Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tail Ar 'Sgidia'r City Slicker

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:52, Dydd Gwener, 20 Gorffennaf 2012

'Dwi 'di cael fy ngalw'n bob math o enwau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys 'city slicker'. Cyfeiriad at y ffaith fy mod i wedi cael fy ngeni mewn tref (Llangefn) ac wedi treulio y rhan fwyaf o fy mywyd mewn dinas (Caerdydd).

Meical Pofi, a boerodd y disgrifiad i'm cyfeiriad, rhywybryd yn y saithdegau pan oeddem ni'n mwynhau dadl gyfeillgar ar y testun - Ydi bywyd y wlad yn well na bywyd y dref. Er fod Meic, fel hogyn o gefn gwlad Cymru yn amddiffyn y bywyd gwledig, wrth gwrs, ac yn dweud yn glir ac yn groyw, nad oedd dinas barhaus iddo yng Nghaerdydd, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae o 'yma o hyd' yn Lywydd Anrhydeddus Cangen Caerdydd o Gymdeithas y City Slickers.

A beth amdana' i ? Wel, ers i mi ddechrau cwrydro Cymru, rhyw bum mlynedd yn ôl, 'dwi wedi dod i adnabod ardaloedd amaethyddol Cymru yn well, a chael cwmni difyr y gymdeithas wledig, gartrefol groesawgar?

A dyna pam 'dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr wythnos nesa', pan fydd Radio Cymru yn darlledu o'r Sioe Frenhinol Amaethyddol.

Fe glywch chi fref y ddafad a chlochdar ambell i geilog, ar raglenni Nia, Geraint Lloyd, Eleri Sion a Blas.

Yn ogystal â sgwrsio efo ffermwyr o bob rhan o Gymru, 'dwi'n siwr y byddai hefyd yn cael cwmni 'city slicker neu ddau, fydd wedi dwad i'r sioe i fwynhau eu hunain am y diwrnod.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.