Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Diwrnod Ceredigion- ffeithiau diddorol a rhyfedd

Vaughan Roderick | 09:38, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Dyma ddeg o ffeithiau am Geredigion. Mae croeso i chi ychwanegu mwy.


1.Tan yn gymharol ddiweddar, coch oedd lliw Ceidwadwyr Ceredigion gyda'r Rhyddfrydwyr yn arddel rhubanau gleision.

2. Mae 'na eliffant wedi ei gladdu y tu allan i'r Talbot yn Nhregaron.

3. Fe ddaeth Cynog Dafis o'r bedwerydd safle i gipio'r sedd i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd yn 1992.

4. Safodd Prif Ohebydd y Western Mail Martin Shipton fel ymgeisydd annibynnol yn is-etholiad Ceredigion yn 2000 gan sicrhau 55 o bleidleisiau.

5. Storiwyd lluniau o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain mewn twnnel y tu ôl i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr ail ryfel byd.

6. Cynhaliwyd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn Chwefror 1963.

7. Mae'r murlun mwyaf trawiadol yng Nghymru ar fur gwasg y Lolfa yn Nhalybont.

8. Codwyd adeilad yr hen goleg yn Aberystwyth fel gwesty gan John Pollard Seddon.

9. Daethpwyd o hyd i chwe miliwn o dabledi LSD gwerth can miliwn o bunnau yn Nhregaron yn 1977.

10. Mae 'na etholaeth o'r enw "Cardigan" yng Nghanada. Mae'n gadarnle i Blaid Ryddfrydol y wlad honno.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:21 ar 21 Ebrill 2007, ysgrifennodd Dafydd:

    Jiw Jiw Vaughan! Dwi'n gwybod dy fod wedi son am 'Cardigan' (sydd yn Canada) ar y diwedd on heb law am hynny mi fyddwn i'n meddwl yn ol dy restr fod Ceredigion yn dechrau rhywle i'r gogledd o Aberaeron!

    11. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberteifi....1176 ;-0

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.