Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Marw ar fy nhraed

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Dwy'n marw ar fy nhraed ac ar fin ei heglu hi am adref. Mae na gymaint o bethau dwy eisiau sgwennu amdanyn nhw ond mae'n rhaid cael cwsg yn gyntaf. Ond i wneud un peth yn eglur...fe fydd y blog yn parhau ac mae gen i nifer o stareon blasus i'w cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.

Fel tamaid i aros y pryd dyma rai o'r sylwadau y clywais tra'n crwydro'r Senedd heddiw. Mae rhai yn ddi-enw. Cewch chi ddyfalu pwy yw nhw ac o ba blaid.

"Dwy yn erbyn clymblaid a Llafur...mae nhw'n wrth Gymraeg ac mae pobol yn eu casau nhw"-Gareth Jones AC. "Our people need a bloody reality check if they think this is winning..." AC dienw. "Pam ddiawl byse ni cynnig clymblaid i'r Lib Dems flwyddyn cyn etholiadau lleol?" AC dienw arall. "Wrth gwrs bod croeso i Gareth ddweud ei farn yn blaen..." Dafydd Trystan. "Poor John Dixon...he came so close"

Mewn gwironedd clywais i'r un ola yna ddwywaith, unwaith yn cyfeiro at John Dixon (Plaid) ym methu o ychydig gannoedd yng Nghorllewin Caerfyrddin a'r llall at John Dixon (Lib. Dem) yn methu yng Nghanol De Cymru o 78 pleidlais.

Does dim un John Dixon yn y cynulliad felly. Diolch byth am y ddau Andrew Davies,

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:20 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n cydweld hefo Gareth Jones, fuasa pobol Cymru byth yn maddau i'r Blaid os a'n nhw i glymblaid hefo Llafur, dim ond un opsiwn sydd na clymblaid 'Rainbow' hefo Ceidwadwyr a DemRh. Hwyrach fod gneud 'deal' hefo Nick ai griw yn 'sticio yng ngyddfau' nifer o gefnogwyr y Blaid on mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi torri cwys ei hunain yng Nghaerdydd ac ddim yn dilyn y'r 'Unionist' party cenedlaethol. Hefyd does ddim cymhariaeth rhwng Ceidwadwyr fel Alun Cairns, David Melding, Jonathan Morgan a phobol fel John Redwood!!
    Un peth sydd yn bwysig mae Llafur wedi colli...ddylsa nhw ddim llywodraethu.

  • 2. Am 20:01 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Sion:

    Oes rhaid creu clymblaid o gwbwl - boed yn glyblaid gyda Llafur neu'n glymblaid Enfys? Mae cwpwl o bobl wedi awgrymu ar flogiau Saesneg y gellid gadael i Lafur greu llywodraeth leiafrifol.

    Canlyniad hyn fyddai tynnu Plaid/DemRh/Ceid oddi ar y bachyn am 'gefnogi' llywodraeth Lafur amhoblogaidd. Byddai hefyd yn gorfodi Llafur i drafod a chael consenswn ar bob mesur maent am gyflwyno.

    O safbwynt arall, mwy sinigaidd i'r Gwrthbleids, bydd yn creu rhaniadau a blinder o fewn rhengoedd Llafur gan roi'r argraff fod Llafur yn blaid di-fflach a gwan erbyn 2011.

    Mae'n anodd gweld beth fyddai gan unrhyw un o'r 3Gwrthbleis i'w hennill o fynd i glymblaid gyda Llafur. Mae'n anodd dychmygu bellach a fyddai un o'r 3gwrthbleidiau'n ymddiried yn Llafur chwaith.

  • 3. Am 23:56 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd ianjamesjohnson:

    Dwi ddim yn deall sut John Dixon o'r Lib Dems yn 78 o bleidlais i ffwrdd o sedd yn y Senedd. Efallai dwi wedi gwneud camgymeriad yn y mathemateg, ond...

    Cafodd y Doriad 45,147 o bleidlais gydag un sedd etholaethol (Gogledd Caerdydd), felly rhannwyd mewn 2 ar ol d'Hondt a roedd ganddyn nhw 22,573.5 o bleidlais.

    Roedd 32,207 o bleidlais gyda Plaid Cymru heb unrhyw seddi etholaethol, felly 32,207.

    Ennillodd y Rhyddfrydion 29,262 o bleidlais gydag un sedd etholaethol (Canol Caerydd), felly rhannwyd mewn 2 ar ol d'Hondt = 14,631.

    Felly, mae'r Plaid yn ennill sedd gyntaf, ac yn cael eu rhannu hyd at 16,103.5. Mae'r Toris yn ennill yr ail a'u pleidlais yn cael eu rhannu mewn 3, sef 15,049. Mae fwy ar ol gyda Plaid nag unrhywun arall, felly 3ydd sedd a'u pleidlais yn rhannu mewn 3, sef 10,736. Mae'r Toris, gyda mantais o 418 dros y Rhyddfrydion, yw ennillwyr y 4ydd sedd. I ennill y sedd olaf, roedd rhaid i'r Rhyddfrydion ennill 30,095 o bleidlais, sef 833 o bleidlais fwy.

    O le daeth ffigwr 78 o bleidlais?

  • 4. Am 07:40 ar 5 Mai 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Ian, rwyt ti'n gwbwl gywir. Ces i'r ffigwr o 78 pleidlais gan Jenny Randerson rhai oriau cyn y cyhoeddiad swyddogol. Dwy'n cymryd bod y ffigwr yna wedi ei chyrraedd trwy gynnwys rhai canlyniadau etholaethol gan nad oedd ffigyrau'r ail bleidlais ar gael o rai etholaethau ar y pryd.

  • 5. Am 09:20 ar 5 Mai 2007, ysgrifennodd ianjamesjohnson:

    Ar ol derbyn gymaint o rhifyn Focus trwy'r drws yn dangos bod 'na '2 horse race' ym mhob ardal o Gaerdydd (lle oeddwn nhw'n 3ydd yng Ngogledd Caerdydd, 3ydd hefyd yn Ne Caerdydd a Phenarth a 4ydd yng Ngorllewin Caerdydd), dwi ddim yn siwr dylen ni wrando ar ystadegau etholiadol y Rhyddfrydion!!

  • 6. Am 10:19 ar 5 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Ian, Dwy'n paratoi darn ar ddefnydd y Rhyddfrydwyr o ystadegeau. Fe fydd hi'n ymddangos ar y blog heddiw neu fory. Dwy'n meddwl gweni di ei fwynhau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.