SPADS ETO
Mae'n swyddogol erbyn hyn. Fy nghyfaill a chydweithiwr Rhuanedd Richards yw ail gynghorydd arbennig (SPAD) Plaid Cymru. Dw i'n gwybod ers rhai dyddiau ond fe wnaeth Rhuanedd ofyn i mi beidio dweud a dyw pechu SPAD cyn iddo fe neu hi gychwyn yn y swydd ddim yn syniad da!
Dyma'r eildro i gyd-gyflwynydd i mi dderbyn swllt y llywodraeth. Roedd prif-gynghorydd Rhodri Morgan Jo Kiernan a finnau arfer cyflwyno βGood Morning Walesβ ac wrth gwrs Rhuanedd oedd yn cyflawni'r un dasg ar βDau o'r Baeβ.
I'r rheiny sydd ddim yn ei nabod mae Rhuanedd yn ferch i'r Barnwr Phil Richards ac fe safodd ei thad a'i mam fel ymgeiswyr seneddol i Blaid Cymru yng Nghwm Cynon. Fel fi, cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydfelen. Trwy ryfedd cyd-ddigwyddiad roedd hi a Dafydd Trystan (sydd ar fin gadael ei swydd fel prif weithredwr Plaid Cymru) yn yr un flwyddyn a nhw oedd prif-ddisgyblion yr ysgol.
Fedrai ddim dweud cymaint o golled yw Rhuanedd i'r ΒιΆΉΤΌΕΔ a chymaint o gaffaeliad fydd hi i Blaid Cymru. Does neb yn gweithio'n galetach na Rhuanedd. Yn ogystal a chwyflwyno βDau o'r Baeβ a βManiffestoβ hi oedd cydlynydd ystafell newyddion y ΒιΆΉΤΌΕΔ yn y bae yn ogystal a bod yn uwch-gynhyrchydd S4C2. Mae'n ganddi hi a'i gwr Steve fab a merch ifanc ac hi yw ysgrifennydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r ffordd y mae menywod fel Rhunaedd yn llwyddo i wneud cymaint tra'n goddef y prima donnas gwrywaidd o'u cwmpas yn ryfeddod cyson i mi.
Mae na un peth ffodus yn hyn oll. Dw i'n nabod Rhuanedd ers oedd hi yn ei chlytiau a pham oedd hi'n dair oed fe wnes i weithio allan ffordd o wybod os oedd hi'n dweud celwydd. Gallai hynny fod yn ddefnyddiol.
SylwadauAnfon sylw
Wel, wel... Post doniol a gwybodus. Bydd Dau o'r Bae byth yr un peth
This appointment does nothing to quash the belief by many in Labour and the Conservatives that ΒιΆΉΤΌΕΔ Wales is full of Plaid Cymru supporters and sympathisers.
With Alun Shurmer going one way, and Rhuanedd the other. It don't look good, as they say.
I hope you do allow this comment to go up, as it raises an important point about ΒιΆΉΤΌΕΔ impartiality.
"Swllt y llywodraeth" Da iawn Vaughan. Da i weld y Blaid yn cyflogi y gorau o'n ieuenctid.
Dwi di nabod Rhuanedd am gyfnod hir, gan ddechrau pan oeddwn yn chwarae gwleidyddiaeth myfyrwyr - hi yn cefnogol o'r Blaid a minnau ddim.
Ta beth yw ei gwleidyddiaeth personol hi, does dim amheuaeth gen i o gwbl bod ei gwaith hi gyda'r ΒιΆΉΤΌΕΔ wedi bod yn straight iawn ac heb unrhyw tuedd gwleidyddol pleidiol. Efallai mae rhai yn dadlau ynglyn a'r delwedd o ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru, ond realiti y sefyllfa yw bod Rhuanedd wedi bod yn un o goreuon y ΒιΆΉΤΌΕΔ ac wedi ymddwyn yn llwyr brofesiynol yno.
Pob lwc iddi - mae darlledu gwleidyddol Cymru ar ei golled.
Beth yw ystyr S P A D?
A beth yw gwaith SPAD?
SPecial ADvisor yw spad. Mae nhw'n cael eu pennodi gan y pleidiau i'w cynghori ar bethau fel polisi neu cyfathrebu. Er bod nhw'n cael eu talu o'r pwrs cyhoeddus dyw nhw ddim yn gorfod bod yn wleidyddol niwtral fel gweision sifil eraill.
ae 'na esboniad llawn fan hyn