Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Awst 2012

Medlo!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:04, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

Eisteddfodau Cenedlaethol, Llandeilo, Cwm Rhymni, Cricceth, Rhydaman, Y Bala, Aberafan, Y Rhyl. Be' 'di'r cysylltiad? Cliw? Bro Morgannwg. Ateb? Fe ataliwyd y Fedal Ryddiaeth ymhob un o'r Eistedfodau yna. Neu ac ategu geiriau'r Archdderwydd fe ellid dweud mai dim ond 7 gwaith mewn tri chwarter canrif ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1937, yr ataliwyd y wobr.

Mae'n bwysicach gwarchod safonau na chynal defod meddai'r Archdderwydd,
ac fe fyddai pawb yn cytuno. Ond, ac arall eirio Peilat 'Beth yw safon? Tydi safonau pawb ddim yr un fath. Tri o feirniaid uchel eu parch benderfynodd nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth ddoe. Ond, mae 'na bosibilrwydd, petai tri beirniad arall wedi edrych ar yr un deunydd- y byddai teilyngdod.

Beth yw safon? Ac onid ydi hi'n wir fod na nofelau, a straeon byrion, awdlau, a phryddestau wedi cael eu gwobrwyo gan feirniad uchel eu parch, a ninnau, ar ôl eu darllen yn y cyfansoddiadau, neu eu prynnu ar ôl eu cyhoeddi, wedi gofyn, a oedda nhw'n deilwng o un o brif wobrau'r Eisteddfod.

Be' 'di safon? Wel, gan fy mod i'n awdurdod ar fwyd Indiaidd ( neu Bangladeshi i fod yn fanwl gywir) wedi ei fwyta'n rheolaidd ers dyddiau coleg, mi fedrai ddeud, heb flewyn ar fy nhafod, na darn o bopadom rhwng fy nanadd fod y bwyd Indiaidd ar faes y 'steddfod yn hynod o safonol, a blasus. Triwch y cyri kwrma, efo baji nionyn, ychydig o jytni a bara Nan. Mmmm! Pryd o fwyd sydd yn haeddu medal!

Tîm GB yn yr EG

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:25, Dydd Mercher, 8 Awst 2012

Sylwadau (0)

Ddoe ar y llwyfan fe grewyd hanes. Am y tro cyntaf erioed fe gyflwynwyd Tîm G.B. i'r gynuilleidfa, ac fe anrhydeddwyd yr aelod mwyaf blaenllaw o'r tîm hwnnw efo meda.

Meistr y ddefod oedd R. Alun Evans. Gŵr sy'n feistr ar bob defod mae o'n ei chyflwyno yn feistrolgar, llyfn, a llawn dychymyg. Fe gyfeiriodd at tîm GB cyn dechrau'r seremoni gan awgrymmu nad oedd rhaid i ni droi ein golygon i gyfeiriad Llundain er mwyn gweld ymdrech yn cael ei wobrwyo.

"Ar y llwyfan heddiw" medda fo " mae na unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn ei hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc ac mae hi yn GB, Great Britton" Cyfeirio roedd Alun ar Eirlys Britton anrhydeddwyd gyda medal Syr T.H.Parry Williams, am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd yn enwedig ym myd dawnsio gwerin.

Hi oedd un o brif sylfanwyr Dawnswyr Nantgarw, neu tim GB fel byddan nhw'n cael eu galw o hyn ymlaen, ac fe ddaeth y dawnswyr i'r llwyfan i gyfarch Eirlys. Moment i'w thrysori , mewn seremoni gofiadwy.

Gobeithio y cawn ni ddeud yr un peth ar ol y seremoni'r prynhawn yma, Seremoni'r Fedal Ryddiaeth. Fe ges i gyfle i gael golwg ar y fedal, ac un hardd ydi hi hefyd. Ar un ochor maen na lun merch ifanc yn cyrychioli'r awen, ac ar yr ochor arall, teitlau rhai o gyfryfolau pwysica'r iaith Gymraeg, Y Beibl, y Mabinogi, Llyfr y Tri Aderyn, Y Bardd Cwsg, a Rhys Lewis.

Sy'n ein harwain ni'n daclus at Daniel Owen, a chyfle i longyfarch Robat Gruffudd gwasg y Lolfa ar ei lwyddiant ddoe yn enill gwobr goffa Daniel Owen. Gyda llaw, mae na dipyn o son wedi bod o'r llwyfan, a sylw wedi cael ei roi i'r cwmniausy'n noddi'r gwahanol gystadleuthau,ond does na ddim gwirionedd yn y si fod Cwmni Costa, yn mynd i noddi'r Daniel Owen y flwyddyn nesa os wnaiff y Steddfod newid enw'r gystadleuaeth i "Gwobr Goffi Daniel Owen".

Hunlle Eisteddfodol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:41, Dydd Mawrth, 7 Awst 2012

Sylwadau (0)

Neithiwr ar ôl bod yn gwylio cyfuniad o gystadleuthau eisteddfodol ar raglen y Â鶹ԼÅÄ, O'r Maes, a'r Mabolgampau, O'r Stadium. Yn y freuddwyd 'roeddwn i yn y Stadium Olympaidd yn eistedd wrth ochor y bardd T. Rowland Hughes (oedd hefyd ar un adeg yn gynhyrchydd radio). Roedd y stadium yn wag. Dim ond y fo, mewn trac siwt binc, a fi, a'r cystadleuwyr oedd ynno.

'Be 'da chi'n 'neud yn famma?' medda fi

'O' medda fo 'Wedi dwad yma am dipyn o ysbrydoliaeth. Wedi meddwl sgwennu cerdd am ras rhwng Sammy Rhos Banc, a Ned Ty Glas.'

'Da chi'n cael hwyl, arni hi?'

'Wel' medda fo, mae'r linell gynta yn 'i lle 'Dau yn unig oedd yn y ras'

Ar hynny dyma swn fanffer yn llenw'r lle. A gwr ifanc yn camu ar y podium ac yn cael ei arwisgo efo'r fedal aur, neb llai na Dai Green.

'Mr Hughes' medda fi, gan droi at Rowland oedd yn dal i 'sgwennu, 'Sut ma'r Cymro wedi cal medal aur am redeg y ras pedwar can medr dros y clwydi?'

'Wel' meddai Rowland 'mae'n amlwg tydi DAI YN UNIG OEDD YN Y RAS'

Fel y gwynt ac yn gynta'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:18, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Sylwadau (0)

Oherwydd mod i wedi enill ras ŵy a llwy ym Mabolgampau Ysgol British Llangefni ym 1949, roeddwn i'n ddigon haerllug i gredu y gallwn i leisio fy marn am Usain Bolt. A dyna pam y gwnes i drydar neithiwr y byddai'r disgybl, Yohan Blake, yn trechu'r Meistr. O chwi o ychydig ffydd!

Mewn llai o amser (9.63 eiliad) na gymerodd hi i mi drydar na fyddai'r daranfollt o Jamaica yn ennill y ras - 'roedd o wedi gwneud! Coroner Bolt yn ben, a pheidied neb a gofyn i mi ar y Maes heddiw broffwydo a fydd na goroni a'i peidio. Dwi ddim yn gwybod, ac yn bwysicach, dwi ddim eisiau gwybod, nac yn cael gwybod nes bydd yr Archdderwydd yn cyhoeddi ffug-enw.

Ar y llaw arall mi fedrai ddeud wrthach chi beth ddigwyddodd ym 1968 pan oedd yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg diwetha'. 'Roedd na deilyngdod - yn dilyn shambls! Roedd Waldo o blaid coroni Haydn Lewis, Tomos Parry am roi'r goron ar ben Huw Llywelyn Williams ac Euros Bowen am roi'r wobr i Dafydd Rowlands.

Felly beth ddigwyddodd? Wel, ymhell cyn dyddiau Chris Tarrant a "Who Wants to be a crowned bard" - fe ffoniwyd ffrind, sef Alun Llywelyn-Williams, ac fe gytunodd o efo Waldo.

'Ew' medda chi' efallai na tydi Gwynfryn dim yn gwybod unrhywbeth am athletau, ond mae o'n wybodus iawn am hanes yr Eisteddfod.' Nac ydw wir. Dwi'n ffan mawr o'r safle Canrif o Brifwyl, lle mae gwybodaeth am Eisteddfodau'r gorffennol wedi ei hel a'i ddidoli gan yr Olympian llenyddol - Alan Llwyd.

Fodd bynnag os da chi am wybodaeth am y cystadlu heddiw, ac am weld seremoni'r coroni prynhawn ma (gobeithio!) ewch i'n safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.

Pytiau Eisteddfodol Sul

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:32, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Sylwadau (0)

Mewn yn gynnar erbyn tua 7 30. Glyn EvansÌý(gweler ei flog dyddiol ar bbc.co.uk/eisteddfod), i fewn eisoes. Wyddwn i ddim nes i mi ddarllen y blog, mai ystyr Llandw ydi Llan-Duw. Diolch Glyn. Ond tydio ddim yn olrhain tarddiad Llandough.

Felly gadewch i mi eich goleuo chi. Pentre bychan iawn oedd Llandough ers talwm, lle roedd pobol yn byw bywyd hamddenol. Byth yn brysio i unman. Pawb yn cerdded yn ‘dough, dough.’

Hywel yn gweithio'n galed yn yr Eisteddfod!

Hywel yn gweithio'n galed yn yr Eisteddfod!

’Rol a chig moch ym mwyty Bethan am 8. 9.30, dechrau paratoi i sŵn canu emynau o’r pafiliwn - oedfa’r Eisteddfod dan arweiniad y Parchedig Kevin Davies.

Yr emyn oedd - Bydd yn ŵrol paid a llithro - cyngor i unrhyw un sy’n ceisio ochorgamu pyllau mwd sydd yma ac acw ar y maes. Ond fe ddaeth y Nefol wynt, a’r haul cynnes i sychu’r mwd sychu’r maes. Falle fod Kevin Davies wedi gael gair bach tawel efo Rhywun.

Thema’r oedfa oedd ‘Cario’r Fflam’ a neithiwr roedd Mo Farrar yn y stadium Olympaidd yn rhedeg ac yn ennill y ras 10,000 medr. Sgwn i be’ fasa thema ei bregeth o i redwyr ifanc y dyfodol. Geiriau Paul, ella?:
‘Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a redais yr yrfa, mi a gedwais y ffydd.’

Gyda llaw, hoffais y pennawd uwchben llun o’r rhedwr yn y papur bore ‘ma, a fynta yn hedfan o amgylch y trac am y tro ola. Dau air yn unig - FLY MO!

Ar fy ffordd i’r stiwdio ar gyfer tair awr o ddarlledu fe ddaeth rhywun ataf a chynnig bisced i mi efo darn tena o gaws llwydaidd yr olwg, a thaflen gyda holl hanes Cymdeithas i’r rhai hynny sydd am fyw bywyd y figan. Wel, pawb at y peth y bo, ond ar ol bwyta’r caws - figan ddim diddordeb. A beth bynnag roeddwn i newydd gladdu rol cig eidion.


P'nawn ma fe fydd Rhiannon a finnau yn eich cwmni chi yn cael mwynhau mwy o sŵn y bandiau pres, sain y corau, yr unawdwyr dan 12, y llefarwyr unigol a’r grwpiau offerynol ar Radio Cymru, a chofiwch fod na lif cyson o gystadlu a gwybodaeth ar ein safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.

Hywel Gwynfryn yn cyrraedd yr Eisteddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:46, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Sylwadau (0)

Ar y maes yn gynnar, bore dydd Gwener tua hanner awr wedi saith a chael cwmni Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Dylan Jones ar ei ffordd I'r cae. Dangos fy nhocyn yn y brif fynedfa. Y dyn ddim yn hapus. "Ond mae o'n deud dydd Sadwrn arno fo" 'Ydi" medda'r dyn "Ond nid dydd Sadwrn yma-dydd Sadwrn nesa!" Wrth lwc y Penbandit tocynyddol ydi brawd Meical Pofi, aelod anrhydeddus iawn o'r clwb cyri, ynghyd ac Alwyn Humphreys, Rhisart Arwel, Geraint Jones a finnau, felly er nad oedd tocyn gŵr y Tikka, yn iawn, fe ges i faddeuant a mewn â mi.

Y tîm yn cyfarfod am 10.30. Rhiannon Lewis, Nia Lloyd Jones a Stifyn Parri. Mae Stifyn wedi bygwth cerdded o gwmpas y maes mewn pâr o drôns nofio gan ei fod o wedi gwirioni ar y nofio yn y Mabolgampau Olympaidd! Fe fydd y blog yma yn eich rhybuddio lle bydd Stifyn yn ei Speedos, er mwyn i chi fedru osgoi yr ardal honno . Rhiannon wedi cael persawr newydd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, naill ai Tregaron Nights neu Silian Sensation - 'doedd hi ddim yn cofio. P'nawn o wrando ar y bandiau a'r corau. Un band yn cael ei arwain gan gyfrifydd - addas iawn gan mai band pres oedd o.

Cyfrol Eisteddfodol wedi dwad i law- cyfrol o farddoniaeth, Cyril Jones - Eco'r Gweld. Mae o'n brifardd coronog ac yn un o feirniaid y Goron eleni. Yn addas iawn, gan ein bod ni ym Morgannwg, mae o wedi cynnwys nifer o dribannau - un i Shane Williams sy'n cael ei urddo i'r Orsedd:

SHANE

I'r chwith, I'r dde, mae'n gwibio

Fan hyn, fan draw, mae'n ffugio

Ond Aman bach a fydd yn ben

A'r linell wen o dano.

Cofiwch os yda chi am wylio'r holl berfformiadau o'r eisteddfod ewch i bbc.co.uk/eisteddfod

Yn Y Fro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:05, Dydd Mercher, 1 Awst 2012

Sylwadau (0)

Cymdogaeth fwyn i'ch swyno,
Â'i dirfawr hud ydyw'r Fro.

Son y mae Islwyn Jones, yn ei gywydd Croeso, am Fro Morgannwg wrth gwrs, cartre'r Eisteddfod eleni, ac fe fydda i yn mynd â chi o amgylch y fro i gyfarfod rhai o bobol yr ardal, am un o'r gloch bnawn Gwener, mewn rhaglen arbennig sy'n dwyn y teitl Yn Y Fro ar Radio Cymru.

Y tro olaf i'r eisteddfod ymweld â'r ardal oedd ym 1968, pan gefais i y fraint o holi mwnci!

A chyn i chi ddeud 'Mae'n siwr fod yr atebion yn gwneud mwy o synnwyr na'r cwestiynau,' alla i eich sicrhau chi mod i'n gwybod bron cymaint â fo am y gynghanedd.

Eleni eto fe fydda i a Rhiannon Lewis yn gwylio'r cystadlu, Nia Lloyd Jones yng nghefn y pafiliwn yn holi'r cystadleuwyr, a Stifyn Parri yn crwydro'r maes yn busnesu ym mywydau'r eisteddfodwyr.

Fe fydd y cyfan i'w glywed ar Radio Cymru, a chofiwch os oes raid i chi adael y tÅ·- mi fyddwn ni'n disgwyl amdanoch chi yn y car.

Os fedrwch chi ymuno â ni ar y Maes, wel, gorau oll, ond os mai mewn cadair esmwyth adre, y byddwch chi, yna trwy gyfrwng y cyfrwng, fe fydd Radio Cymru yn gwmni i chi, yn 'hudolus wlad Iolo'.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.