Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wythnos bant

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Iau, 9 Awst 2007

Dw i wedi bod i ffwrdd o'r cyfrifiadur am rai dyddiau- sori am hynny. Nid fy mod wedi bod yn unrhyw le egsotig- dim yn y Steddfod hyd yn oed. Ers dechrau'r flwyddyn rwyf wedi addo codi "pergola" yn yr ardd ac roedd hi'n bryd cyflawni'r addewid. Ta beth mae bod yn saer coed yn fwy o sbort na saernïo geiriau ym Mis Awst!

Beth wnes i golli felly? Wel,fe wnaeth rhywun doeddwn i ddim yn nabod o'r Rhondda newid ei blaid ac oherwydd ein bod ni yn nyddiau'r cŵn fe wnaeth y cyfryngau (neu rhai Llundain o leiaf) môr a mynydd o'r peth.

Fe draddododd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddiddorol yn yr Eisteddfod yn galw ar Lafur y cynulliad i bwyso am ragor o arian o Lundain er mwyn cyflawni addewidion "Cymru'n Un". Roedd yr alwad honno yn wleidyddiaeth glyfar iawn yn fy marn i. Mae 'na duedd mewn unrhyw glymblaid i'r pleidiau unigol geisio cymryd y clod am bob llwyddiant a beio'i gilydd am bob methiant. Yr hyn mae Dafydd Wigley yn cynnig i Lafur y Bae yw sefyllfa lle y gellir beio San Steffan am y methiannau. A fydd Rhodri Morgan yn llyncu'r abwyd? Fe gawn weld.

Yr un mor ddiddorol oedd sylwadau ar "" gan yr aelod seneddol Ceidwadol Mark Field. Wrth drafod dyfodol cyfansoddiadol y DU dywedodd hyn

"I would prefer to see the creation of a completely new federal parliament. Four, full, national parliaments in England, Scotland, Wales and Northern Ireland with most of the existing powers of the House of Commons and over them a federal United Kingdom parliament, which would debate defence and foreign affairs, make treaties and administer a cohesion fund for the poorer parts of the UK."

Mae hynny'n mynd llawer ymhellach na pholisi swyddogol ei blaid, wrth gwrs, ac mae'r fath o seneddau cenedlaethol y mae Mr Field yn awgrymu yn llawer mwy pwerus na senedd bresennol Caeredin. Mewn gwirionedd o dan y fath o drefn y mae Mr Field yn awgrymu fe fyddai'r pwerau a fyddai ar ôl ar lefel y DU yn debycach i rai'r Undeb Ewropeaidd neu NATO nac i bwerau cenedl-wladwriaeth.

Dw i wedi dadlau ers tro byd mae'r "cwestiwn Seisnig" fyddai'n gwthio'r broses ddatganoli ymlaen yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae sylwadau Mr. Field yn cadarnhau hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:59 ar 9 Awst 2007, ysgrifennodd huw:

    Beth wnes i golli felly? Wel,fe wnaeth rhywun doeddwn i ddim yn nabod o'r Rhondda newid ei blaid ac oherwydd ein bod ni yn nyddiau'r cŵn fe wnaeth y cyfryngau (neu rhai Llundain o leiaf) môr a mynydd o'r peth.

    Â鶹ԼÅÄ Cymru a'r Toriaid - fel dwy pys mewn plisgyn

  • 2. Am 21:38 ar 9 Awst 2007, ysgrifennodd Andrew:

    Dwi'n cytuno yn llwyr gyda ti Huw. Mae yna amgylchedd gwrth-Blaid Lafur yn Â鶹ԼÅÄ Cymru. Yn anwedig Llafur Newydd, neu'r "Brit Nats" - sef pawb yn y blaid Lafur sydd ddim o blaid annibyniaeth i Gymru.

    Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru gyda'r un agenda a Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Ond yn anwedig Plaid Cymru, mae'r ddwy sefydliad yn rhu agos, a does dim scrwtani gan neb. Mae penodiadau Alun Shurmer and Rhuanedd Richards yn dangos hyn.

    Dwi'n credu bod neb sy'n cefnogol o'r blaid Lafur yn gweithio yn Â鶹ԼÅÄ Cymru. Ond profwch fi yn anhywir. Os oes rhywun yn y Â鶹ԼÅÄ yn fodlon dweud bod nhw yn cefnogi Llafur? Na, doeddwn i ddim yn meddwl bod.

  • 3. Am 15:13 ar 10 Awst 2007, ysgrifennodd Helen 'Ddirgel':

    Mi dybiwn mai eithriad yw Mark Field, ac y byddai'r rhan fwyaf o dorïaid yn anghytuno'n chwyrn ag unrhyw syniadau a fyddai'n golygu mwy fyth o lacio ar y gafael sydd gan San Steffan ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a Chernyw, o bosib, yn y dyfodol). Ar y llaw arall, mewn Senedd Seisnig ffederal, heb y gwledydd ymylol, pwy fyddai'n debygol o reoli'n gyson â mwyafrif digon parchus??? Rydym i gyd yn gwybod yr ateb i hynny! Ys gwn i, yn wir, a fyddai'r torïaid, yn enwedig pe baent yn rhagweld eu cwymp fel plaid Brydeinig, yn mentro ar hyd y llwybr hwnnw - llwybr a fyddai i bob pwrpas yn gwarantu grym iddynt? Cawn weld! Pe bai'r torïaid yn mynd am ddatganoli er mwyn cadw grym yn Lloegr, beth fyddai ymateb y Blaid Lafur, wn i? A thybed faint o Bleidwyr a gâi eu hudo, dros dro beth bynnag, i feddwl yn neis am y torïaid?

    Mwyaf y meddylaf am y mater, mwyaf y byddaf yn credu bod gwleidyddiaeth a gwyddbwyll yn ddau anifail hynod o debyg i'w gilydd ..... mae symudiad i un cyfeiriad gan un ochr yn annog math penodol o symudiad gan yr ochr arall, neu mae symudiad arbennig ar ran un ochr yn arwain, yn y pen draw, at drychineb.

    Mae aelod amlwg o Blaid Cymru yng Nghaernarfon newydd adael y Blaid hefyd, yn ôl y sôn, am ei fod yn gwerthwynebu'r glymblaid Goch-wyrdd, ond mae mwy na hynny yn y stori honno ..... Taw biau hi, rwy'n credu!

  • 4. Am 17:15 ar 10 Awst 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Huw ac Andrew, Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn ddigon mawr ac yn ddigon hyll i ammdiffyn ei hun! Ond gan fod Andrew wedi gosod her mi wnai geisio ei ateb. Dyw newyddiadurwyr cyfredol y Â鶹ԼÅÄ sydd yn ddarlledu ddim yn cael datgelu eu safbwyntiau gwleidyddol. Mae un o ohebwyr Wales Today ar hyn o bryd yn absennol o'r sgrin ar ol iddo ymgeisio am yr enwebiad Llafur yng Ngorllewin Abertawe.
    Roedd yr ymgeisydd Llafur ym Mlaenau Gwent, Owen Smith yn aelod o uned wleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru ac yn uwch-gynhyrchydd Good Morning Wales. Mae SPAD Rhodri Morgan Jo Kiernan yn gyn-gyflwynydd newyddion i Radio Wales. Ymhlith eraill sydd wedi gweithio i'r Â鶹ԼÅÄ (yn Llundain yn ogystal a Chymru) mae Eluned Morgan ASE, Chris Bryant AS, Ann Clwyd AS a Leighton Andrews AC. Ydy hynny'n ddigon?

  • 5. Am 09:17 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Da iawn Vaughan. Dim ond raid i'r Blaid Lafur golli ychydig o'i 'hegemoni' yng Nghymru a mae nhw yn beio pawb arall. Mae'n amser iddynt sylweddoli fod y rhod yn troi yn ei herbyn. Mae'r math yma o bwysau ar y wasg yn ddim byd newydd - mae golygydd Barn wedi cael gair yn ei glust gan AC Llafur am arian cyhoeddus mae Barn yn ei dderbyn a bod nhw ddim yn hoff o gynnwys Barn.
    Mae'n amser sefyll i fyny i'r bobol annemocrataidd yma.

  • 6. Am 12:18 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd andrew:

    OK, so mae na rhyw haner dwsin o bobl cefnogol o Llafur erioed wedi gweithio i Â鶹ԼÅÄ Cymru. Tydi Chris, Eluned Leighton ac Ann Clwyd ddim yn cyfri. - Â鶹ԼÅÄ yn Llundain odden nhw yn gweithio i. dwi'n shiarad am Â鶹ԼÅÄ Wales/Cymru.

    Does gen ai ddim problem hefo staff Â鶹ԼÅÄ yn cefnogi plaidiau eraill ond iddyn nhw cadw hynnu yn ddistaw. On pwynt fi ydi bod Â鶹ԼÅÄ Wales yn dod o safpwynt di-Blaid Lafur. Mae hyn ym amwlg drwy estudio holl rhagelni gwelidyddol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.