Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis

Vaughan Roderick | 18:57, Dydd Sadwrn, 8 Medi 2007

Dw i'n meddwl bod hin bryd cael cwis. Gan fod hwn yn benwythnos mawr o ran chwaraeon mae'r cwestiynau i gyd yn ymwneud a chysylltiadau rhwng gwleidyddiaeth a'r meysydd chwarae.

1.Pa faes chwarae yng Nghymru sydd wedi ei enwi ar ôl aelod seneddol? (Dw i'n ymwybodol o un-ond mae'n bosib bod na fwy!)

2.Beth sy'n cysylltu Janet Ryder, David Watkins a Simon Weston?

3.Pa gricedwr amlwg wnaeth geisio am sedd seneddol yng Nghaerdydd?

4.Dim ond un person sy wedi chware Rygbi dros Gymru, Criced dros Forgannwg a Phêl-droed dros Ddinas Caerdydd. Pwy oedd e a beth yw'r cysylltiad rhyngddo a Peter Hain?

5.Y frwydr rhwng Rhodri Morgan ac Alun Michael am arweinyddiaeth Llafur Cymru oedd yr eildro i'r ddau rasio yn erbyn ei gilydd. Beth oedd yr achlysur cyntaf?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:53 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd sanddef:

  • 2. Am 11:00 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd Guto:

    2. Mae'r tri yn noddwyr swyddogol (patrons) Cynghrair Rygbi Cymru

    3. Ted Dexter - gollodd o yn erbyn Callaghan

    4. Wilfred Wooller - Mi oedd o yn gefnogol iawn i unrhwyun odd yn chwarae gemau yn erbyn De Affrica yn ystod Aparthaid. Mi ddoth o ben-ben efo peter Hain mewn sawl trafodaeth gyhoeddus.

    Dim clem am 1 na 5

  • 3. Am 11:29 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    1) Parc Stebonheath - cartref clwb peldroed Llanelli. Enwyd ar ol aelod seneddol amser maith yn ol (tua adeg y concwest !!)
    2) Y tri (ffyliaid !) yn noddwyr Rygbi'r Gyngrhair yng Nhymru.
    3) Ted Dexter
    4) Wilf Wooller
    5) Enwebiaeth Llafur ar gyfer De Caerdydd a Phenarth wedi i Jim Callaghan ymddeol.

  • 4. Am 11:42 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    A Wilf Wooller a Peter Hain yn brwydro dros chwarae gemau gyda'r De Affrig.

  • 5. Am 13:56 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd clebryn:

    1) Parc Ninian- wedi ei ei enwi ar ol yr Arglwydd Ninian Crichton Stuart a oedd yn aelod seneddol tros Gaerdydd rhwng 1910 a 1915

  • 6. Am 21:56 ar 9 Medi 2007, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Ai 5 ydi'r ddadl rhwng y Ty Opera a'r Stadiwm, Alun M. o blaid y naill a Rhodri M o blaid y llall?

  • 7. Am 12:35 ar 10 Medi 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Yr atebion oedd gen i mewn golwg oedd rhain;

    1. Parc Ninian
    2. Noddwyr Cynghrair RygbiXIII Cymru
    3. Ted Dexter
    4. Wilf Wooller- prif wrthwynebydd Peter Hain yn ystod ymgyrch "Stop the 7O tour".
    5 Fe wnaeth Alun a Rhodri redeg ym Marathon Llundain yn erbyn ei gilydd.

    Mae rhai o'r atebion eraill a gynnigiwyd hefyd yn gywir.


  • 8. Am 17:21 ar 10 Medi 2007, ysgrifennodd Gary:

    Fe chwaraeodd Wilf Wooler sboncen dros Gymru hefyd!

    Oriel Enwogion Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.