Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Oce... Pryd?

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2008

Un o'r pynciau sy'n codi ei ben yn gyson wrth sgwrsio a'n gwleidyddion yw pryd yn union y bydd y refferendwm ar bwerau ychwanegol i'r cynulliad yn cael ei gynnal- ac yn wir a fydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal yn unol â gofynion cytundeb Cymru’n Un? Mae'r cytundeb hwnnw yn datgan y dylai'r refferendwm gael ei gynnal "ar ddiwedd y tymor cynulliad hwn neu cyn hynny". Ond er bod 'na bron i dair blynedd cyn diwedd y tymor presennol mae'n ymddangos bod nifer o'r 'ffenestri' posib ar gyfer pleidlais yn prysur gau.

Mae'n ymddangos i gychwyn bod 'na gonsensws cynyddol na ddylid cynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad y cynulliad yn 2011. Dyna yw barn y Comisiwn Etholiadol. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan na fyddant yn ymgyrchu dros bleidlais Ie o dan y fath amgylchiadau. Nawr, mae'r pleidiau eraill wedi cael lot o sbort yn sgil y penderfyniad hwnnw gan ofyn sut y gall plaid wleidyddol ddifrifol ddadlau ei bod yn ffyrnig o blaid rhywbeth- ac eithrio ar un dyddiad penodol.

Ta beth am hynny, mae'r Ceidwadwyr hefyd o'r farn na ddylid cynnal y ddwy bleidlais ar un diwrnod gan ddadlau y byddai'n drysu'r etholwyr ac yn cymhlethu pethau i'r pleidiau. Dw i ddim yn sicr fy mod yn deall y ddadl. Mewn rhai gwledydd mae'n gwbwl arferol i gynnal sawl pleidlais ar yr un diwrnod. Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae'n gyffredin i ddegau o etholiadau gael eu cynnal ar yr un diwrnod gyda sawl refferendwm ar y papur pleidleisio'n ogystal. Ydy pobol Cymru yn dwpach na'r Americanwyr? Dyna, mae'n ymddangos, yw barn rhai o'n gwleidyddion a'r Comisiwn Etholiadol.

Os ydy'r Comisiwn yn cael ei ffordd pa opsiynau eraill sy 'na? Wel, o gymryd y bydd angen blwyddyn i ddeunaw mis i'r Confensiwn Cyfansoddiadol gwblhau ei gwaith mae'n debyg y bydd hi'n amhosib cynnal pleidlais cyn Hydref 2009 man cyntaf. Dim ond un amgylchiad dw i'n gallu rhaggweld a fyddai'n arwain at gynnal y bleidlais y pryd hwnnw.

Fe fyddai'n dibynnu'n llwyr ar benderfyniad gan Gordon Brown i alw'r Etholiad Cyffredinol nesaf yn hanner cyntaf 2009 a bod yr etholiad hwnnw yn arwain at Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Yn yr amgylchiadau hynny, a'r amgylchiadau hynny'n unig, gallai Llywodraeth y Bae benderfynu mynd amdani gyda Rhodri Morgan yn arwain yr ymgyrch fel rhyw fath o "daith ffarwel" cyn ymddeol.

Y broblem a'r senario yma wrth gwrs yw bod hi'n ddibynnol ar ffactorau y tu hwnt i reolaeth gwleidyddion Cymru. Ac os oedd hi'n ymddangos y byddai Llafur yn colli etholiad oni fyddai Gordon Brown yn dewis aros tan wanwyn 2010 cyn galw etholiad can gau pob ffenestr bosib cyn hynny?

Ond beth am sefyllfa lle mae Llafur yn San Steffan yn llwyddo i ennill yr etholiad nesaf boed hwnnw yn 2009 neu 2010. Wel yna fe fyddai problem arall yn codi ei phen. Gyda Rhodri'n ymddeol fe fyddai gan Lafur Cymru arweinydd newydd a Chymru Brif Weinidog newydd. A fyddai'r person hwnnw yn fodlon rhoi ei ben neu ei ben ar y bloc yn ei flwyddyn gyntaf trwy alw refferendwm yn 2010? Dw i'n amheus.

Cwestiwn syml felly, os nad yw'n dderbyniol i gynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad 2011 pryd ar y ddaear mae'n mynd i gael ei gynnal?

Cwestiwn arall. Os nad oes 'na refferendwm sut ar y ddaear y bydd arweinyddiaeth Plaid Cymru yn esbonio hynny i'w haelodau? Wedi'r cyfan onid y gallu i alw refferendwm oedd eu prif ddadl (neu eu hunig ddadl efallai) dros gefnu ar yr Enfys a'r cyfle i arwain llywodraeth Cymru?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:19 ar 6 Chwefror 2008, ysgrifennodd Glyn Davies:

    Wyt ti wedi darllen fy mhost ar fy mlog fi ddoe, Vaughan. Rown i'n meddwl yr un ffordd a ti

  • 2. Am 16:13 ar 6 Chwefror 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Doeddwn i ddim! Onest! Mae na broblem ddifrifol fi'n meddwl.

  • 3. Am 10:51 ar 7 Chwefror 2008, ysgrifennodd huw prys jones:

    Pa bryd y dylid cynnal refferendwm? Mae’r ateb yn hollol syml. Pan ellir bod yn rhesymol sicr ei fod am gael ei ennill. Dyna’r unig ystyriaeth a ddylai fod.
    Mae’n ddiddorol nodi nad ydi ymrwymiad Cymru’n Un i gynnal refferendwm cyn etholiad 2011 yn un cwbl ddiamwys. O ddarllen y print mân, yr ymrwymiad allweddol ydi ffurfio Confensiwn. Ac un o swyddogaethau’r Confensiwn fydd asesu’r farn gyhoeddus yng Nghymru ar gynyddu’r pwerau. Mae hynny wrth reswm yn cynnwys ystyriaeth o’r doethineb i gynnal refferendwm o gwbl o fewn tymor y llywodraeth bresennol.
    O ran ymateb aelodau Plaid Cymru pe na byddai refferendwm cyn 2011, dydw i ddim yn rhagweld unrhyw broblem. Myth llwyr ydi fod trwch aelodau’r Blaid yn ysu am refferendwm cyn gynted ag sy’n bosibl. Wrth gwrs eu bod nhw eisiau gweld y Cynulliad yn datblygu’n Senedd. Ond mae’r mwyafrif llethol sydd â’u traed ar y ddaear yn deall yr angen i ddisgwyl tan fydd yr adeg yn iawn. Diddorol oedd y sylwadau diweddar gan Dafydd Elis Thomas ac Elfyn Llwyd yn dweud eu bod yn cael eu diflasu gan bobl yn siarad am refferendwm fyth a hefyd. Dydw i ddim wedi clywed yr un aelod o Blaid Cymru’n eu collfarnu am ddweud hynny. Y ffaith amdani ydi fod llawer iawn o aelodau cyffredin y Blaid yn llawer mwy realistig a phragmataidd ar bynciau cyfansoddiadol nag a dybir yn gyffredin.
    Rhaid amau hefyd yr haeriad mai addewid am refferendwm oedd y prif ddadl dros i Blaid Cymru fynd i glymblaid efo Llafur. Oedd, roedd yn rhywbeth a ddenodd y penawdau yn y cyfnod o drafodaethau. Ond faint o ffactor oedd hyn mewn gwirionedd yn y penderfyniad i ffurfio’r glymblaid sydd fater arall. Nes at y gwir efallai oedd fod yr Enfys yn ymddangos yn ormod o gambl – a hynny am amryw o resymau, gan gynnwys nad oedd y niferoedd yn llawn digon, a’r diffyg unfrydedd o fewn mwy nag un blaid.

  • 4. Am 12:29 ar 7 Chwefror 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Dwi ddim yn meddwl fod hwn yn rhywbeth sy'n poeni aelodau llawr gwlad Plaid Cymru cymaint a hynny, dydy e ddim yn fy mhoeni i ryw lawer. Fel nododd Huw uchod, rydym ni am weld refferendwm maes o law ac am ei hennill hi ond dy ni am weld hynny yn cael ei wireddu'n iawn ac nid dan rythyr. Y pressing issues mae aelodau llawer gwlad tua'r gorllewin a'r gogledd yn poeni amdanynt yw delifro ar y tri selling point ieithyddol oedd gan Ieuan Wyn i ni sef, 1. Deddf Iaith Newydd 2. Coleg Ffed Cymraeg 3. Papur Dyddiol. Does dim byd "ymarferol" yn stopio ni gael rheina yn y tymor yma dim ond ewyllys wleidyddol sy'n broblem. Dy ni'n cydnabod gyda'r mater refferendwm fod yna broblem "ymarferol."

  • 5. Am 21:57 ar 7 Chwefror 2008, ysgrifennodd Adferwr:

    Credaf, yn ol ei wallau iaith a'r fratiaith sy'n nodweddu disgyblion ysgolion Cymraeg, fod dirfawr angen deddfu ar iaith Rhys Llwyd.

  • 6. Am 00:25 ar 8 Chwefror 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Tyd laen "Adferwr" nid iaith ysgrifenedig ydy blogio, ffurf ar lein o dafodiaeth a sgwrs! Adferwr wir, byddi di'n galw am ddad-ddiwidiannu'r deheudir nesaf... ;-)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.