiriau megis Taff, Jock, Yank ayb yn gallu bod yn dderbyniol neu'n annerbyniol yn ol y cyd-destun. Dwi'n amau bod Alun yn ddi-feddwl yn credu fod ei eiriau fe yn syrthio i'r un dosbarth. Dw i ddim yn meddwl bod na unrhyw falais yn ei ddefnydd o'r geiriau- er bod na falais yn y geiriau eu hun.

  • 3. Am 06:30 ar 15 Mehefin 2008, ysgrifennodd JAnis:

    Nid bod Cairns wedi dweud y peth ydy'r problem. Y problem ydy bod o'n meddwl y peth, o gwbwl. All o ddim ddweud hwnna heb feddwl o.

    Rhaid iddo fo gofio bod gweddill y byd yn meddwl yr un peth am y Cymry y maen nhw'n meddwl am fy mhobol i -- yr Eidalwyr. "Swarthy, loud, uneducated, and oversexed."

    Sarhad a chelwydd yn llwyr ydy o os ydy rhywun yn dweud hwn amdanon ni, ac am y Cymry hefyd.

    Dysgwr ydw i -- ymddiheuro am y camgymeriadau ...

  • 4. Am 17:31 ar 15 Mehefin 2008, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Pwy fydda meddwl pan wnaethoch chi y Â鶹ԼÅÄ rhoi y rhaglen at ei gilydd wythnos yma fydda cwestiwn mor dibwys newid penawdau wleidyddol y penwythnos. Roeddwn gwrando a'r y rhaglen a gweithio y rhyn pryd a wnes i ddim hyd yn oed sylwi fod wedi dweud y fath eiriau!!

  • 5. Am 11:53 ar 16 Mehefin 2008, ysgrifennodd Geraint:

    Dyma be ddedodd rhywun yn ddiweddar ar Orsaf Radio Saesneg yn Sbaen tra'n son am lanc o Benybont-ar-Ogwr a laddodd ei hun:-


    "It can't be pleasant being Welsh, but surely it's not a reason for commiting suicide."

    Mae'r boi'n dal i weithio i'r cwmni.

  • 6. Am 15:16 ar 16 Mehefin 2008, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Dwi'n sylwi eich bod wedi sensro'r rhaglen ar y podlediad sydd yn golygu na all oedolion deallus benderfynu dros eu hunain pa mor ddifrifol oedd y 'camgymeriad' yma.

    Does neb yn dod allan ohoni yn dda iawn - roedd y sylwadau am y gwledydd wedi ei paratoi o flaen llaw a wedi ei sgrifennu i lawr. Doedden nhw ddim yn 'off the cuff' felly.

    Roedd hi'n anlwcus i Alun - doedd ei feic ddim wedi troi i fyny ond fe glywyd ei sylw drwy feic Delyth ? Ar ôl ei "jôc" fe roedd chwerthin ei glywed yn y stiwdio gan nifer o bobl, a fe cyn i Vaughan ddod i'w synnwyr a gofyn am ymddiheuriad.

    Fe gafwyd rhyw ymddiheuriad brysiog a ffuantus gan Alun. Peth od yw iaith - mae'n iawn gwneud sylw ystrydebol a sarhaus am wlad (galw Sweden yn 'boring') ond gwae chi os ydych chi'n defnuddio gair gwleidyddol-anghywir, jôc ai peidio.

  • 7. Am 19:41 ar 16 Mehefin 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Nid sensoriaeth fel y cyfryw...mae'r rhaglen gyflawn ar gael ar y system "gwrando eto". Y dewis oedd naill ai golygu'r podlediad er mwyn canitau ei ddosbarthi'n brydlon neu oedi wrth i systemau golygyddol y Â鶹ԼÅÄ bendronni dros y peth. Fe wnaethon ni ddewis golygu'r rhaglen ond nid am unrhyw reswm sinistr.

  • 8. Am 22:45 ar 16 Mehefin 2008, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Ateb da :) Wnes i sylwi fod y rhaglen lawn ar 'gwrando eto'. Er fod y broses otomatig yn cychwyn/gorffen y rhaglenni ar yr adeg anghywir, mae yna o leia un fantais iddyn nhw...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.