麻豆约拍

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Pregeth!

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2007

Am wn i, dw i'n ddigon tebyg i'r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru yn yr oes 么l-grefyddol hon. Dw i'n tueddu meddwl am grefydd fel peth llesol sy'n gallu bod yn gysur hawdd mewn cyfyngder. Cyn belled a mae unrhyw ffydd bersonol yn y cwestiwn dw i'n fwy o agnostig nac o anffyddiwr gan fentro i'r Capel a'r Mosg ar fympwy.

Dw i'n joio'r Nadolig ac yn ymprydio yn ystod Ramadan (ond am resymau teuluol ac yn ymwneud a hunan-ddisgyblaeth yn fwy nac unrhyw gymhelliad crefyddol). Rhiw fath o grefydd 鈥減ick and mix鈥 sy gen i felly, crefydd fyddai ddim yn plesio Cristion 鈥済o-iawn鈥 na Mwslim 鈥済o iawn鈥 ond pwy sydd i ddweud bod eu fersiwn nhw o 鈥済o iawn鈥 yn fwy cywir na'n fersiwn i?

Yna, o bryd i gilydd, mae wyneb creulon, cul crefydd yn ymddangos ac yn gwneud i ddyn gofyn ydy hi'n bryd in ni gefni ar rai yr holl fusnes crefydd ma?

Does dim angen rhestri'r digwyddiadau. Maent yn llenwi'n papyrau'n gyson. Cafwyd enghreifftiau yn Llundain a Glasgow yr wythnos hon.

Mae geiriau'n llai niweidiol na bomiau wrth reswm. Ond o bryd i gilydd mae pethau'n cael eu dweud gan grefyddwyr sydd yn ymddangos yn gwbwl hurt a didostur i'r rhan fwyaf ohonom.

Y penwythnos yma mae miloedd o bobol yn cysgu mewn neuaddau a llety dros dro yn sgil y llifogydd diweddar. Dw i'n sicr bod na sawl ficer a gweinidog, sawl Eglwys, Mosg a Theml yn gwneud eu gorau i helpu ond mae gan Esgob Caerliwelydd (lle roedd 'na lifogydd difrifol y llynedd) bethau pwysicach ar ei feddwl. Dyma sydd ganddo i ddweud am y llifogydd yn y ;

"This is a strong and definite judgment because the world has been arrogant in going its own way. We are reaping the consequences of our moral degradation, as well as the environmental damage that we have caused. We are in serious moral trouble because every type of lifestyle is now regarded as legitimate. In the Bible, institutional power is referred to as 'the beast', which sets itself up to control people and their morals. Our government has been playing the role of God in saying that people are free to act as they want, The sexual orientation regulations are part of a general scene of permissiveness. We are in a situation where we are liable for God's judgment, which is intended to call us to repentance."

Ie, dyna chi. Mae Afon Hafren yn llifo trwy ystafelloedd byw trigolion Upton On Severn oherwydd bod y llywodraeth (y bwystfil!) wedi cyflwyno rheolau i wneud bywyd ychydig yn haws i leiafrifoedd rhywiol.

Mae'n ddigon hawdd chwerthin ar ben rhywbeth fel hyn wrth gwrs. Mae obsesiwn yr Eglwys Anglicanaidd a phobol hoyw wedi bod yn rhiw fath o j么c cenedlaethol Prydeinig ers degawdau. Ond cofiwch mae'r dyn yn credu hyn. Mewn gwirionedd. Wir yr.

Nid bod Esgob Caerliwelydd yn fygythiad i unrhyw un, wrth gwrs. Ond mae 'na beryglon amlwg mewn mynnu bod rhywbeth cwbwl afresymol yn wir ar sail dogma grefyddol. Mae'n iawn i ddiscrimineiddio yn erbyn pobol hoyw oherwydd bod Duw yn dweud hynny. Mae'n iawn i fi ladd yn enw ffydd oherwydd bod Duw yn dweud hynny. Beth yw'r gwahaniaeth?

Diolch byth ein cynrychiolwyr democrataidd sy'n llunio'n deddfau ar sail rheswm. Mae gen i fwy o ffydd yn y Senedd a'r Cynulliad nac yn yr Esgobion a'r Mullahs.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:42 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ie, ond mae beio y lleiafrif hoyw yn llawer haws na beio y mwyafrif sydd yn gyrru ceir; gwir achos 'climate change'. Efallai dylai'r Llywodraeth pasio deddf mae dim ond pobl hoyw fyddai'n 'allowed' i berchen ceir..

    "Mae geiriau'n llai niweidiol na bomiau wrth reswm" - nid wyf mor siwr, Vaughan - "The pen is mightier than the sword", a gwnaeth Josef Goebbels dangos pwer erchyll 'propaganda'.

  • 2. Am 19:38 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae mae'r esgob yma yn ei ddeud yn fy mhoeni'n aruthrol,yn arbennig gan nad fy mod yn cyfri'n hun yn ryw grefyddol iawn. Wyt ti'n meddwl os a'i i gymanfa y Steddfod flwyddyn yma mi gai'n ngwaredu ac hwyrach fydd na le i fi ar arch Noa pan ddaw y llifogydd nesa?

    On anghofio yr ochor hwyliog o be mae'r gwr yma yn ei ddeud mae yna ochor ddifrifol iddi a hyny ydy fod pobol grefyddol yn y wlad yma yn cael ei dylanwadu gan 'bigots' fel Pat Robertson, Jerry Falwell ac efengylwyr ffwndamentaliaeth tebyg iddynt sydd yn pregethu casineb yn erbyn pawb sydd ddim yn credu run fath a nhw. I gael gweld faint mor hurt ydynt darllenwch - "American Fascists, the Christian Right and the War on America" gan Chris Hedges.

    Cofiwch - be sy'n digwydd yn yr UDA yn digwydd yma o fewn cenhedlaeth.

  • 3. Am 19:50 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Y gwir amdani yw bod unrhyw ffwndamentalaeth gibddall yn beryglus, a bod Osama Bin Laden, ar un llaw, a George Bush ar y llaw arall, yr un mor beryglus 芒'i gilydd. Rwy'n hollol grediniol mai penderfyniad y Dyn Bl锚r i fod yn byped bach i Bush yn 2003, cyn i Hans Blix a'i archwilwyr o'r Cenhedloedd Unedig gael cyfle i ddod i gasgliad ynglyn 芒 ph'un a oedd gan Ir谩c arfau gor-nerthol neu beidio, sy'n bennaf gyfrifol am y ffaith fod gwledydd y Deyrnas Unedig bellach yn dioddef ymosodiadau. Yr hyn sy'n waeth y tro hwn yw nad Llundain yw'r unig darged, a bod y terfysgwyr wedi penderfynu mentro ymhellach. O leiaf yn yr hen ddyddiau, pan oedd Byddin Gweriniaethol Iwerddon wrthi'n bomio tir mawr Prydain, roeddem ni yn y gwledydd Celtaidd yn teimlo'n ddigon saff na fyddai'r Gwyddelod yn ymosod arnom ni. Mae'r terfysgwyr presennol wedi profi eu bod yn wahanol, ac nad oed dim unlle'n ddiogel bellach rhag ymosodiad.

    Pe bai'r Dyn Bl锚r wedi ymbwyllo, yn 么l yn 2003, ac aros i'r Cenhedloedd Unedig ddod i'w casgliadau ynglyn 芒 phresenoldeb/absenoldeb arfau gor-nerthol yn Ir谩c, yn hytrach na chredu gwybodaeth y profwyd wedyn ei bod wedi dyddio, rwy'n siwr na fyddai'r terfysgwyr presennol wedi'u cynddeiriogi i'r fath raddau. Nid ceisio cyfiawnhau eu gweithredoedd dw i ar unrhyw gyfrif ond, yn hytrach, dangos fel y gall byrbwylldra ar ran gwladweinyddion bryfocio ymateb treisgar o du rhai sydd 芒'u bryd ar ddial, ac ar geisio lladd pobl ddiniwed.

    Wrth reswm, roedd y byd i gyd yn cydymdeimlo ag America yn 么l yn 2001, ar 么l 9/11, ond gwaith Bush a'r gymuned rhyngwladol ar y pryd oedd mynd ar 么l Osama Bin Laden a'i ddynion, eu dal a'u dwyn o flaen eu gwell, nid mynd ar danjent, yn 么l mympwy Bush, a gwneud y byd hwn yn lle llawer mwy peryglus o ganlyniad. Mae gobaith o hyd mai Democrat fydd yn ennill yr etholiadau arlywyddol nesaf yn America, ac y gwelwn newid polisi.

    O ran ffwndamentailiaeth Esgob Caerliwelydd, mae'n debyg y byddai'n dweud yr un peth pe baem yn cael tywydd poeth a sych, neu unrhyw fath o dywydd! Unrhyw esgus dros gynhyrfu'r dyfroedd a chodi nyth cacwn am ei ben! Does dim rhyfedd, felly, mai 'le fou' (y ffwl) y mae'r Ffrancod yn galw'r darn gwyddbwyll perthnasol!!!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.