麻豆约拍

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Frwydr Nesaf

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Mawrth, 24 Gorffennaf 2007

Yn sgil dau is-etholiad siomedig i'r Ceidwadwyr a chyda'r arolygon barn yn awgrymu bod Llafur yn 么l dros ddeugain pwynt mae'r tebygrwydd o etholiad cyffredinol yn gynnar yn 2008 yn cynyddu. Mae'n bryd i ni droi ein llygaid at San Steffan felly.

Y peth cyntaf i ddweud yw y byddai etholiad cynnar yn dipyn o hunllef i'r pleidiau Cymreig. Oherwydd etholiadau'r cynulliad prin yw'r ymgeiswyr sydd wedi eu dewis a phrin yw'r adnoddau hefyd. Serch hynny fe fydd na lawer mwy o etholaethau diddorol yng Nghymru nac sy'n arferol mewn Etholiad Cyffredinol hynny yn rhannol oherwydd bod gwleidyddiaeth mwy cystadleuol y cynulliad yn dechrau dylanwadu ar yr ornest seneddol.

Mae 'na ormod i drafod mewn un erthygl felly dros y dyddiau nesaf fe wnai edrych ar Gymru rhanbarth wrth ranbarth gan gychwyn yn y Gogledd.

Yr hyn sy'n rhyfeddol yw y gallai'r rhan fwyaf o seddi'r Gogledd newid dwylo'r tro nesaf. Dim ond un sedd sy'n gallu cael eu cyfri yn gwbwl ddiogel sef Alun a Glannau Dyfrdwy ond fe fyddai angen amgylchiadau ffafriol iawn i'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio Wrecsam ac mae'n anodd credu na fydd David Jones yn cadw eu afael ar Orllewin Clwyd. Dyw gogwydd at Lafur ddim yn amhosib, wrth gwrs, ond mae'n anhebyg yn fy marn i.

Tair sedd hynod ddiddorol yw Delyn, Dyffryn Clwyd a De Clwyd. Yn 2005 roedd y canlyniadau yn y tair yn hynod o debyg gyda Llafur yn ennill oddeutu 45% o'r bleidlais a'r Tor茂aid yn ail cymharol s芒l gyda o gwmpas chwarter y pleidleisiau. Ond fe ddaeth y Ceidwadwyr yn hynod agos i gipio Delyn a'r Dyffryn yn etholiad y cynulliad. Dw i'n tybio y gallai'r un ymgeiswyr sefyll eto yn y gobaith y bydd y eu henwau mwy adnabyddus o gymorth wrth gau'r bwlch. Serch hynny y 鈥渟wing鈥 Brydeinig fydd y ffactor allweddol yn y seddi hyn. Os ydy David Cameron ar ei ffordd i Downing Street gallai'r Tor茂aid eu hennill, os ydy Gordon Brown yn llwyddo dylai Llafur fod yn ddiogel.

Mae ffactorau lleol a Chymreig yn bwysicach yng ngweddill etholaethau'r Gogledd. Er i Blaid Cymru ennill Aberconwy yn etholiad y cynulliad dw i'n fodlon mentro swllt neu ddau mai ras rhwng y Ceidwadwyr a Llafur fydd hon yn seneddol. Mae colli Bangor a Dyffryn Ogwen o'r etholaeth yn ergyd drom i Lafur ac fe fyddwn yn synnu pe na bai Guto Bebb yn dod yn agos at gipio hon.

Roeddwn i, fel eraill, yn amau y byddai sedd newydd Arfon yn un bur ymylol rhwng Llafur a Phlaid Cymru mewn etholiadau seneddol. Cafwyd dim tystiolaeth o hynny yn etholiad y cynulliad er cymaint ymdrechion Martin Eaglestone. Serch hynny mae angen gair i gall ar Blaid Cymru yn fan hyn. Does ond angen edrych ar Aberconwy a Llanelli i wybod nad yw buddugoliaeth cynulliadol yn gwarantu buddugoliaeth seneddol. Fe fyddai'n gamgymeriad i Blaid Cymru gymryd Arfon yn ganiataol.

Beth fedrai ddweud am Ynys M么n? Dau air. Peter Rogers. Oni bai am ymyrraeth Peter dw i'n weddol sicr y byddai Plaid Cymru wedi cipio'r ynys yn 2005 er gwaethaf amharodrwydd traddodiadol yr etholwyr i ddiorseddi deiliaid y sedd. Beth wnaeth ddigwydd tro nesa? Duw...a Peter Rogers...a wyr!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:56 ar 24 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mi dybiwn y bydd llawer o'r pleidleiswyr hynny sy'n cofio diweithdra a chyni'r 80au dan lywodraeth Magi yn pleidleisio'n dactegol mewn etholiad seneddol Prydeinig, h.y. yn uno y tu 么l i'r blaid sydd debycaf o drechu'r tor茂aid yn eu hetholaethau. Os felly, dylai Hywel Williams fod yn saff yma yn Arfon, ac Elfyn Llwyd fod yn saff yn Ne Gwynedd. Os cofiaf yn iawn, Monsignor Bruce Kent a luniodd restr o holl etholaethau gwledydd Prydain yn 么l ym 1997, gan nodi pa ffordd y dylai pobl bleidleisio i gael gwared 芒'r tor茂aid. Dyna pryd y cipiodd Julie Morgan etholaeth Gogledd Caerdydd, a fu'n las ers 1970! Dyw'r ffaith fod y bleidlais dor茂aidd yng Nghymru wedi cynyddu oddi ar hynny ddim yn golygu y bydd y seddau ymylol o reidrwydd yn newid dwylo mewn etholiad seneddol Prydeinig.

  • 2. Am 20:08 ar 24 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Yn 么l beth dw i'n ei ddeall, yn 么l canlyniadau'r etholiad diwethaf, petai ffiniau etholaeth Caernarfon fel ag y maent bellach gyda'r sedd newydd Arfon, byddai Llafur wedi ennill o oddeutu 100 o bleidleisiau. Felly angen i PC dorchi llewys go iawn y tro nesaf, yn sicr.

    Ar ben hynny, dylai llai na phum sedd i PC fod yn siom, sef ail-gipio M么n a Cheredigion.

    Ar nodyn arall, dw i'n credu bod obsesiwn Helen ynghylch y Toriaid a Thatcher yn dechrau mynd yn syrffedus. Dw i ddim yn credu bod gwrth-Thatcheriaeth yn berthnasol bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach; yn enwedig felly yn etholaethau'r gogledd.

  • 3. Am 21:30 ar 24 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dylan, Rwyt ti'n gwbwl gywir am y "notional result" yn Arfon.Ond mae amcangyfrif o'r fath yn annodd mewn etholaeth fel Arfon lle mae personoliaethau'n bwysig mewn etholiadau lleol. Mae'n llawer haws mewn etholaeth drefol lle mae pob plaid yn ymladd pob ward a lle mae ymgeiswyr anibynnol yn brin.

  • 4. Am 00:17 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    鈥楧wi ddim yn derbyn un o ragdybiadau dy ddadansoddiad Vaughan. Mae hi鈥檔 ddigon posibl y bydd gogwydd tuag at Llafur. Er mai鈥檙 patrwm hanesyddol lle ceir llywodraeth yn rheoli am gyfnod maith ei bod yn raddol golli cefnogaeth, roedd etholiad 2005 yn anarferol oherwydd ei bod yn cael ei hymladd yng nghysgod rhyfel Irac. O ganlyniad roedd pleidlais Llafur ychydig bwyntiau (hyd at bum pwynt efallai) yn is nag y byddai fel arall, ac roedd pleidlais y Lib Dems yn uwch. Bydd y rhyfel yn llai o factor o lawer y tro hwn. 鈥楻wan 鈥榙wi ddim yn dweud y bydd gogwydd at Lafur 鈥 ond mae posibilrwydd pendant.

    Byddwn yn tybio bod Wrecsam ac Alyn a Glanau Dyfrdwy a De Clwyd yn saff i Lafur.

    Gallai Gorllewin Clwyd yn hawdd fynd yn ol i Lafur. Digon di drefn ydi peirianwaith etholiadol y Toriaid, a bydd pob dim yn troi o gwmpas faint o bleidleisiau tactegol fydd yn digwydd. Byddwn yn disgwyl i bleidleisiau tactegol fynd i Lafur yn hytrach na鈥檙 Toriaid.

    Delyn 鈥 sedd Brydeinig iawn o ran patrymau pleidleisio. Roedd pethau鈥檔 agos iawn yn yr etholiad Cynulliad, ond mae angen gogwydd o 10% yn yr etholiad San Steffan. 鈥楧ydi hyn ddim am ddigwydd.

    Dyffryn Clwyd 鈥 Nes byth yn yr etholiad Cynulliad (ond Ann Jones oedd ymgeisydd Llafur)ac angen llai o ogwydd i鈥檙 Toriaid ennill 鈥 ond mae 7% yn dipyn i鈥檞 ofyn 鈥 go brin y bydd yn newid dwylo.

    Aberconwy 鈥 Un anodd braidd i鈥檞 darogan. Mae鈥檙 ychwanegiadau i鈥檙 sedd yn Nyffryn Conwy wedi rhoi pleidleiswyr naturiol Plaid Cymru yn yr etholaeth 鈥 a ni fydd y bobl hyn yn pleidleisio鈥檔 dactegol. Serch hynny, byddwn yn cytuno mai鈥檙 Toriaid sydd fwyaf tebygol o ennill 鈥 yn arbennig os mai Guto sy鈥檔 sefyll ac yn cario o leiaf ychydig o鈥檙 bleidlais Gymreig yn ne鈥檙 etholaeth 鈥 ond bydd yn agos rhwng y Toriaid a Llafur 鈥 yn arbennig os mai Betty fydd yr ymgeisydd Llafur.

    Gyda llaw mae cwestiwn mawr yn wynebu Bet 鈥 lle i sefyll Arfon neu Aberconwy? Yn yr etholiad Cynulliad roedd Llafur yn ail yn Arfon ond yn drydydd yn Aberconwy 鈥 ond roedd y bwlch yn llawer llai yn Aberconwy. Ac wrth gwrs, Denise druan oedd yr ymgeisydd yn Aberconwy. Pe byddwn i yn ei lle, Aberconwy fyddai鈥檙 dewis.

    Arfon 鈥 sedd anarferol iawn. Y fwyaf Cymreig o ran iaith yng Nghymru. O鈥檙 ugain ward sydd ar ol gyda mwy nag 80% yn siarad Cymraeg mae eu hanner yma. Da i Blaid Cymru. Mae hi hefyd yn drefol a dosbarth gweithiol. Da i Lafur. Ar bapur dylai Llafur ei hennill o fymryn mewn etholiad San Steffan (ond colli pob tro mewn etholiad Cynulliad)鈥 ond mae pawb sy鈥檔 adnabod yr etholaeth yn dda yn gwybod bod pethau鈥檔 fwy cymhleth. Mae llawer o Bleidwyr yn Nyffryn Ogwen ac i raddau llai Bangor efo hanes o bleidleisio i Lafur (neu鈥檙 Lib Dems) i gadw鈥檙 Tori allan. Dim ond Plaid neu Llafur all ennill yn y byd dosbarth gweithiol, trefol, Cymreig yma 鈥 felly ni fydd hyn yn ffactor. Hefyd mae gan y Blaid beirianwaith etholiadol sylweddol 鈥 tros i fil o aelodau a thair cangen fwyaf Cymru (Caernarfon, Bangor a Dyffryn Ogwen). Gwan iawn yw trefniadaeth Llafur, ac os mai Martin sy鈥檔 sefyll mae鈥檙 ymgeisydd yn tila. Gall Llafur ennill 鈥 ond byddai鈥檔 rhaid i dri pheth ddod at ei gilydd 鈥 ymgeisydd da (Bet nid Martin), gogwydd tros Gymru tuag at Lafur a nifer sylweddol o bobl yn pleidleisio (roedd canran y bleidlais yn isel iawn yn rhai o wardiau Llafur 鈥 24% ym Marchog er enghraifft). Plaid i ennill oni bai bod y tri ffactor uchod yn dod ynghyd.

    Ynys Mon 鈥 sedd anarferol arall. Heb amheuaeth mae Peter yn niweidio鈥檙 Blaid a鈥檙 Toriaid. Hefyd mae Albert yn ymgeisydd cymharol dda i Lafur 鈥 distaw a di garisma 鈥 ond gweithgar ac yn osgoi tynnu neb i鈥檞 ben. Mae ganddo gefnogaeth sylweddol yng Nghaergybi. Hefyd, er gwaethaf ei henw, mae llawer iawn o bobl Mon yn byw mewn cymunedau trefol neu fwrdeistrefol.

    Serch hynny os na fydd Peter yn sefyll, Plaid fydd yn ennill gyda鈥檙 Toriaid a Llafur yn weddol agos at ei gilydd. Os bydd Peter ar y papur bydd yn agos iawn rhwng Llafur a Phlaid 鈥 ond mae ymgeisydd y Blaid efo鈥檙 holl gysylltiadau lleol sydd eu hangen 鈥 rhywbeth allweddol yn yr etholaeth yma 鈥 y mwyaf plwyfol o鈥檙 cwbl.

  • 5. Am 00:36 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Hoffwn gywiro fy ffigyrau fy hun plis. 30% oedd y ganran pleidleisio ym Marchog. Bocs Neuadd yr Eglwys oedd yn 24%. Bler iawn.

  • 6. Am 11:03 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mewn ymateb, dwy ddim yn credu mai obsesiwn sydd gennyf ynglyn 芒 gwrth-Thatcheriaeth. Yn hytrach, cofio dw i - a minnau'n gweithio mewn Llywodraeth Leol ar y pryd - cofio dewisiadau anodd a oedd yn wynebu cynghorwyr etholedig y cymunedau lleol a oedd fel pe bai eu dwylo wedi'u clymu. Pe baent yn mentro'n ormodol i herio'r llywodraeth yn agored, roedd bygythiad bob amser y byddai rhywun anetholedig, di-fandad o San Steffan yn cymryd drosodd ac yn creu mwy fyth o lanast. Yn wir, roedd y dyddiau hynny'n arswydus! Y cwbl a ddywedaf yw bod hanes yn hynod o bwysig ac na ddylem anghofio ar unrhyw gyfrif y cyfnod y buom trwyddo'n gymharol ddiweddar. Roedd tanseilio democratiaeth leol yn uchel iawn ar agenda Mrs T, gan mai meddylfryd yr unben oedd ganddi. Credaf mai'r unig beth a'i rhwystrodd rhag mynd yn fwy fyth o unben oedd yr ofn y byddai'r Cw卯n, fel Pennaeth y Wladwriaeth Brydeinig) yn dweud y drefn wrthi (fel y gwnaeth, o leiaf unwaith, yng nghyswllt Sancsiynau yn erbyn De Affrica).

    Yn bersonol, hoffwn, wrth reswm, weld y Blaid yn cipio o leiaf 5 sedd yn yr etholiad Seneddol nesaf, felly ymlaen 芒'r ymgyrch!

  • 7. Am 11:31 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Daran:

    Diddorol gweld yr analysis rhanbarthol ma yn cripad mewn i San Steffan yn ogystal a'r Senedd yng Nghaerdydd!

    Astudiaeth Rallings a Thrasher (arbennigwyr ar etholiadau) oedd wedi mapio canlyniadau 2005 ar y ffiniau newydd ac felly rhoi Arfon i Lafur gyda mwyafrif o llai na 100.

    Diddorol gweld sut gwnaiff Plaid Cymru ymateb. Dydy'r cwpwl o etholiadau Prydeinig diwethaf ddim wedi bod yn rhai dda iddynt - heblaw yn ardal Adam Price wrth gwrs. Yn 2001 collwyd Ynys Mon, ac wedyn Ceredigion yn 2005 tra bod y Blaid yn rhy obsessed a'r ynys i gadw golwg ar y canolbarth.

    Bydd yr etholiad nesa'n diddorol tu hwnt felly - dau sedd i Blaid Cymru anelu at ennill nol, sedd yn Arfon sydd ddim yn eiddo parhaol (ar bapur oleua) ac hefyd y penderfyniad ar ba etholaethau ychwanegol i dargedi. A yw Aberconwy, er enghraifft, yn sedd iddyn nhw neu'r Ceidwadwyr falle ar lefel Prydeinig?

    Bydd rhaid gwneud ambell i benderfyniad caled iawn wrth rhannu lan yr adnoddau i wneud yn siwr bod etholiad 2008 (falle!) yn mwy o lwyddiant nag oedd un 2005.

  • 8. Am 13:01 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Pam mai tri yn unig o'r saith sylw sydd yn ymddangos yma Vaughan?

    Problem dechnegol...wedi ei sortio. Sori ! VR

  • 9. Am 15:05 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cai, Diolch am dy sylwadau. Mae'n erthygl ynddi ei hun! Rhagdybiaeth, wrth reswm, yw tybio na fydd 'na ogwydd tuag at Lafur. Mae'n annodd iawn proffwydo seddi unigol heb rhiw fath o ragdybiaeth. Dw i'n ei chael hi'n annodd i gredu y bydd y Ceidwadwyr yn gwneud yn waeth o safbwynt canran nac yn 2005 ond mae'n bwynt da iawn ynglyn ac effaith Irac ar y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Am resymau dw i'n esbonio yn yr erthygl ar y canolbarth rwy'n credu y gallai'r etholiad nesaf fod yn un gwaedlyd i blaid y canol gallai Llafur elwa o hynny mewn rhai etholaethau ond ar y cyfan dw i'n amau mae'r Toriaid fyddai ar eu hennill fwyaf. Yn sicr mae hynny'n wir yn rhannau helaeth o Loegr.

  • 10. Am 17:04 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Fedra i ddim profi hyn Vaughan, ond fy nheimlad i ydi mai pleidleiswyr Llafur traddodiadol oedd yn gyfrifol am y chwydd ym mhleidlais y Lib Dems yn 05.

    Wedi'r cwbl roedd eu perfformiadau gorau mewn ardaloedd dinesig a threfol - ardaloedd lle nad oes cymaint a hynny o bleidleiswyr Toriaidd p'ryn bynnag.

    'Doedd y perfformiadau ddim cystal yn y lleoedd hynny lle'r oeddynt benben a'r Toriaid.

  • 11. Am 16:24 ar 27 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Padarn:

    Roedd llawer o'r gogwydd o Lafur i'r Rhyddfrydwyr yn 2005 yn digwydd yn y dinasoedd lle mae sefydliadau addysg uwch - fel Wrecsam, ond nid Bangor, am ryw reswm. Roedd ffioedd myfyrwyr yn ogystal 芒'r rhyfel yn ffactor o bwys hefyd.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.