Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyffro'r Cynghorau

Vaughan Roderick | 17:35, Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2008

Diwrnod prysur heddiw yn ceisio gohebu i bob twll a chornel o Â鶹ԼÅÄ Cymru ynglÅ·n â biliau treth cyngor flwyddyn nesaf. Mae 'na ryw fyth yn fan hyn mai fi yw'r unig un yma sy'n deall system ariannu llywodraeth leol. Gwrandewch bobol, dydw i ddim. Dim ond tri o bobol sy'n deall y system ac mae un wedi marw, un arall ar wyliau a'r olaf yn gwrthod dweud.

Ta beth, cynnydd o rywle rhwng tri a phump y cant fydd yn wynebu'r rhan fwyaf ohonom pan ddaw'r biliau, mwy na chwyddiant ond llai na'r ffigwr mewn ambell i flwyddyn arall. Go brin fod y codiadau’n ddigon i ysgogi gwrthryfel ar ran yr etholwyr... fe fyddai toriadau mewn gwasanaethau’n debycach o wneud hynny, dybiwn i.

Serch hynny dwi'n dechrau edrych 'mlaen at ornestau Mis Mai. Mae gwleidyddiaeth cyngor Cymru yn fwyfwy difyr wrth i nifer y caerau un-blaid leihau gyda bron pob un cyngor bellach yn gystadleuol. Y broblem fydd wrth gwrs geisio dirnad unrhyw wers genedlaethol o frwydrau sydd o'u hanfod yn lleol ac yn wahanol i'w gilydd.

Dw i wedi sgwennu o'r blaen am y bygythiad enfawr y mae Llafur yn wynebu ym Mis Mai ond maen nhw'n brawf hynod o bwysig i'r Ceidwadwyr hefyd. Os oes 'na sylwedd i adfywiad y Blaid mae’n bryd profi hynny trwy ddechrau adennill y tir a gollwyd gan y Blaid yn yr wythdegau a'r nawdegau cynnar- erydiad lleol oedd yn arwydd o'r hyn oedd i ddod ar lefel San Steffan.

Gadewch i ni gofio ychydig o ffeithiau fydd yn rhyfeddu rhai ohonoch chi dan eich deg ar hugain. Ar yr un adeg roedd gan Ceidwadwyr fwyafrif ar gynghorau Casnewydd a Chaerdydd. Un ar hugain o gynghorwyr sy gan y Blaid rhwng y ddwy ddinas erbyn hyn. Mae hynny'n welliant ar yr un dyn bach oedd ar ôl ar droad y ganrif ond mae angen gwell.

Cynghorwyr yw asgwrn cefn unrhyw blaid wleidyddol. Dyw e hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod pob un Tori ar Gyngor Caerdydd yn cynrychioli wardiau yn etholaeth Gogledd Caerdydd, sedd a gipiwyd gan y Blaid yn etholiad y cynulliad. Drws nesaf yng Nghanol Caerdydd (hen sedd Ian Grist) does gan y Torïaid yr un cynghorydd ac yn etholiad y cynulliad enillodd y blaid lai na phymtheg y cant o'r bleidlais. Mae 'na gysylltiad.

Gallai adfywiad y Ceidwadwyr yn hawdd chwyth ei blwc oni osodir sylfaeni cadarn yn siambrau'r cynghorau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:08 ar 30 Ionawr 2008, ysgrifennodd Helen:

    Efallai y bydd Plaid Cymru’n ennill seddau i lawr yn y De – synnwn i ddim pe bai’n cipio yn y cymoedd lle mae wedi bod yn gryf o’r blaen, ond rwy’n ofni y bydd y Blaid yn colli rheolaeth ar Wynedd ym Mai oherwydd Llais y Bobl, sy’n bygwth hollti pleidlais y cenedlaetholwyr mewn nifer o etholaethau. Mae cynghorwyr y Blaid mewn sawl etholaeth fel pe baent wedi tynnu nyth cacwn am eu pennau oherwydd y ddogfen gynhwysfawr a gyhoeddwyd ar ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd, felly byddaf yn synnu’n fawr os cadwiff y Blaid reolaeth ar y sir hon. Yr hyn fyddai’n ddiddorol fyddai pe câi pleidlais y cenedlaetholwyr yng Ngwynedd ei hollti i’r fath nes agor y drws i drydedd blaid sleifio i mewn oherwydd y system ‘cyntaf i'r felin’ hynafol sydd gennym o hyd. Mater arall fydd etholiadau San Steffan a’r Cynulliad, pryd y byddwn yn disgwyl i bleidleiswyr Llais y Bobl droi’n ôl at Blaid Cymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.