麻豆约拍

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Lembit Whittington

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Mae'r stori yma'n ymddangos yn rhu aml i'w hanwybyddu. Mae Lembit wedi gwadu'r peth droeon ond dyma sy gan i ddweud;

"The Liberal Democrat leader's chief of staff has said that Lembit Opik would "make a much better mayor than Boris Johnson or Ken Livingstone". Senior MP Ed Davey made the statement in an ePolitix.com podcast..."聽

Nid am y tro cyntaf mae stori yngl欧n ac aelod Maldwyn yn fy nrysu'n llwyr. Mae gan Lembit gysylltiadau cryf a sawl ardal, Cymru, Gogledd Iwerddon, Newcastle ac Estonia i enwi pedair- ond hyd y gwn i dyw e ddim yn hawlio bod yn Lundeiniwr.

Ond nid dyna yw'r brif broblem wrth ystyried yr awgrym. Y cwestiwn sy gen i yw hyn- pam y byddai Lembit yn dewis cyflawni hunanladdiad gwleidyddol? Hyd yn oed o gofio bod ail-ddewisiadau yn cyfri wrth ethol y Maer Llundain go brin y byddai Lembit yn ennill a thrwy sefyll fe fyddai'n pechu mwy o bobol Maldwyn lle mae ei afael ar y sedd eisoes yn sigledig.

Mae na gwestiwn arall hefyd. Pam y mae'r pleidiau i gyd yn meddwl bod angen 鈥渃ymeriadau鈥 wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon. Fe fyddai ras rhwng Ken Livingstone Boris Johnstone a Lembit yn lot o sbri os mai dewis panelwyr i sioe deledu oedd y bwriad. Ond mae Maer Llundain yn ddyn pwerus yn gyfrifol am wariant blynyddol o biliynau o bunnau. Onid ddyled dewis ymgeiswyr ar sail polisi a sylwedd yn hytrach na nifer eu hymddangosiadau ar dudalennau'r Daily Star?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:22 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    O leiaf, mae calon Livingstone yn y lle iawn ac mae'n siarad llawer o synnwyr ynglyn 芒 thrafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain, o ran cadw'r trenau tanddaearol yn y sector cyhoeddus a hefyd, yn 么l yn yr 80au, tra oedd yn arweinydd ar y GLC, yng nghyswllt prisiau tocynnau'r bysus a'r trenau - draenen, yn wir, yn ystlys Magi a'i chriw ar y pryd, felly mae'n haeddu rhywfaint o barch. Ar ben hynny, ef oedd dewis y bobl gyffredin pan adferwyd Cyngor unedol yn Llundain, yn hytrach na Dobson, sef yr ymgeisydd Llafur swyddogol yr oedd y Dyn Bl锚r yn benderfynol o'i wthio ar yr etholwyr, yn yr un modd ag y ceisiodd roi ei big i mewn yng nghyswllt arweinyddiaeth y Cynulliad cyn i Rhodri M gymryd yr awenau - dau baralel yn dangos meddylfryd y Dyn Bl锚r - ond dyma fi off ar danjent eto!

    Ond enwebu Lembit i redeg yn yr un r芒s??? Mae hyn yn awgrymu'n gryf fod naill ai'r dyn ei hun neu ei blaid ym Maldwyn o'r farn y dylai ymgeisydd arall sefyll yn yr etholiad Seneddol nesaf yn erbyn Glyn Davies, er mwyn gwella gobeithion y Melynion o gadw eu gafael yn y sedd.

    A s么n am Whittington, ys gwn i pwy fyddai ymgeisydd delfrydol Respect i sefyll am y swydd dan sylw?????


  • 2. Am 16:25 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Rwy'n cytuno Helen bod Livingstone wedi profi ei hun yn wleidydd o sylwedd ers ei ethol. Y pwynt oeddwn yn ceisio ei wneud oedd bod ethol Ken yn y lle cynta wedi gosod rhiw fath o gynsail ym meddyliau'r pleidiau ynghylch pa fath o ymgeisydd sydd angen. Geoffrey Archer...Boris Johnson... Lembit Opik...Steve Norris ayb ayb

  • 3. Am 17:16 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae hyn yn f'atgoffa am fuddugoliaeth Ilona Staller, alias 'La Cicciolina' yn etholiadau Seneddol yr Eidal rywbryd yn yr 80au. Seren ffilmiau piws oedd hi, greodd argraff fythgofiadwy ar weddill ASau'r Eidal 芒'i hantics cwbl amhriodol ar lawr y Siambr. Y Blaid Radicalaidd roedd hi'n ei chynrychioli - un o'r pleidiau bach Eidalaidd digon parchus y mae'r prif bleidiau'n aml yn gorfod troi atynt i barhau mewn grym ac, mewn theori beth bynnag, yn ddim byd tebyg i'r Monster Raving Loonies!

    Tybed, felly, a ddylai hithau drial ei lwc fel Maer Llundain?????

  • 4. Am 17:18 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Falle bod Lembit yn meddwl ei fod yn mynd i golli ym Maldwyn beth bynnag mae'n gwneud.

  • 5. Am 17:39 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    "Pam y mae'r pleidiau i gyd yn meddwl bod angen 鈥渃ymeriadau鈥 wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon?"

    Ateb syml. Populism. Dyna beth sy'n digwydd pan mae gennych chi etholiad am un dyn holl-bwerus. Enghriefftiau? Ynrhyw wlad a llywydd wedi ei ethol yn uniongyrchol. (Mae Ffrainc a'r Unol Dalaethiau yn engrheifftiau amlwg) Ynrhyw etholiad am faer lleol (e.e. Ffrainc/Yr Eidal/Sbaen a.y.b.) Dyma'r union effaith roedd yr hen system cyngor lleol, gyda Maer heb bwer ynddo ei hunan, a heb ei ethol yn uniongyrchol, yn ceisio osgoi.

  • 6. Am 18:25 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Daran:

    Oes na unrhyw gwirionedd i'r stori bod Syr Gerald Nabarro i'w atgyfodi ar gyfer y ras etholiadol ma?

  • 7. Am 19:35 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Yn 么l y diweddaraf, dyw Lembir Opik ddim yn bwriadu sefyll, wedi'r cwbl! Ond o ddifrif, ymddengys mai dyma'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu am ddemocratiaeth.

  • 8. Am 12:56 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Erbyn meddwl, efallai bod fy nghyfeiriad at 'Whittington' a 'Respect' yn fy sylw ddoe ychydig yn rhy gryptig! Yr hyn roedwn yn ceisio pwyntio ato oedd, yn benodol, cydymaith Whittington ar y naill law, a pherfformiad y Sgotyn nid anenwog yn nhy'r Brawd Mawr ar y llall.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.