Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwersi o bell

Vaughan Roderick | 17:06, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2007

Ddydd Sadwrn os nad oes rhywbeth cwbwl annisgwyl yn digwydd fe fydd etholwyr Awstralia yn dod a gyrfa John Howard fel Prif Weinidog i ben. Yn wir, os ydy'r arolygon barn yn gywir gallai Mr Howard golli ei sedd ei hun.

Mae dros gant o arolygon barn bellach wedi darogan buddugoliaeth i Lafur a disgwylir yr ogwydd fwyaf mewn unrhyw etholiad ers 1931.

Beth felly sydd wedi mynd o le i Mr Howard a'i glymblaid Geidwadol? Yr ateb syml ond rhyfedd i'r cwestiwn hwnnw yw "dim byd llawer". Mae'r economi'n ffynnu a'r ddoler yn gryf. Mae Mr Howard ei hun o hyd yn weddol boblogaidd yn bersonol ac mae ei lywodraeth yn un cymharol ddi-sgandal.

Cyfres o ffactorau cymharol ddibwys ynddyn nhw ei hun sy'n debyg arwain at dranc Mr Howard. Mae graddfeydd llog yn codi gan roi gwasgfa ar bocedi'r dosbarth canol. Mae gan Lafur arweinydd deniadol newydd ac mae'r etholwyr yn alaru a'r tensiynau rhwng Mr Howard a'i weinidog cyllid ynglŷn â phryd yn union y bydd y Prif Weinidog yn cadw ei addewid i drosglwyddo’r awenau’r llywodraeth.

Nawr ond dyw hynny i gyd yn swnio'n gyfarwydd? Yma ym Mhrydain wrth gwrs fe gafodd y mab darogan ei ddyrchafu'n er y gallai teyrnasiad Gordon Brown fod yn gymharol fyr. Mae'n ymddangos na fydd Peter Costello hyd yn oed yn cyrraedd y brig ar ôl degawd a mwy o ddisgwyl ac awchu am y brif swydd.

Os oes gennych anorac fe fydd hi'n bosib gwylio'r canlyniadau'n fyw ar wefan yr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:08 ar 27 Tachwedd 2007, ysgrifennodd obell:

    Llafur yn ei hennill hi'n hawdd - fawr neb ymhlith y colofnwyr ac arbennigwyr yn rhagweld y canlyniad......


    Nid am y tro cyntaf yn Awstralia nac yn y DU chwaith, fe fethodd gwyr a gwragedd y wasg y werin bobl....a'r dosbarth canol niferus yn y wlad hon. Fe lyncwyd fersiwn John Howard o'r genedl cant y cant. Ni roddwyd sylw teg a parchus tuag at safbwyntiau eraill megis gwir chwarae teg, cymorth i ffoaduriaid, hawliau i leiafrifoedd, cefnogaeth i ddarlledu cyhoeddus ac ati.
    Yn sydyn reit, mae'r wlad wedi newid.
    Nid felly y mae hi neu y bu hi.

    Fe ddylwn ni, pobl y cyfryngau, gofio i agor ein llygaid yn hytrach na gwylio "fideo" y wladwriaeth i ddod at gasgliadau.

    Yr wythnos ddiwethaf: John Howard, cawr o brif weinidog a drodd Awstralia'n nol at lwybr y gorffennol pumdegaiadd.

    Yr wythnos hon: Pwy? Ffwl gwleidyddol. Dyn ddoe.

    Mmmmmmmmm!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.