Blog Radio Cymru Feed Mae Blog Radio Cymru yn cynnwys newyddion, gwybodaeth am raglenni, cyflwynwyr a lluniau. 2013-06-03T10:41:37+00:00 Zend_Feed_Writer /blogs/radiocymru <![CDATA[Blog cefn llwyfan olaf Eisteddfod yr Urdd 2013]]> 2013-06-03T10:41:37+00:00 2013-06-03T10:41:37+00:00 /blogs/radiocymru/entries/deedbe60-efd9-31ec-a838-201cdab2c26a Nia Lloyd Jones

Dyma ni wedi cyrraedd y diwrnod olaf, dydd Sadwrn - sef diwrnod yr Aelwydydd a'r cystadleuwyr bellach dan 25 oed.

Ac yn eu canol nhw mae 'na rai sydd yn gwneud i mi deimlo'n hen iawn - gan fy mod i wedi bod yn dilyn eu hanes nhw ers blynyddoedd bellach e.e. Meinir Wyn Roberts, Rhodri Prys Jones a Steffan Rhys Hughes.

Mae Steffan erbyn hyn yn y coleg yng Nghaerdydd ac fe gafodd o dair gwobr gyntaf heddiw! Tybed oedd y te arbennig gafodd o ddoe wedi ei helpu?

Mae'n debyg bod Mrs. Gwen Bowen o Gilrhedyn yn un o ffans selog Steffan ac wedi dilyn ei yrfa ers blynyddoedd. Fe alwodd Steffan draw i'w gweld hi ddoe a chael croeso mawr!

Sôn am fwyd ... roedd Gwyndaf Lewis o Ysgol y Preseli yn llwgu ar ochr y llwyfan am 3.15pm heddiw - a heb gael cinio.  Dw i'n synnu dim, gan ei fod o a'i gyd-ddisgyblion wedi bod mor brysur yr wythnos yma.

Efallai i chi sylwi ar Gwyndaf ar y teledu ddechrau'r wythnos a chraith neu ddwy ar ei wyneb - a hynny oherwydd ei fod wedi bod yn dathlu diwedd ei gyfnod yn yr ysgol nos Wener d’wetha.  Diolch byth, mae'r creithiau wedi clirio a rhwng popeth mae Gwyndaf wedi cael eisteddfod i'w chofio.

Llongyfarchiadau mawr i Gareth Davies ar ennill yr unawd o sioe gerdd heno. Ro’n i'n dechrau poeni y byddai'n rhaid iddo ganu yn ddigyfeiliant gan nad oedd sôn am ei gyfeilydd, Meirion Wyn Jones, gefn llwyfan.

Tra roedd Gareth druan yn aros ar ochr y llwyfan, roedd pawb yn y cefn yn chwilio am Meirion, ond mae'n debyg bod Meirion druan wedi dianc o'r pafiliwn i gael swper ac ar ganol rhoi llond fforc yn ei geg pan ddaeth yr alwad iddo ddychwelyd ar frys!

Er bod Meirion yn cyfeilio'n flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd - profiad bythgofiadwy iddo dwi'n siwr!!

Pan mae'n dod i ganu cerdd dant, dw i'n amau fod 'na rywbeth yn y dŵr yn Llangwm!  Drwy gyfuno lleisiau cyfoethog a gosodiad Rhian Jones fe ddaeth yr Aelwyd i'r brig ar y parti cerdd dant unwaith eto - gan lwyddo i wneud y cyfan edrych yn hawdd iawn.

A hithau'n nesáu at ddiwedd y cystadlu, ac amser gwely, addas iawn felly mai pyjamas oedd testun y sgwrs ges i efo Wyn Davies o Aelwyd Penllys.

Dychmygwch sefyllfa Wyn bore 'ma - codi'n gynnar, chwilio am grys du ar gyfer y côr, ac i ffwrdd a fo i'r eisteddfod.  Ond yn ei frys, wnaeth y creadur ddim sylweddoli mai crys pyjamas ei Dad oedd ganddo yn ei ofal!! Ta waeth - roedd o'n edrych yn smart iawn yng nghanol y gweddill ar y llwyfan!

Ac i gloi, llongyfarchiadau mawr unwaith eto i Aelwyd y Waun Ddyfal ar ennill llu o wobrau heno.  Gan ei bod hi'n gyfnod arholiadau a diwedd tymor, mae'n anodd iawn cael y criw ynghyd, ond dan arweiniad Huw Foulkes, Steffan Watkins a Rhys Griffiths, fe lwyddon nhw i gyrraedd y brig unwaith eto eleni.

A dyna'r cyfan ar ben am flwyddyn arall.  Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio a rhoi lliw i'n darlledu ni ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, a diolch hefyd i griw y maes parcio am lywio'r gweithgareddau mor drefnus - a gyda gwên.

Os byw ac iach mi fyddwn ni nôl flwyddyn nesa yn y Bala. Edrych ymlaen yn barod!

I weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod ewch i wefan yr Urdd

I ddarllen am holl straeon yr wythnos ar y maes ewch i wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru

<![CDATA[Blog cefn llwyfan Nia - dydd Gwener]]> 2013-05-31T18:01:51+00:00 2013-05-31T18:01:51+00:00 /blogs/radiocymru/entries/1d7b6b50-29d3-33ff-9784-f7608a061b2b Nia Lloyd Jones

"Eith Mam yn nyts efo fi!"

Dyna un o frawddegau cynta'r dydd heddiw - a hynny o enau Sophie Angharad Rudge - oherwydd nad oedd hi wedi brwsio ei gwallt cyn mynd ar y llwyfan i ganu!

Yn cystadlu hefyd roedd Sioned Llywelyn ac  Alaw Lloyd Pugh - ateb Eisteddfod yr Urdd i Imelda Marcos gan fod ganddi hi a'i chwiorydd gasgliad enfawr o esgidiau!

Carys, Elen, Gwen a Sian enillodd y gystadleuaeth i ddeuawd/triawd neu bedwarawd cerdd dant yn canu 'Mae cynghanedd yn lysh' gan Caryl Parry Jones a'r bedair wedi gwneud eu gwallt yn flêr ac wedi peintio ar y tei ysgol!!

Ac wedyn fe gawson ni dipyn bach o Michael Jackson ar y llwyfan - wrth i Carwyn Jones ac Owain Huw gystadlu ar y ddeuawd offerynnol - a'r ddau yn chwarae'r cello.

Mae Owain yn aelod o'r band Bromas hefyd - ac yn edrych ymlaen at y gig yn Hermon nos Sadwrn. Os na welsoch chi'r perfformiad yma - mae'n werth mynd i chwilio amdano. Dyma un o fy hoff eitemau i yr wythnos yma yn sicr.

Mae llawer o'r cystadleuwyr heddiw yng nghanol eu harholiadau Lefel A - ac ambell un fel Kate Harwood wedi bod yn adolygu yn y gwesty neithiwr!

Roedd Kate yn cystadlu ar yr unawd merched ynghyd a Siwan Henderson a Sioned Mair Rees, a'r dair rwan yn edrych ymlaen at gael haf hir hapus di-lyfr!

Sian Elin,

Taswn i yn cael rhoi gwobr i'r siaradwraig orau heddiw - Sian Elin fyddai'n ennill. Doedd 'na ddim stop arni!

Roedd hi ar y llwyfan yn cystadlu fel aelod o Gôr Cerdd Dant Ysgol Bro Pedr heddiw a hynny ar ôl bod yn sgwrsio hefo Carwyn Jones, y Prif Weinidog, gan ei bod hi'n aelod o Fforwm yr Urdd.

P'nawn ma wedyn roedd hi'n cystadlu eto - y tro yma yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus!

Roedd wyneb Sion Eilir Roberts yn bictiwr pan ddaeth o oddi ar y llwyfan - ar ôl cystadlu ar yr unawd bechgyn gyda Robert Lewis a Steffan Lloyd Owen.

Sion Eilir Roberts (canol) gyda Robert Lewis a Steffan Lloyd Owen

Roedd o'n cyfaddef ei fod yn swp sâl cyn cystadlu ond yn sicr roedd hi'n werth yr ymdrech a llongyfarchiadau mawr iddo ar ddod yn drydydd, gyda Steffan yn ail a Robert yn gyntaf.

Roedd Carwyn Jones yn ôl ar y llwyfan eto p'nawn ma - na, nid y Prif Weinidog, ond yr offerynwr dawnus iawn o Ysgol Uwchradd Ystalyfera.

Canu'r 'cello mae Carwyn a phan welais i o ddechrau'r wythnos roedd o mewn dipyn o bicil gan fod ei gyfeilydd yn methu dod i'r Eisteddfod.  Ond diolch byth, fe lanwyd y bwlch, ac fe enillodd Carwyn y wobr gyntaf - yr ail un heddiw!

Mi allen ni yn hawdd fod wedi newid enw'r orsaf heddiw i Radio Preseli - gan fod Ysgol y Preseli - yr ysgol leol -nôl a mlaen ar y llwyfan bob yn ail gystadleuaeth bron!

Mae'n debyg bod disgyblion yr ysgol yn cystadlu mewn 44 o gystadlaethau eleni, ac wedi cael llwyddiannau lu! Felly Mr Prifathro - siawns nad ydyn nhw a'u athrawon yn haeddu wythnos ychwanegol o wyliau yr wythnos nesa?!

I weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod ewch i wefan yr Urdd

I ddarllen am straeon y dydd ar y maes ewch i wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru

<![CDATA[Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mercher]]> 2013-05-29T16:11:26+00:00 2013-05-29T16:11:26+00:00 /blogs/radiocymru/entries/8037895c-a3e8-3dd9-8a45-d91622d32b8e Nia Lloyd Jones

'Dach chi erioed wedi gweld Tazgaliwn? Cyfuniad o Tarzan a Rapsgaliwn ydy o ac mi roedd 'na un ar y llwyfan bore ma - yn rhan o gân actol Ysgol Panteg.

George o Ysgol Panteg fel Tazgaliwn

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ysgol gystadlu a dim ond blynyddoedd meithrin, 1 a 2, sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, felly roedd pawb ar y llwyfan yn 5, 6 neu 7 oed.

George oedd y Tazgaliwn dan sylw heddiw, er gwaetha'r ffaith ei fod o wedi colli dant ddoe, a doedd bod ar y llwyfan ddim yn brofiad brawychus o gwbl iddo - gan ei fod o wedi bod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol nôl yn 2010 yng Nglyn Ebwy fel rhan o'r pasiant meithrin - hen stejar go iawn!

Mae gan Math Roberts draed maint naw ac oherwydd hynny fe ddewisodd o ganu'r delyn yn ei sanau - rhag ofn i'w esgidiau achosi trafferth hefo pedalau'r delyn!

Côr Adran y Neuadd Fach

Nest Jenkins enillodd y gystadleuaeth unawd telyn heddiw - a dyma chi delynores ddawnus a phrofiadol iawn, ac wedi teithio llynedd i Bangkok i berfformio mewn Gwyl Delynau yno.

Tra roeddwn i ar ganol sgwrs p'nawn ma fe ddaeth na waedd fawr o gefn llwyfan wrth i Gôr Adran y Neuadd Fach glywed eu bod wedi ennill y gystadleuaeth i'r Côr Adran, a hynny er gwaetha'r ffaith bod Lowri - un aelod o'r côr wedi colli ei esgidiau du rhywle ar y maes yma, ac o ganlyniad yn gorfod perfformio yn ei sanau.  Dach chi'n gweld bod gen i thema sanau yn datblygu heddiw?!

Mae Tom Felix-Rowlands yn ddawnsiwr talentog iawn ac yn dipyn o arbenigwr ar 'redeg rhydd' hefyd - sef rhyw fath o gymnasteg sydd yn cynnwys elfen o redeg i fyny waliau hefyd!

Ac i gloi'r dydd, fe ges i air hefo ymgomwyr Ysgol Gyfun Garth Olwg - sef Harri, Georgia, Elan a Tomos.  Mae Tomos yn wyneb cyfarwydd i lawer gan mai fo ydy Ricky ar Pobl y Cwm, ac yn ôl y tri arall mae cerdded o gwmpas y maes hefo fo yn broses araf iawn oherwydd bod pawb eisiau cwrdd â Ricky!

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod arall prysur o gystadlu, ac i gadw ar y thema traed - dw i'n dawel hyderus na fydd fy nhraed i yn y wellingtons fory.

I weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod ewch i wefan yr Urdd

I ddarllen am straeon y dydd ar y maes ewch i wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru

<![CDATA[Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mawrth]]> 2013-05-28T16:14:13+00:00 2013-05-28T16:14:13+00:00 /blogs/radiocymru/entries/17f8a457-cc46-392f-a92e-9c6c3acc1b0a Nia Lloyd Jones

Disgbylion hynaf yr ysgolion cynradd oedd yn cystadlu heddiw, ac os oeddech chi'n chwilio am siaradwyr da - wel cefn llwyfan oedd y lle i fod yn sicr.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Bontnewydd ar ennill cystadleuaeth gynta'r dydd - cerddorfa / band blwyddyn 6 ac iau.

Mae hi wedi bod yn fis llewyrchus iawn iddyn nhw gan eu bod nhw hefyd wedi dod yn Bencampwyr Prydain yn ddiweddar, a'u diolch yn fawr i'w athro, Dylan Williams.

Eddie Mead

Eddie Mead oedd un o'r sêr heddiw - yn ennill ar yr unawd pres hefo'i gorned, a'r unawd llinynnol hefo'r 'cello.

Ym mis Medi fe fydd o yn mynd i astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin.  Mae o'n ymarfer y ddau offeryn am o leiaf awr y dydd a phan fydd ganddo amser i ymlacio mae o'n hoff iawn o wylio ffilmiau James Bond.

Hogan brysur iawn ydy Elizabeth Mwale oedd yn cystadlu ar yr unawd blwyddyn 5 a 6. Mae'r teulu yn dod yn wreiddiol o Zimbabwe, er bod Elizabeth wedi cael ei magu yng Nghymru. Yn ogystal â chanu'n unigol, mae hi a'i ffrindiau wedi ffurfio grwp pop hefyd sef Paradwys, a'r gobaith ydy y byddan nhw yn cystadlu yn yr Eisteddfod cyn hir.

Elizabeth Mwale

Testun cystadleuaeth y grwp cerddoriaeth greadigol bl.6 ac iau oedd môr ladron, ac fe gawson ni amrywiaeth o offerynnau ar y llwyfan 'na heddiw - o botyn siytni mango, bongos, drwm olew 50 galwyn a theclyn rhyfedd iawn o'r enw 'boom wacker'!

Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Ysgol Gynradd y Fenni - y criw lleol go iawn!  Maen nhw wedi mwynhau'r holl baratoadau ar gyfer yr Eisteddfod eleni, ac yn edrych ymlaen yn arw at y sioe yn y pafiliwn heno sef 'Pentigili'.  Mi gawson ni drafodaeth dda ynglyn a'r manteision o gael yr wyl yn lleol - a'r prif rai oedd cael aros yn eich gwely eich hun, a pheidio gorfod codi am 3.30am i deithio i'r Eisteddfod!!

Un peth dw i wedi ei ddysgu heddiw ydy nad ydy Siôn Dafydd Edwards yn licio ogla' moch!  Roedd Siôn yn cystadlu ar yr unawd cerdd dant heddiw - hefo Michael Pritchard a Deio Llyr Davies Hughes, ac mae'n debyg ei fod o yn aros mewn sgubor - rhywle yn yr ardal.  Yr unig gwyn oedd ganddo - oedd yr ogla moch yno!

Ysgol Gynradd y Fenni

I gloi'r cyfan  - mi ges i sgwrs hefo Côr Cerdd Dant Ysgol y Dderwen - oedd yn griw hynod o fywiog a siaradus!!

Roedden nhw dan yr argraff eich bod chi'n siwr o ennill os oeddech chi'n canu'n drydydd ar y llwyfan! Dw i ddim yn meddwl bod hyn yn gweithio bob tro, ac yn anffodus doedd o ddim yn wir heddiw, ond diolch o galon iddyn nhw am fod mor barod i sgwrsio gefn llwyfan!

Mi fydda i nôl eto bore fory!

<![CDATA[Blog cefn llwyfan Nia - dydd Llun]]> 2013-05-27T17:07:28+00:00 2013-05-27T17:07:28+00:00 /blogs/radiocymru/entries/54502496-3bb8-3f64-b6a5-c72d33fd10ab Nia Lloyd Jones

Wel dyma ni unwaith eto!

Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio a finna'n edrych ymlaen i gwrdd â channoedd o gystadleuwyr gefn llwyfan, ac yn sicr ches i mo fy siomi heddiw.

Dw i bob amser yn edrych ymlaen at ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd, gan mai diwrnod y cystadleuwyr ifanc iawn ydy hi. Ac o gofio bod llwyfan yr wyl mor anferth - mae angen llongyfarch bob un wnaeth fod yn ddigon dewr i gamu mlaen i berfformio arno heddiw.

Un o gystadlaethau cynta'r bore oedd y llefaru unigol bl.2 ac iau i ddysgwyr, a'r enillydd heddiw oedd Priyaan Shanmughanathan. Mi gododd Priyaan am bump o'r gloch bore ma ac mae'n wyrth ei fod ar y llwyfan gan ei fod o wedi mynd ar goll yng Nghaerfyrddin, a dim ond cael a chael oedd hi iddo gyrraedd y rhagbrawf!

Cystadleuaeth dda iawn heddiw oedd yr Ensemble Offerynnol bl.6 ac iau ac fe gafodd yr enillwyr ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Ismay, Eirlys a Dafydd ddaeth i'r brig - o Gaerdydd - ac mae pob un ohonyn nhw yn unawdydd talentog iawn - ac wedi cyrraedd safon Gradd 8 yn barod!

Mae'r wobr am godi'n gynnar yn mynd i barti Machlud o Ysgol Gynradd Bro Aled, Cylch Conwy - gan fod rhai ohonyn nhw wedi deffro am 3.30am bore ma! Oedd o werth y fath ymdrech? Wel oedd siwr - gan mai nhw enillodd y gystadleuaeth i'r parti unsain bl.6 ac iau.

Mi faswn i yn licio medru chwarae piano go iawn - nid rhyw botsian hefo unrhywbeth sydd heb sharp na fflat, ac mi roedd hi'n werth gwrando ar y unawd piano dan 12 oed heddiw. Yr enillydd oedd Charlotte o gylch Llantrisant. Saith oed ydy hi, a doedd ei thraed hi prin yn cyrraedd y pedalau, ond ta waeth am bethau felly - roedd hi'n llawn haeddu'r wobr gyntaf.

Llongyfarchiadau mawr i Lois Eifion ar ennill y Fedal Gyfansoddi, ac ar ddod yn ail yn yr un gystadlaeuaeth hefyd. Mae Lois yn eisteddfodwraig o'i phen i'w chorun, ac wedi cael sawl llwyddiant ar hyd y blynyddoedd, ond yn sicr roedd ennill y fedal heddiw yn goron ar y cyfan ... hyd yma.
Y dilledyn mwyaf lliwgar yn y pafiliwn heddiw oedd trowsus Simon Morris - arweinydd parti recorder Ysgol Gynradd Spittal.  Mae Simon yn hoff iawn o liw - ac yn y gorffennol mae o wedi newid lliw ei wallt yn ystod wythnos yr Eisteddfod - ar ôl gaddo gwneud hynny os byddai'r plant yn cael llwyddiant.  Felly tybed be fydd lliw ei wallt o erbyn diwedd yr wythnos?!

Simon Morris a Nia Lloyd Jones

Un ysgol dwi wrth fy modd yn sgwrsio hefo nhw bob blwyddyn ydy Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi wariars go iawn!  Maen nhw nôl yn cystadlu eto fory - felly gwely cynnar i bawb heno ...i fod.... er dwi'n amau y bydd rhain yn janglo tan o leiaf hanner nos!

A dyna'r janglo wedi dod i ben am heddiw - felly mwy o gefn llwyfan fory.