Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

TÅ· ar y tywod

Vaughan Roderick | 10:54, Dydd Mercher, 19 Medi 2007

Does dim dwywaith mai Plaid Cymru enillodd brwydr y gimics/syniadau gwreiddiol yn ystod etholiad y cynulliad. Mae'n anodd gor-ddweud ynglŷn â'r dirmyg sy gan y pleidiau eraill tuag at bolisïau fel cluniaduron i blant ysgol a grantiau i bobol sy'n prynu tŷ ar y tro cyntaf.

Mae'r ail bolisi yn arbennig wedi ennyn dirmyg y Torïaid sy'n awgrymu y byddai ond yn ychwanegu at chwyddiant ym mhrisiau tai.

Ond beth yw ? Draw yn Awstralia mae John Howard arweinydd chwaer blaid y Ceidwadwyr yn wynebu brwydr am ei einioes wleidyddol ar ôl degawd mewn grym. Na phoener. Mae gan blaid Mr Howard arf ddirgel yn eu meddiant sef cynyddu'r gwariant ar "" a "First Â鶹ԼÅÄ plus", cynlluniau poblogaidd a gyflwynwyd gan y llywodraeth nol yn y flwyddyn 2000.

Beth mae'r cynlluniau hynny'n gwneud? Ie, dyna chi, cynnig grantiau i bobol sy'n prynu tÅ· am y tro cyntaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:06 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae cynllun cyffelyb yn nhalaith Texas hefyd!

  • 2. Am 15:28 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Dwi'n methu yn lan a deall pam fod y syniad yma'n destun dirmyg. Yma yn yr Eidal mae mwy nag un o'r Regione "semi-autonomous", fel Trentino Alto-Adige a Friuli Venezia Giulia, yn cynnig yn union yr un peth - grant i bobol lleol heb incwm uchel i brynu ty cynta. Er mwyn sicrhau grant mae'n rhaid ichi fod yn byw yn yr ardal eisioes ers peth amser, a gall eich morgais ddim bod werth fwy na hyn a hyn.

    Mae'r system yn llwyddianus iawn yn cadw pobol lleol ifanc yn yr ardaloedd yma, a does yna ddim chwyddiant mawr mewn prisau tai. Ble mae'r broblem?

  • 3. Am 20:19 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Tartini:

    Hei Vaughan - beth am holi Rhodri am hynt a helynt diwrnod "Vafanculo" un yr Eidal? (Gweler blog Beppe Grillo)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.