Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Problemau wrth benodi

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Mawrth, 29 Mai 2007

Er ei fod bellach, unwaith yn rhagor, yn brif weinidog megis cychwyn y mae problemau Rhodri Morgan. Y dasg gyntaf sy'n ei wynebu yw penodi cabinet a dyw gwneud hynny ddim yn debyg o fod yn broses hawdd.

Y dewis cyntaf sy'n wynebu Rhodri yw p’un ai i wneud newidiadau radicalaidd ai peidio. Fe fyddai'n bosib wrth gwrs i gadw pawb lle maen nhw a phenodi dau aelod newydd i swyddi Alun Pugh a Sue Essex. Fe fyddai John Griffiths yn bâr saff o ddwylo fel gweinidog diwylliant, er enghraifft. Y broblem sy gan Rhodri yw hyn- a fyddai cymryd y llwybr diogel yn arwydd ei fod yn ystyried ei hun fel rhyw fath o ofalwr dros dro, yn cadw pethau i fynd wrth i'r broses o ddod o hyd i drefn fwy parhaol a sefydlog barhau.

Yr ail gwestiwn y mae'n rhaid i Rhodri ei ystyried yw sut mae delio a'r "Jihadwyr". Wrth ystyried aelodau fel Leighton Andrews a Huw Lewis a fydd y prif weinidog yn cofio hen ddywediad LBJ "It’s probably better to have him inside the tent pissing out, than outside the tent pissing in."? Yn sicr mae'r dalent a'r gallu gan Leighton a Huw i fod yn weinidogion ond pa fath o neges y byddai eu penodi'n rhoi i'r gwrthbleidiau? Wedi'r cyfan go brin y gellid disgrifio'r naill ddyn na 'r llall yn wleidyddion consensws, cynhwysol.

Mae gan Rhodi broblem ddaearyddol hefyd. Yn sgil canlyniadau'r etholiad mae 'na beryg i Lafur ymddangos yn blaid ranbarthol y de-ddwyrain. Dim ond llond dwrn o seddi yn y gogledd-ddwyrain (gyda mwyafrifoedd bregus ym mhob un) sy'n galluogi i Lafur hawlio mai hi yw "gwir blaid Cymru gyfan". Mae cael aelod o'r cabinet nad yw'n cynrychioli'r de-ddwyrain yn hanfodol. Y broblem yw mai dim ond dau aelod cymwys sydd na sef Alun Davies a Lesley Griffiths, ill dau yn newydd-ddyfodiaid i'r cynulliad.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:57 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Rhyfedd son am Leighton Andrews a Huw Lewis yn yr un frawddeg.....Mae Leighton yn rhan o ...beth oedd hi y "traddodiad Rhyddfrydol" mae Huw o draddodiad George Thomas.

  • 2. Am 11:58 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan - Wrth ddefnyddio hen ddywediad LBJ i ddisgrifio J.Edgar Hoover wyt ti'n meddwl mae Leighton a Huw Lewis ydy J.Edgar Hoover's Cymru...gobeithio wir, mi gysgai'n dawelach gan feddwl does ganddo ni ddim i boeni am dan ta!!

  • 3. Am 12:02 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    A gyda llaw, wedi cael digon o dy blydi cwises.

  • 4. Am 13:01 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Andrew:

    beth am dan Carl Sargeant? Mae pawb o bob blaid, yn ei garu fo - dyna ffordd o datrys a cwestiwn consensws.

  • 5. Am 14:26 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mae Carl yn bosibilrwydd ond nid fel gweinidog cyllid, dybiwn i. Gan mai'r Gweinidog cyllid sy'n gyfrifol am y gyllideb- y peth sydd tebycaf i ddryllio'r llywodraeth- dw i'n meddwl bod 'na bosibilrwydd cryf y bydd Rhodri am gymryd y swydd honno ei hun gan ddyblu fyny fel y gwnaeth e da datblygu economaidd am gyfnod.

  • 6. Am 14:53 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Carl pwy?...dwi'n byw yn yr etholaeth agos i Lannau Dyfrdwy a dwi wedi clywed dim am be mae o wedi ei gyflawni, run fath am dan Sandie Mewies. Yr unig ddwy yn y Gogledd sydd i weld yn gneud rywbeth ydy Karen Sinclair ag Ann Jones.

  • 7. Am 16:18 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd twlltinybyd:

    Karen Sinclair yn cyflawni pethe... ha ha ha. Pan ofynnodd protestwyr yr Hafod be oedd hi wedi gneud i'w helpu nhw nath hi ddeud "I've got a file this thick".
    Yn anffodus mae hi rwan yn cael ei nabod fel Karen "I'm this thick" Sinclair - dydi'r ddynes heb wneud dim yn ei hetholaeth. Wnaeth hi mond cadw ei sedd oherwydd bod Plaid heb ymgyrchu yno.
    Nath Plaid gael 25% heb drio yn 1999 - mae'n bosib ennill y set yn hawdd y tro nesa.

  • 8. Am 17:32 ar 29 Mai 2007, ysgrifennodd Awen:

    Jane Davidson -- Iechyd?

    Pwy fydd yn cael y portfolio Amgylchedd?? Hwn yn mynd i fod yn un anodd iawn....gallair gwrthbleidiau alw pleidlais ddiffyg hyder os nad yw'r llywodraeth yn adolygu TAN 8?

  • 9. Am 12:06 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd huw:

    Alun Davies?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.