Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O diar!

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Dwi wrthi'n gwylio "Pawb a'i farn" a newydd glywed y Democrat Rhyddfrydol John Davies yn addo "yn sicr" y byddai ei blaid yn ail-gyflwyno taliadau prescripsiwn. Dwi ddim yn meddwl bod honna yn y Maniffesto, John!

Roedd Rhodri Morgan mewn hwyliau da ar "Dragon's Eye". Roeddwn i'n synnu braidd gan ein bod ni i gyd yn disgwyl y byddai fe mewn tymer da'r Â鶹ԼÅÄ ar ol ein honiadau yn gynharach yn yn yr wythnos. Efallai ei fod yn wir gredu fod Llafur yn gwenud yn dda er cymaint y dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mae e hyd yn oed yn bosib ei fod e'n iawn.

Gyda llaw, wrth restru pwy oedd ar beth fe wnes i anghofio cynnwys y ffaith fod Adam Price ar "Question Time" heno.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:35 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ac roedd yn 'Question Time' ardderchog hefyd ! Roedd Adam yn disgwyl fel ei fod yn mynd i gael 'punch-up' gyda rhyw 'neo-con' haerllug..

    Dw'i ddim yn credu fyddai Rhodri yn gadael 'yr haul i fynd lawr ar ei ddicter'; gall e adael Peter Hain i wneud hynna iddo...

    Ond mae gyda fe bethau newydd i fecso amdano nawr fod y pol diweddara' 'mas.

    'Keep up the good work' - pan na 'wneud di ddechrau 'website' dy hun sy ddim yn cael ei gwato ar y Â鶹ԼÅÄ ? Beth am ffug enw debyg i 'Guido' - rhywbeth fel 'Glyndwr Ffowc' ???!!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.