Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 18fed o Hydref 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Daniel Glyn - Hoff Gadair Rhyd

gwirion - silly
dibwys - unimportant
enwog - famous
gwestai - guest
hoff gadair - favourite chair
awyren - aeroplane
wastad yn bleser - always a pleasure
pwyso mewn - to press into
dw i'n llenwi - I become tearful

Mae Daniel Glyn yn gofyn cwestiwn gwrion a dibwys i berson enwog bob wythnos.

Yr actor Rhys Ifans oedd ei westai bore Sadwrn, a'r cwestiwn gafodd Rhys oedd - beth oedd ei hoff gadair?

Awr werin Lisa Gwilym - Gwen Màiri

telynores werin - folk harpist
Albanwr - Scotsman
y delyn - the harp
hen dad-cu - great grandfather
cerddoriaeth werin - folk music

Yr actor Rhys Ifans oedd hwnna'n disgrifio ei hoff gadair ar raglen Daniel Glyn.

Cafodd y delynores werin, Gwen Màiri ei geni a'i magu yn yr Alban ond Cymraeg oedd iaith y teulu.

Gofynnodd Lisa Gwilym iddi hi sut dechreuodd ei diddordeb yn y delyn.

 

Cofio - Syragul Islam

newydd ryddhau albwm - has just released an album
cynulleidfa - audience
i wneud fy nyletswydd - to do my duty
mynychu - attending
wynebu rhagfarn, sarhad - facing prejudice, insults
dach chi ddim yn Brydeinig - you're not British
yn syn - surprised
sefais i TGAU - I sat the GCSE
er gwaetha pawb a phopeth - in spite of everyone and everything

Mae Gwen Màiri newydd ryddhau albym o'r enw Mentra.

Pobol sydd wedi dysgu Cymraeg oedd pwnc Cofio gyda John Hardy ac yn y clip nesa 'ma mae Guto Harri yn siarad gyda Syragul Islam, sy'n dod o Bangladesh yn wreiddiol ond sydd yn rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn.

Dyma fe'n sôn am ei hanes yn dysgu Cymraeg wrth Guto ac o flaen cynulleidfa.

Yr Hanner Call - Shelley Rees

ymroddiad - commitment
acenion - accents
araith - speech
clyweliaid - audition
menywod - women
cyfarwyddwraig - female director
mor falch - so pleased
llwyth - loads
y wyddor ffonetig - the phonetic alphabet
her - a challenge

Syragul Islam yn dangos sut mae gwaith caled ac ymroddiad yn helpu i rywun ddod yn siaradwr rhugl.

Ar y rhaglen Yr Hanner Call clywon ni'r actores o'r Rhondda, Shelley Rees yn sôn am ei hacen Gymraeg a'I swydd fel actores.

Dyma hi'n sgwrsio gyda Hedddyr Gregory.

Galwad Cynnar - Gwyfyn arbennig

naturiaethwr - naturalist
gwyfyn arbennig - a special moth
ail-ddarganfod - rediscovered
a dybiwyd - was assumed
heb ei debyg - beyond compare
lled ei adenydd - breadth of his wings
wedi diflannu - had disappeared
newid hinsawdd - climate change
ymchwil - research
yn brin iawn - very rare

Braf gweld bod acen hyfryd y Rhondda wedi bod o help i Shelley Rees yn ei gwaith fel actores.

Mae llawer iawn o newyddion drwg am yr amgylchedd y dyddiau hyn on'd oes 'na, felly roedd hi'n braf clywed stori bositif ar Galwad Cynnar.

Dyma'r naturiaethwr Daniel Jenkins Jones yn sôn am un gwyfyn arbennig sydd wedi dod yn ôl i Gymru.


Rhaglen Aled Hughes - Uruguay

oni bai am - apart from
anthem genedlaethol - national anthem
yr hiraf yn y byd - the longest in the world
pennill - stanza
cais - a try
yn hytrach - rather than
ffynhonell adnewyddol - renewable source
swyddogol - official
elusennau - charities
parch - respect

Hanes gwyfyn arbennig iawn yn fan'na ar Galwad Cynnar.

Wel, mae Cymru drwodd i'r wyth ola' yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ond i wneud yn siwr o'u lle roedd rhaid curo Uruguay.

Felly, fel mae wedi ei wneud cyn bob un o gêmau Cymru, roedd Rhys ap William wedi bod yn casglu ffeithiau am Uruguay.

Dw i'n siwr cawn ni ffeithiau diddorol am Ffrainc wythnos nesa'.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau Cymru - Rowndiau Rhagbrofol yr Ewros

Nesaf