Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siop Rithwir Jack Brown- Aberconwy

Vaughan Roderick | 09:41, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Mae'n bryd i ni agor ein siop fwcis. Roeddwn yn bwriadau cychwyn gyda phrisiau etholaeth ynysig yn y gogledd-orllewin. Yn anffodus dwi o hyd yn ceisio darganfod sut mae cael to bach ar type-pad (helpwch fi, bobol). Dyma brisiau Aberconwy yn lle.

Plaid Cymru 6-4
Ceidwadwyr 7-4
Llafur 7-4
Dem. Rhydd. 25-1

Sylw Karl Williams; "Dwi'n meddwl mai Plaid Cymru aiff a hon oherwydd cryfder ei hymgeisydd a ffrae Ysbyty Llandudno. Mae'r newid ffiniau yn hynod o anffafriol i Lafur a does gan Denise fawr o fwyafrif fel mae pethau"

O ystyried y prisiau ar bwy ma'ch fiver chi? Gyda llaw os oes na flogiwr Saesneg yn dymuno ail-gynhyrchu'r prisiau mae croeso i chi wneud. Os oes na ddigon o "fetio" fe fydd Karl yn addasu'r "odds".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:07 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Dwi'n tueddu i gytuno mai PC fydd yn ennill yma - ond go brin bod gobeithion y Toriaid a Llafur o ddod yn ail yn gyfartal. Bydd y Toriaid yn gyfforddus o flaen Llafur.

  • 2. Am 10:37 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Dw'i'n copio a pastio'r to bach oddi wrth

    Diolch! Vaughan

  • 3. Am 13:09 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Sut wyt ti'n cael to bach fel arfer ta? Dwi'n defnyddio '' gan gwmni Draig Technology, mae am ddim i'w lawrlwytho ac yn - ta ta i 'copi & paste', neu 'insert symbol'


    Ynglyn â sylwadau
    Byddwn i'n awgrymu dy fod yn creu sylw newydd dy hun wrth ymateb i sylw rhywun arall, yn hytrach nag editio eu sylw nhw. Efallai byddai eraill yn dweud yn wahanol.

  • 4. Am 13:56 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Diolch Rhys. Mae meddalwedd CPS sy'n cael ei defnyddio ar gyfer popeth ar safle'r Â鶹ԼÅÄ ac eithrio blogs yn cynnig to bach trwy Ctrl h. Yr hyn oeddwn yn ceisio osgoi oedd gorfod sgwennu yn word a wedyn torri a phastio. Dwy'n meddwl fy mod ar y ffordd i ddatrus y broblem.

    Dwy'n derbyn y pwynt am ymateb i negeseuon

  • 5. Am 17:42 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Dyma £10 rhithiol ar Blaid Cymru gennyf fi.

    Roeddwn mewn tÅ· tafarn yn un o bentrefi Seisnicaf yr etholaeth ddoe ac yn synnu faint o gefnogaeth mae'r Blaid yn cael ymysg y mewnfudwyr a'r di Gymraeg.

  • 6. Am 18:21 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Dylan Jones-Evans:

    Diolch am dy ffydd, Vaughan !!
    Cawn ni weld ar y diwrnod, wrth gwrs.

  • 7. Am 19:31 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Nid fi sy'n gwneud yr "odds", Dylan ond Karl Williams gynt o Jack Brown. Ond mae na rith-farchnad yn fan hyn. Fel economegydd fe ddylet ti wybod y gallai'r prisiau newid pe bai ti'n fentro ychydig o rith-bunnau ar dy hun!

  • 8. Am 09:12 ar 14 Ebrill 2007, ysgrifennodd Euron Hughes:

    Dyma dip Euron ar gyfer y "Grand National" heddiw, fel teyrnged i'r pleidiau eraill. Enw'r ceffyl yw...
    "IDLE TALK" :-)

    Euron Hughes
    Dem Rhydd Aberconwy

  • 9. Am 11:29 ar 14 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dwy'n dibynnu arnot ti Euron! Dwy'n rhoi tenner arni.

  • 10. Am 14:19 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Daf:

    Copio a gludo

    â ê î ô û ŵ ŷ

    Â Ê Î Ô Û Ŵ Ŷ
    Defnyddiwch UTF-8 fel y blog 'ma.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.