Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Now is the hour...

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Dwi wedi derbyn cwyn gan etholwraig yn y cymoedd am un o'r triciau etholiad hyna sy na. Daliodd y fenyw hon weithiwr un o'r pleidiau yn symud yn llechwraidd o ddrws i ddrws gan wthio cerdyn trwy bob un yn datgan bod "yr ymgeisydd wedi galw heibio tra oeddech chi allan".

Y meistr ar y tric yma oedd y diweddar Syr Raymond Gower, aelod seneddol y Barri/Bro Morgannwg o 1951 tan ei farwolaeth yn 1989. I fod yn deg roedd Syr Raymond yn mynd o ddrws i ddrws ei hun efo'i gardiau, ond dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un erioed wedi ei glywed yn cnocio.

Roeddwn i'n arbennig o hoff o Sir Raymond, un o'r "hen deips" o Dorïaid a alwyd yn "the knights of the shires" pobol oedd yn well ganddyn nhw swper da na noson yn y siambr. Yr hyn sy'n rhyfeddol am Syr Raymond oedd ei fod wedi defnyddio'r un slogan ym mhob etholiad o 1951 tan 1987 sef "Now is the hour to vote for Gower" ond ei fod hefyd wedi defnyddio'r un llun o'i hun ar bob un daflen a gyhoeddwyd ganddo ar hyd y degawdau. Ar ôl deugain mlynedd o wleidydda a bwyd da roedd hun amhosib ei adnabod o'i lun.

Efallai mai dyna oedd y bwriad!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:30 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    'Oh come along now, Mr Roderick', nid gwleidyddion yw'r unig rhai i dynnu'r stunt fach na...

    Edrychwch ar wefan y 'Guardian' ac mae'n bosib gweld llun o Simon Hoggart sy'n llawer henach na'r un sydd yn a papur. A cafodd pobol y sioc fwyaf pan newido'n nhw llun Alexander Chancellor i un mwy diweddar...

    Felly pan nad oes llun o ti nesag at un Betsan...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.