Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Darllen y dogfennau

Vaughan Roderick | 07:39, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Erbyn hyn dw i wedi gweld y ddwy ddogfen oedd yn cael eu trafod gan aelodau Plaid Cymru neithiwr ac mae'r ddwy yn wahanol iawn i'w gilydd.

Rhestr faith o bolisïau yw dogfen yr enfys heb unrhyw arwydd o ba rai fyddai'n cael y flaenoriaeth. Mae 'na ambell i broblem wedi ei datrys. Er enghraifft fe fyddai na refferendwm cenedlaethol ar gynrychiolaeth gyfrannol mewn llywodraeth leol. Mae 'na feysydd eraill lle nad oes cytundeb. Mae dyfodol gwasanaethau niwrolegol yn Abertawe yn un o rheiny.

Ar ôl diystyru rhestr faith o flaenoriaethau deddfwriaethol Llafur mae'r ail ddogfen yn llawer byrrach. Mae'n cynnig treiali nifer o bolisïau Plaid Cymru megis gliniaduron i ddisgyblion ysgol. Mae'n addo refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad erbyn 2011. Yn allweddol mae gan Lafur y niferoedd yn y cynulliad i warantu hynny. Does dim sicrwydd y gallai'r "enfys" gyflawni'r addewid cyffelyb yn eu dogfen nhw. Roedd Llafur hefyd yn cynnig comisiwn i adolygu fformiwla Barnett. Roedd y ddwy Blaid wedi methu cyrraedd cytundeb ynglŷn â Deddf Iaith ac ad-drefnu'r ysbytai.

Mewn un ystyr mae'r dogfennau yn amherthnasol. Penderfyniad strategol, gwleidyddol oedd un Plaid Cymru ac mae'r un peth yw wir am y pleidiau eraill. Mae'r rhaniad barn ym Mhlaid Cymru yn un un dwfn ond mae'r ddwy ochor yn derbyn fod safbwyntiau ei gwrthwynebwyr yn gwbwl anrhydeddus. Amser a ddengys a fydd hynny'n ddigon i osgoi rhwyg parhaol yn ei rhengoedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:21 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Rwy'n ofni'r gwaethaf - llywodraeth glymblaid gwbl ansefydlog nad yw'n mynd i bara'n hir iawn cyn dangos rhaniadau a chael ei dymchwel, wrth i un neu ddwy o bleidiau'r glymblaid arfaethedig anghytuno ynglyn â pholisïau sylfaenol.

    Ar ôl clywed Melen Mary yn siarad ar y cyfryngau, neithiwr a'r bore 'ma, rwy'n cytuno'n llwyr ynglyn â'r amheuon y mae wedi'u mynegi.

    Yn anad dim, yr hyn sydd angen i'r Blaid ei gofio yw'r dinistr llwyr a achoswyd gan y Torïaid yn ystod y cyfnod Thatcheraidd - cau pyllau glo, diweithdra ar raddfa enfawr mewn rhai ardaloedd, anobaith, a'r cyfan er mwyn gwthio ei dogma. Byth, byth eto!!! Er gwaetha'r ffaith fod y Torïaid sydd wedi'u hethol i'r Cynulliad yn 'Dorïaid Cymreig', chwedl hwythau, maent yn dal i berthyn i'r un blaid â Mrs T a'i chriw.

    Dwy ddim yn credu y dylai arweinyddiaeth Plaid Cymru fynd am rym er mwyn grym ei hun, grym a fyddai'n golygu gormod o gyfaddawdu er mwyn plesio'r Torïaid a fyddai, o reidrwydd, â seddau mewn unrhyw gabinet clymbleidiol. Pe bai'r Blaid yn glastwreiddio ei pholisïau er mwyn cael grym, byddai'r blaid sosialaidd a chenedlaethol yr ydym yn ei hadnabod yn gwerthu ei henaid i'r gelyn ac yn creu rhwygiadau a fyddai, o bosibl, yn sbarduno rhai o'i haelodau hyd yn oed i geisio ffurfio plaid arall, debyg i Cymru Ymlaen ond yn fwy Cemedlaethol, a hynny'n hollti'r bleidlais ac yn niweidiol iawn i'r achos cenedlaethol oherwydd y system etholiadol sydd gennym.

    Yr unig lygedyn o obaith a welaf yw mai wedi'u 'gohirio' y mae'r trafodaethau rhwng y Blaid a'r Blaid Lafur, ac nid wedi'u cau.

  • 2. Am 10:50 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Gwerfyl Jones:

    Dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r Helenau (Jones a Smith).

    Dwi'n ofni'n fawr fod y Blaid ar fin gwneud ei chamgymeriad strategol gwaethaf ers 1978.


  • 3. Am 12:12 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Dylai'r amheuwyr ofyn i'w hunain sut ar ddaear fyddai arweinwyr Plaid Cymru yn medru dewis aros fel gwrthblaid. Dyna'r ffordd i ddistryw go iawn. Byddai hygrededd y Blaid wedi mynd am byth. Plaid y Cachgwns fydden ni wedyn yn llygaid y genedl, a llawer o'n haelodau, mae arna i ofn.

  • 4. Am 12:17 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand:

    Un cwestiwn Vaughan: wyt ti'n digwydd gwybod beth oedd 'statws' dogfen Llafur? Hynny yw, a oedd y grwp Llafur yn y Cynulliad wedi cytuno hefo'r cynigion? A beth am yr Ysgrifennydd Gwladol a'r ASau Llafur o Gymru yn San Steffan? Rwy'n gofyn am fod awgrym ar flog arall ei fod yn annelwig os oedd Rhodri Morgan a Jane Hutt yn gallu delifro eu plaid ar sail y ddogfen a gyflwynyd i'r Blaid.

    Gyda llaw, mae ysbytai'n amlwg yn ganolog yn hyn oll. Mae'n rhaid bod Llafur yn sylweddoli fod y cwestiwn yma yn 'deal-breaker' i'r Blaid. Neu os nad oedden nhw, mae'r cwestiwn yn codi: lle mae nhw wedi bod dros yr wythnosau diwethaf?

  • 5. Am 12:55 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd myfanwy:

    Mae gen i hefyd amheuon dwfn iawn ynghylch yr opsiwn clymblaid ‘enfys’. Fel Cadeirydd Adran Menywod y Blaid alla i gadarnhau bod yna deimlad cryf dros ben ymhlith swyddogion ac aelodau'r Adran sydd wedi ysgrifennu ata i ers neithiwr.

    Mae'r Adran yn cefnogi cymdeithas gyfartal a theg ac mae nifer o'n aelodau yn bryderus iawn ynghylch y syniad o drosglwyddo cyllid Cymru i'r Torïaid. Mae yna bryderon ymarferol ynghlwm wrth y cam hyn wrth gwrs. Sut all rhannu llywodraeth gyda'r Torïaid ein galluogi i ymladd yn llwyddiannus yn ne Cymru lle mae cof am Thatcheriaeth yn fyw iawn?
    Bydd datganiad gan yr Adran yn dilyn nes ymlaen.

  • 6. Am 13:37 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Swnina hefyd yn licio gwybod faint o fandet oedd gen Rhodri i wneud y cynnig 28 tudalen ma. Oedd aelodau Cynulliad Llafur wedi cytuno?

  • 7. Am 13:53 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Richard a Guto,
    Roedd Rhodri wedi cael rhyddidd llwyr gan y grwp Llafur i wneud beth bynnag oedd ei angen i gael del. Cyn belled a mae'r ddogfen honno yn y cwestiwn "watch this space!"

  • 8. Am 14:43 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    "addo refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad erbyn 2011"

    Beth yn union sydd yn y ddogfen? Ai

    1, addo rhoi'r mater o gynnal refferendwm i bleidlais yn y Cynulliad?
    2, addo y byddai holl AC'au Llafur yn pleidleisio dros gynnal refferendwm?
    3, addo y byddai holl AC'au Llafur + AS'au Llafur a gweddill Llafur Cymru yn ymgyrchu o blaid pleidlais 'Ie' mewn refferendwm?

    O'r hyn ddeallaf, 1 yn unig oedd yn y ddogfen, gyda Llafur yn rhoi pleidlais rhydd i'r holl AC'au.

    Does dim yn atal y glymblaid enfys rhag bleidleisio ar y mater o gynnal refferendwm, ac ydych chi wirioneddol yn meddwl y bydd Carwyn Jones ayb yn pleidleisio yn erbyn?!?

  • 9. Am 15:07 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Myfanwy - mae Adran Fenywod y Blaid wedi dod allan o hyn yn wael iawn. Mae'n iawn i'r adran boeni am ei blaenoriaethau, ond does bosib mae'r flaenoriaeth yw meddwl am yr holl Blaid a Chymru ac nid yn unig un sect o fewn y Blaid.

    O ran cof am Thatcheriaeth etc. Wel, get over it. Mae bellach yn ugain mlynedd yn ol. Fe effethiodd ar bawb ond dyw pawb ddim yn rhygni mlaen am y peth. Wyt ti'n meddwl fyddai'r pyllau glo yno ar agor petai Llafur wedi bod mewn grym? Edryched ar Ffrainc, Yr Eidal a'r Almaen a'r llanast sydd yno nawr am iddynt osgoi gwneud unrhyw benderfyniad am 20 mlynedd. Y Blaid Lafur sydd wedi rheoli'r Cymoed am 80 mlynedd (mwy na 18 y Toriaid) ac arnyn nhw mae'r bai cymaint a'r Toriaid.

    Pwrpas Plaid Cymru yw cael y ddel orau fydd yn hyrwyddo ymdaith Cymru fel cenedl a sicrhau'r Gymraeg. Os oes modd gwneud hynny trwy clymblaid a'r Ceidwadwyr a'r LibDems, iawn. Os oes modd gwneud hynny gyda Llafur, iawn. Ond daeth Llafur a dim at y bwrdd tan 3 wythnos wedi'r lecsiwn a hyd yn oed wedyn does wybod os oedd Rhodri Morgan yn gallu delifro arno.

    Mae'n bryd cael awyr iach yng ngwleidyddiaeth Cymru. Y mwya mae rhai ACau a'r Mudiad Menywod yn son mor wael mae gweithio gyda'r Toriaid yna y mwyaf mae'r peth yn dod yn self-fulfilling prophesy. Y mwyaf mae'r Blaid yn rhygnu mlaen am Thatcheriaeth a defnyddio naratif Llafur, y cryfa fydd Llafur gan ein bod yn bwydo ei naratif nhw. mae angen creu naratif newydd. Petai'r Blaid yn mynd at hyn yn hyderus yna fyddai nifer o bobl yn edrych arno a llygaid agored.

    2007 yw hi nid 1985. Amser tyfu lan. Hyd y gwela i mae ganddom ni ddau ddewis; Plaid Lafur sy'n rhagrithiol yn gweithredu polisiau Ceidwadwyr neu Clymblaid sy'n dweud yn onest, drychwch mae rhai Ceidwadwyr yma a bydd rhai o'i polisiau'n cael eu gweithredu. Well gen i'r opsiwn onest.


  • 10. Am 15:42 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Moniar:

    D Enw, mae'n amlwg nad oeddet ti o gwmpas i weld Thatcheriaeth yn ei hanterth neu bydde ti ddim yn gallu dweud petha fel "get over it" mor rhwydd.

    Dw i wedi siarad efo nifer fawr iawn o gefnowgyr y Blaid ac mae pawb yn unfrydol eu hofn o fynd mewn clymblaid efo'r Toris.

    Camgymeriad erchyll fydd hyn fydd yn dinistrio'r Blaid.

  • 11. Am 17:12 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Na, Monia, dwi'n ddigon hen (yn anffodus)i gofio'r 80au, ac roeddwn i yno!

    Ond gallwn ni ddim cael democratiaeth aeddfed sy'n gaeth i beth ddigwyddodd ugain mlynedd yn ol. mae bwgan y Toriaid yn rhan o strategaeth y Blaid Lafur i rwystro pleidiau eraill i gydweithio. Mae Llafur wedi gwneud sawl camgymeriad mawr hefyd. Doedd Plaid Cymru ddim yn gywir ar bopeth chwaith! Hyd y gwela' i mae'n rhaid i ni fyw yn 2007.

    Dwi'n barod i gydweithio gydag unrhywun blaid dim ond i'r Gymraeg ac hunanlywodraeth gael ei dyrchafu. Dyna sylfaen Plaid Cymru a dyna'r bottom line. Mae'n rhaid cael llywodraeth a gall PC ddim fod yn wrth-blaid am byth neu beth yw pwynt ei bodolaeth.

  • 12. Am 21:08 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Gareth Thomas:

    Er fy mod yn credu buasa clymblaid enfys yn peth iachus i wleidyddiath Cymru, dwi ddim yn gweld o'n digwydd rwan. Mae'r DemRh's am tynnu'n ol heno- efallai fy mod i'n rong ond dwi ddim yn gweld clymblaid Plaid-Tori yn digwydd. Mae'r momentwm am symud yn ol i Lafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.