Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwylo dros y môr

Vaughan Roderick | 17:16, Dydd Mercher, 5 Medi 2007

Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia wedi ei groniclo hyd syrffed ond mae 'na ran arall o'r byd sy'n cyfri Cymru fel ei ffrind penna -ei hunig ffrind efallai. Mae ei gwleidyddion yn ymwelwyr cyson a Bae Caerdydd ac ar hyn o bryd mae Alun Michael AS yn y wlad honno yn rhoi cyngor i'w llywodraeth.

Fel y rhan fwyaf o bobol mae fy ngwybodaeth o Somalia yn gyfyngedig i'r hyn dwi'n gweld ar deledu a'r hyn dw i'n cofio o "Black Hawk Down" ond mae artaith y wlad honno, lle na fu llywodraeth weithredol am bron i ugain mlynedd, yn boen dyddiol i filoedd o drigolion Caerdydd.

Nol yn oes Fictoria pan oedd glo'r de'n pweru llyngesau'r byd dynion o British Somaliland oedd yn bwydo ffwrneisi'r llongau. Rhain, meddid, oedd yr unig bobol oedd yn gallu dioddef y gwres a'r stŵr yng nghrombiliau’r llynges. Mae disgynyddion y dynion caled hynny yn byw yng Nghaerdydd hyd heddiw ac wedi gorfod gwylio eu mamwlad yn goddef anarchiaeth.

Ond dyw hynny ddim cweit yn wir. Tra bod y rhan fwyaf o Somalia yn gwaedu mae'r rhan ohoni oedd yn drefedigaeth Brydeinig, y rhan lle mae gwreiddiau Somaliaid Cymru, yn heddychlon gyda'i llywodraeth, senedd a'i system gyfreithiol ei hun.

Pymtheg mlynedd yn ôl cyhoeddodd Somaliland ei hannibyniaeth o weddill Somalia ac ers hynny mae ei thrigolion wedi llwyddo i osgoi'r erchyllterau sy'n digwydd yng ngweddill y wladwriaeth fethedig.

Y broblem sy gan lywodraeth Somaliland yw nad oes 'na'r un llywodraeth arall na'r un corff rhyngwladol yn cydnabod ei hawdurdod. Neb, hynny yw, ar wahân i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd llefarydd senedd Somaliland yn westai swyddogol yn agoriad adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Gweithred symbolaidd oedd honno, wrth gwrs, ond roedd hi'n weithred o bwys ac mae gwaith cyson, tawel gwleidyddion fel Alun Michael a Lorraine Barrett wedi bod yn gysur cyson i wlad fach anghofiedig sy'n haeddu gwell. Mae Alun, yn arbennig, wedi gweithio'n ddyfal fel cadeirydd grwp aml-bleidiol yn San Steffan i hyrwyddo achos y wlad.

Y gobaith yn y tymor hir yw y bydd hi'n bosib meithrin yr un fath o berthynas rhwng Somaliland a Chymru a'r un sy'n bodoli a Lesotho er y bydd hi'n anodd cyflawni hynny yn wyneb statws ansicr y wlad. Serch hynny mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim. Dw i ddim yn dweud hyn yn aml ond yn yr achos yma mae'n gwleidyddion yn haeddu clod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:39 ar 5 Medi 2007, ysgrifennodd Elin Wyn:

    Roedd na raglen ddifyr ar Somaliland cwpl o flynyddoedd yn ol ar Â鶹ԼÅÄ3 yn y gyfres Holidays in Places that Don't Exist. Roedd Taiwan yn un o'r gwledydd eraill yn y gyfres. Os cofiaf yn iawn roedd na ferch o dras Somali o Gaerdydd oedd yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Somaliland ar y rhaglen.

  • 2. Am 13:16 ar 6 Medi 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Petai Cymru'n rhydd fe fasai cydnabod anibyniaeth ddemocrataidd Somaliland yn rhan o'n polisi tramor wrth gwrs.

    Neges i Alun Michael a Lorraine - rhyddid i Gymru a Somaliland - dwy am bris un!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.