ΒιΆΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Cymry Caint

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007

Does gen i ddim clem pam ond mae'n ymddangos bod pobol Swydd Gaint yn hoff o wleidyddion o Gymru. Mae o Abertawe wedi cynrychioli Dover yn y senedd ers 1997 ac wrth gwrs mae yn cynrychioli Folkestone. O'r ddau Gwyn sydd wedi cadw ei acen orau! Er da neu er drwg mae gan aelod Medway Bob Marshall Andrews gysylltiad a Chymru hefyd. Ef yw perchennog y tΕ· β€œTelytubby” adnabyddus yn Sir Benfro

Nawr mae Ceidwadwyr Gillingham wedi dewis cyn gadeirydd myfyrwyr Llafur Cymru, Rehman Chishti, fel eu hymgeisydd mewn sedd hynod ymylol. Safodd Rehman i Lafur yn erbyn Francis Maude yn 2005 ond fe adawodd y Blaid flwyddyn yn Γ΄l gan esbonio i'r mai polisΓ―au cyfraith a threfn y llywodraeth oedd wrth wraidd ei benderfyniad;

"Blair's government is simply concerned with headline grabbing initiatives. The latest is the so-called "Respect Agenda". I find it hard to respect a Government which has presided over a rise in gun crime, an increase in drug offences, and almost 600,000 more incidents of violent crime. It was also this authoritarian Government which proposed the Glorifying Terrorism Bill. As a barrister I don't know what this is supposed to mean."

Ar ddiwedd mis cythryblus i David Cameron mae hwn yn newyddion da i'w brosiect. Fe fydd cefnogwyr Cameron yn mynnu bod y ffaith bod Ceidwadwyr ardal fel Gillingham wedi dewis cyn-aelod Llafur o leiafrif ethnig yn brawf bod y blaid yn newid mewn gwirionedd

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:46 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Drychwch ar Slugger am safbwynt o Ogledd Iwerddon

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²΅΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

ΒιΆΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r ΒιΆΉΤΌΕΔ

ΒιΆΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.