麻豆约拍

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2007

Presantau

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Iau, 20 Rhagfyr 2007

Sylwadau (1)

Mae gen i anrhegion Nadolig i chi!

Yn gyntaf mae 'na gyfle i wylio rhan o rifyn neithiwr o CF99 lle dy'n ni'n bwrw golwg yn ol dros y flwyddyn ddiwethaf. Cliciwch yn fan hyn.

Yfory fe fydd 'na dipyn o sg诺p wrth i Rhodri Morgan gymryd rhan yn y podlediad. Mae gan Rhodri nifer o bethau hynod ddiddorol i'w dweud wrth iddo drafod y ffordd y mae Llafur wedi colli ei hap锚l i'r Cymry Cymraeg a'r hyn mae'n gobeithio cyflawni cyn ymddeol fel Prif Weinidog. Fe fydd y podlediad ar gael am ddau o'r gloch b'nawn yfory ond mae'n bosib tanysgrifio nawr trwy wasgu'r botwm ar y dde.

Nodyn

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Mawrth, 18 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Dw i wedi bod yn dioddef problemau difrifol oherwydd sbamio yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mewn ymdrech i ddelio a'r broblem mae archif y blog wedi ei chloi. Fe fydd yn dychwelyd ar 么l i ni ddarganfod ateb mwy parhaol i'r broblem.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:20, Dydd Gwener, 14 Rhagfyr 2007

Sylwadau (1)

Cewch gyfle i glywed barn Betsan am y flwyddyn wleidyddol a chwis Nadolig "Dau o'r Bae" ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando neu danysgrifio.

Pwy sy'n bua'r llais?

Vaughan Roderick | 12:44, Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Mae gr诺p "Llais y Bobol" wedi bod yn achosi peth cynnwrf yn y Gogledd Orllewin ond fe allai na fod maen tramgwydd o'u blaenau. Bwriad y gr诺p yw cofrestru fel plaid wleidyddol o dan yr enw "Lais y bobol- Voice of Gwynedd". Tybiaf fod y gwahaniaeth rhwng yr enwau Cymraeg a Saesneg yn arwydd bod yr aelodau'n sylweddoli fod 'na broblem bosib.

Y broblem honno wrth gwrs yw bod yr enw "People Voice" eisoes wedi ei gofrestru a ni ellir defnyddio'r enw hwnnw heb gydsyniad Dai Davies, Trish Law a'u dilynwyr. Hyd y gwn i does dim cysylltiad wedi bod rhwng y ddau gr诺p.

Dyw Dai a Trish ddim wedi cofrestru鈥檙 enw Cymraeg "Llais y bobol" ond mae'r rheolau'n amwys ynghylch statws cyfieithiadau. Gallai holl beth bery gryn benbleth i'r comisiwn etholiadol. Dw i'n rhyw amau na fyddai gan Rebeliaid Gwent unrhyw wrthwynebiad i'r defnydd o'u henw. Y peth call i wneud byddai codi'r ff么n.

Cyfyng-gyngor

Vaughan Roderick | 11:44, Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Dyma ni'n tynnu at y terfyn felly cyn belled ac mae 2007 o dan ystyriaeth. I'r rhan fwyaf o'n gwleidyddion heddiw yw'r diwrnod olaf yn y Bae eleni. Mae gan weinidogion... a newyddiadurwyr rhyw wythnos arall i fynd. Mae'n bryd meddwl am flwyddyn nesaf. Dw i newydd gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer etholiadau 2008. Os na newidiff Gordon Brown ei feddwl (eto!) mae hynny'n golygu etholiadau cyngor yn unig.

Rhain yw' etholiadau anoddaf i ohebu arnynt o'n safbwynt ni. Mae gornest sydd yn hynod ffyrnig a difyr mewn un ardal o ddim diddordeb o gwbwl i drigolion ardal arall ac mae canfod them芒u cenedlaethol a'u cyflwyno mewn modd difyr yn gallu bod yn anodd.

Serch hynny gallai etholiadau 2008 fod yn rhai hanesyddol os ydy pethau'n parhau'n hunllefus i Lafur. Dyw e ddim yn gwbwl amhosib na fydd na'r un cyngor 芒 mwyafrif Llafur yng Nghymru ar 么l Mis Mai nesaf. Cyn i neb feddwl fy mod wedi coll fy marblys gwleidyddol fe wn芒i rhuthro i ddweud mai posibilrwydd ac nid tebygrwydd yw sefyllfa o'r fath a s么n am golli mwyafrif dros bawb ydw i yn fan hyn. Beth bynnag sy'n digwydd fe fydd Llafur yn parhau fel y blaid fwyaf ar sawl cyngor ac mewn grym mewn nifer ohonynt. Serch hynny mae'n ymddangos bod oes y "Kremlins" lleol oedd mor nodweddiadol o'r ugeinfed ganrif yn dirwyn i ben.

Mewn gwirionedd efallai bod yr oes honno eisoes yn perthyn i'r llyfrau hanes. Saith cyngor mwyafrifol Llafur sydd ar 么l yng Nghymru a dim ond tri chyngor sy 'na lle mae Llafur yn dominyddu fel oedd hi arfer arfer gwneud yn rhannau helaeth o'r wlad. Does ond angen i Lafur golli llond dwrn o seddi yn Sir Fflint, Casnewydd, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot i Lafur golli ei mwyafrifoedd a dyw'r tri chadarnle ddim mor gadarn 芒 hynny. Does ond angen yngan enw "Blaenau Gwent" i wybod y gallai mwyafrif sylweddol ddiflannu fel gwlith y bore a chyda "Llais y Bobol" (y fersiwn deheuol gwreiddiol) yn weithgar drws nesaf hefyd dyw Torfaen ddim yn gwbwl diogel.

Mae hynny'n gadael Rhondda Cynon Taf, cyngor lle mae'r mwyafrif Llafur yn sylweddol ond un lle'r oedd Plaid Cymru yn rheoli rhwng 1999 a 2004. Gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac ymgeiswyr Annibynnol yn weithgar yn etholaeth Pontypridd gallai unrhyw adfywiad i Blaid Cymru yng Nghymoedd Rhondda a Chynon gosod y cyngor hwn yn y fantol hefyd.

Nid am y tro cyntaf gallai Blaenau Morgannwg chwarae rhan allweddol yn hanes y Mudiad Llafur

Haul ar fryn

Vaughan Roderick | 17:41, Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Mae'n rheol euraidd na ddylai gwleidyddion drafod diwylliant poblogaidd. Yn ddieithriad bron fe fydd y gwleidydd yn gwneud camsyniad neu'n ymddangos fel oportiwnydd. Cafwyd prawf o hynny heddiw mewn datganiad i'r wasg gan Roger Williams AS. Yn ystod sesiwn o'r uwch-bwyllgor Cymreig yn San Steffan fe gododd Roger ar ei draed i ddatgan ei gefnogaeth i Rhydian yn rhaglen yr X-factor. Mae'r datganiad yn ychwanegu "Roger met with his constituent Rhydian in Sunnybridge on Monday..."
Heulog? Pont Senni?

Wel...wel...wel

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Rhai wythnosau yn 么l fe godais i a nifer o'm cydweithwyr gwestiynau ynghylch faint o amser oedd hi'n cymryd i benodi olynydd i Peter Clarke fel Comisiynydd Plant. Ar y pryd fe sgwennais i hyn;

"Bu farw Comisiynydd Plant Cymru Peter Clarke ym Mis Ionawr eleni. Roedd sefydlu ei swydd yn un o gyflawniadau mawr y cynulliad cyntaf, rhywbeth yr oedd gwleidyddion o bob plaid yn brolio amdani. Ond dyma i chi beth rhyfedd. Os ydy'r swydd mor bwysig pam ar y ddaear y mae'n cymryd cymaint o amser i'w llenwi?
Ymddangosodd yr hysbyseb am y swydd ym Mis Awst wyth mis ar 么l marwolaeth Mr Clarke ac mae'n annhebyg y bydd ei olynydd wrth ei waith tan Mis Chwefror neu Fis Mawrth flwyddyn nesaf."

Synnwyd aelodau'r llywodraeth gan y sylwadau hyn. Doedd neb o'r aelodau yn poeni am y sefyllfa... pam felly yr oedd newyddiadurwyr yn creu ffwdan? Wel, dw i ddim yn ceisio cymryd y clod am hyn ond heddiw cyhoeddwyd enw'r comisiynydd newydd sef Keith Towler. Cwestiwn arall felly. Beth ddigwyddodd i'r holl brosesau a rheolau oedd yn golygu na ellid disgwyl penodiad cyn y gwanwyn?

Lawr y lein

Vaughan Roderick | 14:36, Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Mae agoriad swyddogol y rheilffordd i Lyn Ebwy wedi ei ohirio tan y flwyddyn newydd. Mae gweinidogion yn gandryll a'r cyngor lleol sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect. Deallir bod y cyngor wedi addo i'r llywodraeth ddeuddydd yn 么l y byddai'r lein yn barod yr wythnos hon. Does dim byd yn syml ym Mlaenau Gwent!

Awn ar y tr锚n bach...

Vaughan Roderick | 12:13, Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2007

Sylwadau (4)

Ddydd Gwener fe fydd y lein rheilffordd i Lyn Ebwy yn ail-agor gydag aelodau cynulliad o bob plaid a chynghorwyr yn cystadlu i gymryd y clod. Fe wn芒i ddim sbwylio'r parti ond mae'n werth nodi nad yw'r lein mewn gwirionedd yn cyrraedd yr holl fordd i'r dre. Am y tro fe fydd y gwasanaethau'n rhedeg o orsaf ar gyrion Glyn Ebwy wrth i'r gwaith o adfer hen safle'r gwaith dur fynd yn ei flaen.

Ta beth, mae'r polisi o ail-agor rheilffyrdd yn un o'r meysydd lle mae 'na wahaniaeth sylweddol rhwng y llywodraethau datganoledig ar y naill law a llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y llaw arall. Mae gan yr adran drafnidiaeth bolisi cadarn yn erbyn ail-gychwyn gwasanaethau ac mae hynny'n destunlle mae sawl cyngor ac aelod seneddol yn ymgyrchu dros ail-agor gwasanaethau.

Pwy sy'n iawn felly? Ydy ail-agor rheilffordd yn fuddsoddiad gwerthfawr neu'n wastraff rhamantus?
Ers i fwyell Beeching ddisgyn yn 么l yn y chwedegau mae tair lein reilffordd wedi eu hail-agor yng Nghymru. Ail-gychwynnwyd gwasanaethau i Aberd芒r a Maesteg gyda chymorth Cyngor Morgannwg Ganol. Yn achos Cwm Cynon does dim dwywaith bod yr arbrawf wedi llwyddo. Yn wir problemau llwyddiant sy'n wynebu'r lein gyda'u gorsafoedd yn cael eu hymestyn ar hyn o bryd er mwyn cwrdd 芒'r galw. Mae lein Cwm Llynfi wedi bod yn llai llwyddiannus ond gan fod y trenau sy'n rhedeg arni hefyd yn darparu gwasanaethau lleol ar brif lein De Cymru mae'n debyg ei bod wedi profi ei gwerth.

Ail-agorwyd y lein rhwng Y Barri a Phen-y-bont yn 2005. Hyd yn hyn mae hi wedi mwy na chyrraedd ei thargedi. Yn fwy pwysig efallai roedd y lein yn rhan bwysig o'r ymdrech i ddenu canolfan hyfforddi鈥檙 lluoedd arfog i Sain Tathan.

Beth yw'r arolygon ar gyfer gwasanaethau Blaenau Gwent ac Islwyn felly? Yn y tymor byr gallai'r methiant i gyrraedd canol Glyn Ebwy ac i ddarparu gwasanaethau i Gasnewydd yn ogystal 芒 Chaerdydd fod yn rhwystrau. Yn sicr dyw'r lein ynddi ei hun ddim yn mynd i drawsnewid un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Serch hynny dros amser a chyda gwireddu cynlluniau eraill fe ddylai'r gwasanaeth fod yr un mor bwysig i'r economi leol a'r gwasanaethau mewn cymoedd tebyg- gwasanaethau lle mae'r nifer o deithwyr yn dyblu bob saith mlynedd.

Ffwdan yn Fflandrys

Vaughan Roderick | 12:30, Dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr 2007

Sylwadau (4)

Fel sawl dw i wedi bod yn dilyn helyntion gwleidyddol Gwlad Belg dros y misoedd diwethaf.

Dw i ddim yn hawlio bod yn unrhyw fath o arbenigwr ar y wlad honno. Guto Thomas sy'n goflau am yr ochr Ewropeaidd yn yr uned wleidyddol a'r unig dro bues i ym Mrwsel yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd am benwythnos o ramant a gloddesta yn hytrach nac un o dyrchu i entrychion gwleidyddol y wlad.

Serch hynny mae'r sefyllfa yn un diddorol a pherthnasol. Chwe mis ar 么l etholiad cyffredinol mae gwleidyddion y wlad o hyd yn methu ffurfio llywodraeth ac mae nhw yng nghanol argyfwng gwleidyddol a chyfansoddiadol sy'n gosod trafferthion haf diwethaf yng Nghymru mewn rhyw fath o gyd-destun.

Mae'n bosib mai diwedd hyn i gyd fydd hollti'r wlad yn ddwy gyda Fflandrys a Walonia yn mynd ei fyrdd ei hun. Mae hynny'n codi cwestiwn hynod ddiddorol sef beth fyddai ymateb yr Undeb Ewropeaidd i sefyllfa o'r fath?

Yn 么l yn 2004 fe holodd Romano Prodi, llywydd y comisiwn ar y pryd, yngl欧n a'r posibilrwydd o sefyllfa debyg yng Nghymru. Roedd hwn yn symudiad clyfar gan Lafur wnaeth ennill tipyn o gyhoeddusrwydd a chreu embaras i Blaid Cymru. Dyma oedd gan Romano Prodi i ddweud;

鈥淲hen a part of the territory of a member state ceases to be part of that state, e.g. because that territory becomes an independent state, the treaties will no longer apply to that territory. 聽
In other words, a newly-independent region would, by the fact of its independence, become a third country with respect to the (European) Union and the treaties would, from the day of its independence, not apply any more in its territory."

Roedd Eluned Morgan yn gwbwl sicr o ystyr geiriau'r llywydd. Ychwanegodd ei sylwadau ei hun.

"The Commission has now made it absolutely clear that from the first moment a territory inside the existing European Union becomes independent, that territory would cease to be part of the EU... After its expulsion, Wales would be required to re-apply for EU membership and would only be re-admitted with a unanimous vote from all Member States. It is clear that unanimity would not be reached because of Spanish and other concerns regarding the precedent that would be set.鈥

Achosodd llythyr Mr. Prodi gryn gynnwrf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn , Catalwnia a Gwlad y Basgiaid. Os oedd Mr. Prodi yn gywir roedd sicrhau annibyniaeth i'r gwledydd hynny bron yn amhosib ac fe wnaeth cenedlaetholwyr ar hyd a lled Ewrop geisio tanseilio rhesymeg Llywydd y Comiwiwn.

Roedd yr wrth-ddadl yn un syml. Hyd yn oed os oedd Mr Prodi yn gywir yngl欧n a sefyllfa lle roedd gwlad wedi datgan ei hannibyniaeth heb gydsyniad (sefyllfa o UDI fel y cafwyd yn Rhodesia ac fel sy'n debyg yn Kosovo yr wythnos hon) doedd hi ddim yn berthnasol mewn sefyllfa lle roedd roedd gwladwriaeth wedi ymwahanu trwy gydsyniad. Pam y dylai Lloegr neu Castille annibynnol, fel gwledydd mawrion newydd, barhau'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod gwledydd bychan newydd, yr Alban neu Catalonia, dyweder, yn cael eu diarddel? Onid oedd y syniad bod y wladwriaeth newydd fwyaf yn etifeddu hawliau a chyfrifoldebau yr hen wladwriaeth braidd yn ddi-synnwyr?

Yn 么l a ni i Wlad Belg felly i ystyried y sefyllfa yno o ddilyn rhesymeg Romano Prodi. Pe bai'r wlad honno yn hollti ddwy fe fyddai Fflandrys fel y rhanbarth fwyaf yn parhau'r rhan o'r Undeb Ewropeaidd tra y byddai Walonia yn cael ei diarddel.

Does ond angen meddwl am eiliad am sut y byddai'r Ffrancod yn arbennig yn ymateb wrth weld y ffensys a'r swyddfeydd tollau'n cael eu codi o gwmpas yn encil fechan hon yng nghalon Ewrop er mwyn gwybod mai nonsens yw'r syniad.

Ond fe allai'r Undeb diarddel Fflandrys hefyd er mwyn bod yn gytbwys ac er mwyn danfon neges glir i unrhyw ranbarth Ewropeaidd arall oedd yn beiddio ystyried herio ffiniau sanctaidd y cenedl-wladwriaethau presennol. Wedi'r cyfan efallai y byddai hynny'n ddigon i ddod a gwelidyddion Gwlad Belg at eu gilydd a'u gorfodi i ailfeddwl. Yn sicr fe fyddai hynny'n well na gosod cynsail a allai arwain at symudiadau tebyg ar hyd a lled y cyfandir.

Wrth gwrs fe fyddai na un broblem fach wrth ddiarddel Fflandrys. Yn lle mae pencadlys yr Undeb Ewropeaidd dwedwch?


Mea Cwlpa

Vaughan Roderick | 11:22, Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2007

Sylwadau (0)

Maddeuwch i mi am beidio blogio'r wythnos 'ma. Ac eithrio dod i fewn i gyflwyno CF99 a Dau o'r Bae dw i wedi bod adre'n sal gan foddi mewn hunan dosturi yn y modd gwrwaidd arferol.

Pe bawn i wedi bod 'ma mae'n debyg y byswn wedi rhannu ambell i stori am Peter Hain, Huw Lewis a Lynne Neagle. Dw i'n rhuthro i ddweud mai straeon difyr yn hytrach na sgandalus yw'r rheiny. Wythnos nesaf efallai!

Yn y cyfamser dw i wedi bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant neu "Ysbyty Camilla" fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Bues i'n pendroni ynghylch yr enw hwnnw nes i feddyg esbonio "Mae'r lle 'ma hanner ffordd rhwng Penybont a Merthyr...ni'n dod rhwng y 'Princess of Wales" a'r 'Prince Charles` felly".

Yn y cyfamser mae Bethan Lewis wedi gofalu am y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde o bnawn Gwener ymlaen.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.