Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ta Ta Tony

Vaughan Roderick | 15:42, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2007

'Dwi newydd ddod nol o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, a darlith Tony Blair i Siambr Fasnach Caerdydd. Hwn, o bosib, oedd anerchiad olaf Tony Blair fel prif weinidog yng Nghymru, ac roedd digon o ddynion (ac ambell i wraig) busnes yn fodlon talu rhwng £80 a £130 i wrando arno.

Ond roedd ymateb y cyhoedd y tu allan i'r adeilad yn fwy diddorol. Roedd na gyfnod pan oedd Mr Blair yn rhyw fath o seren roc gwleidyddol. Roedd pawb am ysgwyd ei law, pob torf yn ei gymeradwyo a phobol yn gofyn am lofnod neu lun yn ei amgylchynu.

Ac eithrio ambell i ymwelydd o dramor roedd pobol Caerdydd yn gwbl ddi-hid o'r Prif Weinidog heddiw. Cerdded yn yn syth yn ei blaenau wnaeth y rhan fwyaf o bobol ar ol darganfod y rheswm am yr holl blismyn. Roedd y dorf fach wnaeth aros i weld Mr Blair yn gadael ddim yn edmygwyr mawr ohono nac yn ei gasau ychwaith.

Roedd hi bron fel pe bai pobol, gan wybod ei fod ar ei ffordd allan, yn ei ddiystyru'n barod. I wleidydd, go brin bod na unrhywbeth yn fwy poenus na hynny. Fel y dywedodd Enoch Powell "mae gyrfa pob gwleidydd yn diweddu mewn methiant".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:17 ar 11 Ebrill 2007, ysgrifennodd Chanticleer:

    Yn hytrach na chael effaith negyddol ar ymdrech Llafur i ennill yr etholiad (fel ddari'r wrthbleidiau ddarogan), amwn i mai effaith dibwys cafodd ymweliad Tony ar Gymru.

    Ond eto i gyd, dydy hi ddim yn adlewyrchu'n dda ar brif weinidog y wlad pan mae ymateb mor tawel i'w ymweliad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.