Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwen Jones

Vaughan Roderick | 16:24, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Dwi newydd glywed am farwolaeth ddisymwth Gwen Jones. "Miss Humphries" oedd Gwen Jones pan oeddwn i yn grwt yn Ysgol Rhydfelen. Hi oedd yr athrawes ffiseg ac roeddwn i yn un o filoedd o blant ar hyd y blynyddoedd i gael eu swyno gan ei brwdfrydedd. Roedd hi'n llwyddo i wneud hyd yn oed y pynciau gwyddonol mwyaf sych yn ddiddorol ac roedd tuedd ei harbrofion i fynd o le yn destun sbort cyson.

Roedd hi hefyd yn un o'r bobol ymroddedig hynny, sy'n bodoli ym mhob plaid, sy'n gwneud i'n system ddemocrataidd weithio. Plaid Cymru oedd ei phlaid hi ac am ddegawdau bu'n canfasio ac yn gweithio ar ei rhan.

Cyfrannodd yn gyson i raglenni "ffonio i mewn" ar y radio gan gyflwyno ei phwyntiau yn effeithiol ac yn urddasol.
Cefais y profiad sawl tro o deimlo fy mod yn grwt ysgol eto ar ôl dweud "Mae Gwen Jones ar y lein..." a chlywed llais "Miss Humphries" yn taranu ynglŷn â rhyw bwynt neu'i gilydd!

Gwelais i hi ddiwethaf ychydig wythnosau yn ôl pan ddigwyddodd gnocio ar fy nrws wrth iddi ganfasio. Roeddwn am roi paned o de iddi ond gwrthododd gan fynnu ei bod yn "brysur yn hel pleidleisiau". Mae'n rhy hwyr nawr, rhy hwyr i ddweud "Diolch am bopeth, Miss Humphries"

Cynhelir yr angladd ddydd Gwener.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:54 ar 16 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Rwy'n flin iawn o glywed hyn, Mr Roderick. Wydden ni ddim dy fod wedi bod yn Ysgol Rhydfelen. Roedd fy 'wncwl yn athro Gwaith Coed yna am nifer o flynyddoedd.

    Mi fydd yn galed i gael athrawon o'r safon hyn eto, gyda diffyg disgyblaeth a phob un sydd yn gadael coleg yn credu mae 'diwedd y gan yw y geiniog', a fod ennill y swm fwya o arian yn llawer mwy pwysig na addysg ein dyfodol, sef ein plant.

  • 2. Am 06:35 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Tom Vale oedd yr athro gwaith coed yn fy nyddiau i. Dyn hyfryd tu fas i'r dosbarth ond yn wir "Sergeant Major" y tu fewn. Dwy'n gallu clywed 'e nawr. "Safwch yn syth...llygaid o'ch blan...."

  • 3. Am 18:32 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Roedd Gwen Jones yn fenyw angerddol oedd barod iawn bob tro ei chymwynas. Bu yn help mawr i mi er mwyn sicrhau fy ngradd A yn Ffiseg TGAU, ac heb ei chymorth hael yn sicr ni ffydaf wedi cael canlyniad mor foddhawol.
    Chwith yw credu fod Gwen Jones wedi marw a gallwn ond diolch am ei bywyd bywiog, llawn hwyl.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.