Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llanast Llandrindod

Vaughan Roderick | 08:55, Dydd Sul, 20 Mai 2007

Mae'n anodd i unhyw un o dan ei hanner cant (sy'n cynnwys fi!) ddeall dyn cweit mor bwysig ym mywyd Cymru'r ganrif ddiwethaf oedd Huw T. Edwards. Ef oedd prif Undebwr Llafur Cymru, roedd yn berchen ar "Y Faner" ac yn gadeirydd yr egin-gynulliad a sefydlwyd gan lywodraeth Attlee "Cyngor Cymru a Mynwy". Roedd e'n cadeirio'r Bwrdd Croeso hefyd, yn aelod o'r Bwrdd Nwy ac yn fawr yn yr Eisteddfod. Does dim syndod felly ei fod yn cael ei adnabod fel "Prif Weinidog answyddogol Cymru" a phan roedd Huw T, yn siarad roedd y genedl yn gwrando!

Rhys Evans awdur cofiant Gwynfor ac un o fy mosus wnaeth fy atgoffa am Huw T drannoeth cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol. Roeddwn i'n cellwair mai'r cyfarfod hwnnw oedd yr unig beth diddorol i ddigwydd yn Llandrindod erioed ond roedd Rhys yn barod i'm cywiro. Yn Llandrindod ar ddechrau'r pumdegau y cynhaliwyd y cyfarfod i lansio'r " " oedd yn tynnu ynghyd Plaid Cymru, carfan gref o Ryddfrydwyr ac un Aelod Seneddol Llafur y bythgofiadwy SO Davies. Roedd y cyfarfod hwnnw yn siambols pur a chymaint oedd dirmyg Huw T. am y syniad nes iddo sgwennu llyfr "They Went to Llandrindod" yn dilorni'r ymgyrch, ei haelodau a'i nod.

Fe newidiodd Huw T ei feddwl rai blynyddoedd yn ddiweddarach gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur ac ymuno, am gyfnod, â Phlaid Cymru. Trodd yn ymgyrchwr brwd dros ddatganoli ac er iddo farw yn 1970 roedd yn rhan allweddol o'r broses a arweiniodd at refferendwm aflwyddianus 1979.

Dw i'n ceisio dychymygu beth fyddai Huw T. yn gwneud pe bai'n ymweld a Bae Caerdydd heddiw. Mae'n sicr y byddai wrth ei fodd i weld adeilad Senedd Cymru. Ond o glywed bod Plaid Cymru a'r Toriaid ar fin ffurfio llywodraeth yno dw i'n meddwl y byddai fe'n cael harten. Wedi'r cyfan y rheswm yr oedd Huw T. yn cefnogi datganoli oedd er mwyn amddiffyn Cymru rhag llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Efallai y byddai fe'n penderfynu mae ei safbwynt gwreiddiol oedd yn gywir a bod "dim byd da yn dod allan o Landrindod"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:20 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Os fydd y IWJ yn rhannu llywodraeth gyda'r Toriaid dwi'n amau bydd nifer o aelodau Plaid Cymru'n ymddiswyddo, mae yna siawns da fyddaf yn un ohonynt.

    Cofiwch dwi'n yn credu bydd llawer yn ymuno gyda unrhyw un arall. Pwy all aelodau o Blaid Cymru ymuno gyda ?

  • 2. Am 18:14 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Mr G:

    Off topic - ond pam fod Maniffesto a'r Politics Show jest yn gyfieithiad o'i gilydd? Heddiw oedd yr achos gwaethaf eto. Os yw Rhodri ac Alun Cairs ar y Politics Show oni fyddai synnwyr dyweder mewn cael IWJ a rhywyn o'r Lib Dems ar Maniffesto neu vice versa yn hytrach na gwneud yr un cyfweliadau eto yn Gymraeg. Roedd eitem Caeredin hefyd yn gyfieithiad union bron! Dwi'n siwr fod ambell un yn diffodd y teledu o sylwi eu bod newydd wylio'r rhaglen - yn Saesneg. Mae'r amser a roddir i wleidyddiaeth Cymru yn y cyfryngau yn ddigon prin fel mae hi heb ddyblygu fel hyn.

  • 3. Am 19:29 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Gwyn Jenkins:

    Amserol iawn.
    Cyhoeddir fy nghofiant i Huw T Edwards: 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' gan Y Lolfa ym mis Gorffennaf.

    Er gwybodaeth: dwy flynedd ar ôl cyhoeddi 'They Went to Llandrindod', ymunodd Huw T a'r Ymgyrch Senedd i Gymru.

  • 4. Am 19:30 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Helen:

    Sut i ffurfio llywodraeth gref sydd â mandad gan yr etholwyr .....

    Dyma, yn ôl fy marn, fyddai'r ffordd orau o ddatrys y broblem sy ohoni, heb droi mewn cylchoedd tragwyddol:-

    1) Creu o leiaf gytundeb (golau oll clymblaid) rhwng Llafur a Phlaid Cymru, fel bod Rhodri M yn parhau'n Brif Weinidog, o leiaf am y tro.

    2) Bod y Blaid Lafur, yn gyfnewid am gefnogaeth gan PC, yn gwneud tri chonsesiwn pwysig, sef:-

    a) Deddf Iaith newydd, i roi statws llwyr swyddogol i'r Gymraeg, ac i lenwi'r bylchau sydd wedi ymddangos yn Neddf 1993.

    b) Fformiwla cyllido ysgolion cynradd a fyddai'n ffafrio ysgolion bach gwledig, fel na fyddent dan fygythiad gan unrhyw ostyngiad dros dro a fo yn nifer eu disgyblion. Hefyd, cynnal arolwg ar nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg y bydd eu hangen yn ystod y blynyddoedd i ddod, o gofio'r cynnydd enfawr a ddisgwylir yn y galw, er mwyn darparu digon o leoedd yn y gwahanol sefydliadau Addysg Uwch i ateb y galw ymhen blynyddoedd i ddod. Os yw hyn yn golygu claddu Adroddiad Furlong, gorau oll!

    c) Bod Bwrdd yr Iaith yn parhau'n gorff annibynnol, heb unrhyw fygythiad i unrhyw octopws o lywodraeth, yn awr neu yn y dyfodol, ei lyncu.

    A dyma fi wedi dweud fy mhwt, felly rwy'n mynd i ddistewi, am y tro, beth bynnag!

  • 5. Am 20:33 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Blog gwych arall Mr Roderick.

    Rwy'n gobeithio nad wyt yn awgrymu fod cwrdd diweddara' y Democratiaid Rhyddfrydol yn 'siambols'.

    "Perish the thought.."

    Rwy'n disgwyl 'mlaen i'r diwrnod fyddi di yn 'migrato', fel mae'r blog 'Blether with Brian Turner' wedi cael ei wneud. Wedyn gallwn ni ddarllen dy hanes, a gwybod beth rwyt ti'n wedi bod yn gwneud am yr hanner canrif, ooops, llai na hanner canrif, ddiwethaf.

  • 6. Am 20:40 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Ai PC yw y blaid gyntaf erioed i wynebu colli aelodau am ei bod hi ar fin LLWYDDO ennill grym?

    Wel, os na wnaiff y Blaid fyw lan i'w DYLETSWYDD i ffurfio llywodraeth - yn wyneb methiant Rhodri Morgan i ffurfio un - dylen ni i gyd pacio'n bags a mynd gartre. Beth yw pwynt ymladd etholiadau os nad ydych chi'n barod i dderbyn y cyfrifoldeb a'r her os ydych chi'n llwyddo?

    Yn y byd real, rhaid i ni weithiau gwneud pethau sy'n gwneud dolur er mwyn tyfu a datblygu.

  • 7. Am 21:40 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mr G, Mae'n bwynt cwbwl deg ynglyn a'r ddwy raglen heddiw. Roedd 'na ddau reswm ei bod mor debyg i'w gilydd. Yn gyntaf mae'n annodd iawn cael gafael ar bobol sy'n fodlon siarad ar adeg mor sensitif. Yr ail rheswm yw mai cynhyrchydd y "Politics Show" oedd yn cynnhyrchu'r ddwy raglen heddiw ar ol i gynhychydd Maniffesto ddioddef profedigaeth deuluol. Gyda llaw fe fydd Maniffesto yn dirwyn i ben cyn bo hir gyda rhaglen ganol wythnos yn oriau brig S4C yn cymryd ei lle.

    Gwyn, GWYCH!!! Dw i mor falch i glywed am y llyfr hwn ac dwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at ei ddarllen.

  • 8. Am 21:47 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand:

    Difyr iawn Vaughan! Ac mae'n siwr y byddai Huw T. yn rhannu'r gwrth-Geidwadaeth llwythol 'na sy'n nodweddu cymaint ohonom ni'r Cymry. Ond 'hold on'. Onid yw Plaid Geidwadol Gymreig (sic) 2007 yn greadur go wahanol i'r Blaid Geidwadol a fodoli yng Nghymru yn ystod y 1950au? Hyd yn oed os yw'r 3 AS Toriaid yn dal i wrthwynebu datganoli, onid arwydd o newid byd yw'r ffaith fod eu plaid yn fodlon bod yn RAN O LYWODRAETH DDATGANOLEDIG GYMREIG a honno'n lywodraeth sy'n CAEL EI HARWAIN GAN BLAID CYMRU?! Pwy, tybed, sydd wedi teithio bellaf yn hyn oll? Yn wir, oni ellid dadlau fod dyheuad Huw T. wedi ei wireddu wrth i ddatganoli orfodi'r Blaid Geidwadol i newid cymaint fel na all 'fygwth Cymru' yn yr un modd ac yr arferai wneud mewn oes o'r blaen?

  • 9. Am 22:00 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Bedd G, Mi wyt ti'n broffwyd! Fe fydd y blog yn symud cyn bo hir i gartref parhaol newydd.

  • 10. Am 09:28 ar 21 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae Richard a Pleidiwr yn berffaith iawn, mae'n edrych fel bod aelodau y Blaid ddim isio ffurfio llywodraeth mae'n well ganddynt 'sneipio' or meinciau cefn. Mae'n amser i aelodau y Blaid dyfu fyny a dechrau meddwl ar hyd leins, 'solutions.'Chwarae teg i'r Ceidwadwyr mae nhw wedi symud yn fwy i'r canol tra mae Llafur a Phlaid Cymru wedi aros yn ei hunfan ar y chwith. Dwi am symud ffwrdd o'r 'nanny state' Cymraeg ar ynig ffordd i neud hynna ydy clymblaid gyda'r Ceidwadwyr.

  • 11. Am 10:51 ar 21 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hooray ! Llongyfarchiadau ! Salut !
    Bon Anniversaire ! [Dyna Ddigon, Ed.]

  • 12. Am 10:57 ar 21 Mai 2007, ysgrifennodd Sion Jobbins:

    Gyda llaw, er gwybodaeth. Caiff llyfr Gwyn Jenkins ar Huw T. Edwards ei lansio'n swyddogol yn y Llyfrgell Genedlaethol am 5.00 ar nos Wener 13 Gorffennaf. Croeso i bawb ond fydd angen achebu tocyn o flaen llaw www.llgc.org.uk/drwm

    Edrychwn ymlaen i'ch gweld Mr Roderick!

  • 13. Am 12:54 ar 21 Mai 2007, ysgrifennodd Dei:

    Par: Cyfrol Gwyn Jenkins
    Mae 'na astudiaeth arall o fywyd a gwaith Huw T ar waith gan Dr Paul Ward o Brifysgol Hudersfield - fydd yn cael ei chyhoeddi rywben yn 2008 fel rhan o'r gyfres 'Celtic Rebels' (ddim yn gwybod enw'r wasg, sori).

  • 14. Am 16:12 ar 21 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Duw Duw Dei! Mae dyn yn disgwyl blynyddoedd am lyfr am Huw T ac wedyn mae dau yn dod ar unwaith. Jyst fel bysys Caerdydd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.