Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli Crewe

Vaughan Roderick | 17:50, Dydd Mercher, 21 Mai 2008

Dw i'n eiddigeddus. Oherwydd CF99 dw i'n gaeth yng Nghaerdydd yn hytrach na'n troeddio strydoedd Crewe a Nantwich.

Am wn i hwn yw'r isetholiad "mawr" cyntaf i mi golli ers tro byd. A dweud y gwir ar ôl bod mewn cymaint mae'n anodd gwahaniaethu rhwng rhai ohonyn nhw yn enwedig y gyfres ddi-ben-draw o is etholiadau lle'r oedd y Rhyddfrydwyr/Cynghrair/Democratiaid Rhyddfrydol yn concro caerau'r Ceidwadwyr. Eastleigh... Newbury... Christchurch... mae'n anodd cofio p'un oedd p'un a pha ymgeisydd buddugol oedd yn dathlu ei bymtheg munud o enwogrwydd.

Mae 'na ambell ornest yn aros yn y cof.... ail is etholiad Govan, er enghraifft, yn bennaf oherwydd y cinio rhagorol yng nghwmni Dafydd Elis Thomas ym mwyty'r Colonial. Roedd Ribble Valley hefyd yn gofiadwy yn rannol oherwydd ymgeisyddiaeth Nigel Evans ond hefyd oherwydd y selsig ragorol o "Clithiroes's World Famous Sausage Shop."

O leiaf yr oeddwn yn cael dewis a dethol is etholiadau diddorol yn Lloegr a'r Alban. Yma yng Nghymru roedd yn rhaid rhoi sylw di-ben-draw i ornestau cwbwl tila fel Pontypridd ac Islwyn. Yr unig gof sy gen o'r cyntaf yw croissants rhagorol yr SDP yng nghaffi John a Maria a does gen i ddim cof o gwbwl o'r ail.

Dw'n i ddim pa ddanteithion sydd ar gael yn Crewe a Natwich ond yn sicr mae'n etholiad pwysig oherwydd bod y pleidiau a'r cyfryngau wedi ei ddyrchafu i'r statws hwnnw. Yn achos y Ceidwadwyr mae hynny'n gwbwl dealladwy. Hwn yw eu Mynwy a'u Staffordshire South er nad oes modd gwybod eto p'un ai ydy'n wawr ffug fel y cyntaf neu'n arwydd o newid go iawn fel yr ail.

Yr hyn sy'n fy nrysu braidd yw pam bod Llafur wedi chware'r gêm o ddyrchafu pwysigrwydd yr etholiad trwy arllwys aelodau seneddol a gweinidogion i mewn i'r etholaeth a thrwy gytuno i ymddangosiad Gordon Brown ar raglen "ffonio i mewn" yr orsaf radio lleol. Fe fydd hi'n anodd wfftio'r canlyniad fel "is etholiad canol tymor arferol" ar ôl ymdrech mor galed.

Un esboniad sy'n cael ei gynnig yw bod Llafur ar un adeg yn ofni dod yn drydydd. Mae'r posibilrwydd hynny wedi cilio a gallai hynny fod yn ddigon i achub croen Gordon Brown am y tro. Serch hynny mae gorfod buddsoddi'n helaeth er mwyn osgoi crasfa mewn sedd ddylai fod yn ddiogel yn arwydd o ba mor wael y mae pethau i Lafur ar hyn o bryd.

Mae hynny'n cael effaith yma yn y cynulliad gyda'n gwleidyddion yn dechrau trafod o ddifrif effaith llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar wleidyddiaeth y Bae. Fe fydd y trafod yna'n dwyshau dros yr wythnosau sydd i ddod oni cheir rhyw wyrth i Tamsin Dunwoody yn Crewe.

Iawn, mae'n amser i mi proffwydo felly. Cofiwch fod hon yn broffwydoliaeth sy'n seiliedig yn llwyr ar brofiadau mewn is etholiadau'r gorffennol yn hytrach nac unrhyw wybodaeth arbennig am Crewe. Yr hyn dw i wedi dysgu ar hyd y blynyddoedd yw bod mwyafrifoedd mewn isetholiadau yn tueddu bod yn llawer mwy na'r disgwyl. Mwyafrif o 6,000-8,000 i'r Ceidwadwyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:58 ar 21 Mai 2008, ysgrifennodd Dafydd Pritchard:

    Byddai'n ddiddorol clywed beth sydd gan wleidyddion y Bae i'w ddweud yn barod am y posibilrwydd o lywodraeth Doriaidd yn San Steffan ac effaith hynny ar wleidyddiaeth Cymru. Vaughan ...??

  • 2. Am 08:52 ar 23 Mai 2008, ysgrifennodd Helen :

    Rwy'n mynd yn ôl at y gymhariaeth a dynnais o'r blaen rhwng llywodraeth Brown yn awr a llywodraeth Callaghan yn y 70au, ac ofnaf y bydd yr un peth yn digwydd i Brown yn 2010 ag a ddigwyddodd i Callaghan ym 1979. Rywsut, bydd angen i lywodraeth Brown ymdrechu i'r eithaf i liniaru effaith ffactorau byd-eang megis y cynnydd ym mhris olew, a'r holl godiadau eraill mewn prisiau yn ei sgil. Ymddengys y bydd gwasgfa arnom i gyd am beth amser, ond y gwir amdani yw na fyddai'r un llywodraeth, boed las neu goch, yn gallu gwneud gwyrthiau dan y fath amgylchiadau. Mater arall yw a fydd yr etholwyr yn sylweddoli hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.