Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofio'r Teigr

Vaughan Roderick | 12:06, Dydd Iau, 27 Medi 2007

Un o adeiladau enwocaf Cymru erbyn hyn yw adeilad y "Pierhead" neu'r lanfa- yr adeilad brics coch sy'n sefyll wrth ymyl y Senedd ac sy'n gefndir i'r rhan fwyaf o raglenni Newyddion Cymru.

Tan riw ddeng mlynedd yn ôl prin oedd y bobol, hyd yn oed ymhlith trigolion Caerdydd, oedd yn gwybod bod y lle'n bodoli. Roedd yr adeilad yn sefyll y tu fewn i furiau'r dociau masnachol mewn ardal oedd yn gaeedig i'r cyhoedd.

Swyddfa'r dociau oedd enw'r lle ar y pryd. Dyw'r Lanfa a Pierhead ddim cweit yn enwau gwneud ond yn wreiddiol roeddynt yn cyfeirio at gyfleusterau glanio llongau pleser y "White Funnel Fleet" rhyw ganllath i ffwrdd ac nid yr adeilad ei hun.

Ta beth, mae'n adeilad trawiadol ac ers 1999 mae wedi cael ei defnyddio fel canolfan ymwelwyr ac addysg y cynulliad ar ôl i Ron Davies ei brynu am bunt gan gwmni Grovesnor Waterside. Gydag agor y Senedd a datblygu cyfleusterau addysg yn yr hen siambr (y siambr fach fel y'i gelwir erbyn hyn) mae'n rhaid dod o hyd i ddefnydd newydd i'r adeilad ac mae'r cynlluniau sydd ar y gweill yn ymddangos yn rhai cyffrous.

Mae'r cynulliad yn gweithio gyda phobol leol a chymdeithasau morwrol i ddatblygu canolfan fydd yn adrodd hanes yr ardal a phatrymau mudo i Gymru. Mae'n ddefnydd cwbwl addas o ystyried bod Bae Caerdydd (Tiger Bay gynt-ac mae rhai eisiau adfer yr enw hwnnw) ymhlith y cymunedau aml-ethnig cyntaf ym Mhrydain.

Ond mae 'na eironi yn hynny. Ar bwys y lanfa go iawn yr oedd Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru yn sefyll tan iddi gael ei haberthu ar allor byd masnach. Roedd pwrpas yr Amgueddfa honno yn ddigon tebyg i'r hyn sy'n cael ei awgrymu nawr ond roedd hi'n cyflawni'r dasg ar raddfa llawer mwy eang.

Roedd yr Amgueddfa honno yn bell o fod yn berffaith er ei bod hi, yn fy marn i, yn llawer gwell na'i holynydd Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe gyda'i horielau gweigion a diffyg creiriau diddorol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:08 ar 27 Medi 2007, ysgrifennodd Bwbach Dan Din:

    Trueni am y sweip at amgueddfa Abertawe.

    Fel un sy'n mynd i amgueddfa o leiaf unwaith bob pythefnos dwi'n credu mai'r amgueddfa newydd hon yw'r orau i mi ymweld a hi yng Nghymru, os nad ym Mhrydain gyfan.

    Rhyngweithiol, rhithiol, real. Nid rhyw greiriau rhydlyd (er fod nifer o'r rheini yno hefyd), ond ail greu ein ddoe drwy gyfrwng rhithfyd gyfrifiadurol.

    Gwych!

  • 2. Am 19:30 ar 27 Medi 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Hwyrach fy mod yn hen ffasiwn...ond dw i'n mynd i Amgueddfa i weld pethau go iawn! Dwi yn teimlo y gallai'r rhan fwyaf o elfennau rhyngweithiol Amgueddfa's Glannau weithio'r un mor effeithiol ar y we gan ryddhau gofod ar gyfer arddangosfeydd.
    Mae'n flin gen i ddweud hyn ond mae'n ymddangos i mi bod yr Amgueddfa newydd a llai o bethau i'w gweld na'r hen Amgueddfa Forwrol sy'n rhan ohoni. Mae'n ymddangos i mi bod cyfran anhygoel o uchel o'r lle yn cael ei defnyddio at ddibenion masnachol neu yn gynteddau gweigion. Mae hynny'n biti oherwydd mae'r adeilad newydd ei hun yn gyfangwbwl ardderchog.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.